Y Gymraes Amber Davies yn ymuno â Strictly Come Dancing

Amber Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Amber yn perfformio am y tro cyntaf ar y rhaglen nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gymraes Amber Davies wedi ei dewis i fod yn rhan o gast Strictly Come Dancing eleni.

Bydd Amber yn cymryd lle Dani Dyer, sydd wedi gorfod gadael y gystadleuaeth oherwydd anaf.

Mae Amber yn wreiddiol o Sir Ddinbych ac fe ddaeth yn adnabyddus ar ôl ennill cystadleuaeth Love Island yn 2017.

Mae bellach yn gweithio fel actores broffesiynol ac wedi serennu mewn cynyrchiadau fel Pretty Woman, 9 to 5: The Musical a The Great Gatsby.

Roedd Amber hefyd yn gystadleuydd brwd yn Eisteddfodau'r Urdd pan yn iau.

'Gwireddu breuddwyd'

Wrth siarad â'r BBC dywedodd: "Dyma'r 24 awr fwyaf gwyllt yn fy mywyd.

"Dwi wedi gwylio Strictly efo fy nheulu ers ro'n i'n iau, ac i fod yn rhan o'r sioe, dwi wedi gwireddu breuddwyd.

"Dwi am roi popeth a dwi'n gyrru fy nymuniadau gorau i Dani ac yn gobeithio am wellhad buan iddi."

Mae Amber eisoes wedi cychwyn yr ymarferion gyda'i phartner dawnsio Nikita Kuzmin.

Bydd yn ymddangos ar y rhaglen am y tro cyntaf nos Sadwrn, yn dawnsio'r Waltz.

Pynciau cysylltiedig