Ymchwiliad ar ôl i ddyn farw ar safle depo cwmni amaethyddol
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu a'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i farwolaeth sydyn mewn depo amaethyddol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i depo cwmni Wynnstay yn Llansantffraid, Powys am 06:20 fore Llun.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod dyn wedi marw ar y safle.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ond mae ymholiadau'n parhau i'r digwyddiad.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, meddai'r llu.
Ychwanegodd y llu fod yr ymchwiliad yn parhau ac fe apelion nhw ar bobl i barchu preifatrwydd y teulu.