'Dim ond awr o normalrwydd y dydd sydd gen i yn sgil Covid hir'

Hywel EdwardsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Hywel Edwards yn un o 83,000 o bobl yng Nghymru sy'n cael trafferthion gydag effeithiau Covid hir

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wnaeth orfod symud tŷ oherwydd effeithiau Covid hir wedi dweud mai dim ond awr o normalrwydd y dydd sydd ganddo yn sgil y cyflwr.

Gan nad oedd yn gallu cerdded yr allt serth i'w gartref ym mhentref Parc ger Y Bala, mae'r Parchedig Hywel Edwards a'i wraig wedi gorfod symud.

Mae'n un o'r 83,000 o bobl yng Nghymru sy'n cael trafferthion gydag effeithiau Covid hir, ac yn rhan o grŵp sy'n helpu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i lunio gwasanaethau i bobl sy'n byw â'r cyflwr.

Ar drothwy diwrnod i fyfyrio ar Covid-19 yn y DU, dywedodd y gweinidog wrth BBC Cymru Fyw bod y cyflwr wedi ei newid fel person.

"Dydw i ddim yr un person ag yr o'n i bum mlynedd yn ôl. Ro'n i'n berson eitha' ffit ac wedyn mi ddoth yr aflwydd Covid ddiwedd Mawrth 2020," meddai.

'Dim ond yn gallu gwneud pethau am awr'

Ychwanegodd: "Dwi'n gwybod bod llawer wedi dioddef yn waeth a bu nifer o farwolaethau ond ar sawl wedd dwi'n methu byw bywyd bob dydd, a dwi ond yn gallu gwneud gweithred sy'n cymryd awr.

"Y gair llesgedd nid blinder sy'n disgrifio fy nghyflwr orau. Mae'n effeithio ar bob rhan o dy gorff - mae 'na boenau yn medru dod gyda fo, dwi methu canolbwyntio a methu cysgu'n iawn.

"O'dd gen i ryw 20 o symptomau eraill ond mae rheiny wedi lleddfu wrth i fi ddysgu byw gyda'r cyflwr."

Mae bod ynghanol pobl yn ei flino ac hefyd gorddefnydd o'i lais, ychwanegodd.

"Fedra i chwaith ddim canolbwyntio ac felly ddim yn gallu darllen mwy na thudalen neu ddwy.

"Hefyd dyw'r eirfa oedd gennyf cynt ddim yno ac mae dod o hyd i air arall tebyg yn waith ynddo'i hun."

Er nad yw eisiau cael ei labelu fel dioddefwr Covid hir, mae'n dweud bod yn rhaid iddo gydnabod bod cyfyngiadau ar yr hyn mae'n gallu ei wneud bellach.

"Mae'n rhaid i mi gadw curiad y galon o dan 105 neu dwi'n gwybod fyddai'n sâl", meddai.

"Mae hynna'n golygu bod unrhyw ymarfer corff a cherdded allt yn anodd - a gan bod fy nghartref yn Y Parc hanner ffordd fyny allt serth roedd rhaid i ni symud ond dwi ddim am gwyno na galaru am yr hyn sydd wedi'i ddwyn oddi arnai."

Edward Howell JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Edward Howell Jones gyfnod o flinder llethol wedi iddo gael Covid yn Hydref 2021, a bu bant o'r gwaith am fisoedd

Profiad tebyg yw un Edward Howell Jones - pennaeth Ysgol Gyfun Pen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Er ei fod yn teimlo'n llawer gwell, mae'n dweud bod Covid hir wedi newid ei fywyd am byth.

Cafodd gyfnod o flinder llethol ar ôl cael Covid yn Hydref 2021 a bu bant o'r gwaith am fisoedd.

Ond gyda chymorth fitaminau penodol a sesiynau cwnsela mae wedi gallu ailafael yn ei waith.

"Ond dwi ddim yn teimlo yr un fath â chynt. Mae trefn fy niwrnod wedi newid - dwi ddim yn gallu gweithio wedi chwech bellach."

CovidFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Covid wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar addysg hefyd, medd Edward sy'n bennaeth ysgol

"Dwi'n dihuno am ryw dri chwarter awr yn ystod yr oriau mân ac mae'n rhaid pwyllo wrth gerdded i fyny'r tyle - lle cynt roeddwn i'n hapus i gerdded y Bannau," ychwanegodd.

"Ond anghofiai fyth mo'r cyfnod rhwng Hydref 2021 a'r mis Mai canlynol.

"Roedd y traed yn drwm ac yn borffor, doedd gen i ddim egni - yn methu agor potel ddŵr na chodi brêc llaw y car a methu cael trywydd wrth feddylu ac roeddwn i'n orbryderus - rhywbeth anarferol i fi a doeddwn i ddim yn gwella.

"Fyddwn i'n dod lawr y grisiau ond yn methu cerdded nôl, ac os awn am dro yn lleol roedd rhaid i fi yn aml eistedd ar fainc a galw'r wraig i fy nôl.

"Doeddwn i chwaith ddim yn gallu codi fy nghoes i fynd mewn i'r bath i gael cawod - y cyfan mor rhwystredig."

CatsgamFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Edward yn falch ei fod yn gallu chwarae gyda Catsgam unwaith eto, ond nid fel cynt

Mae Edward hefyd yn aelod o'r grŵp Catsgam, a phrofiad anodd iawn iddo oedd methu canu'r gitâr am gyfnod.

"Doedd gen i ddim teimlad yn fy mysedd ac er nad yw hynny wedi dod nôl yn llwyr dwi'n gallu perfformio gyda Catsgam bellach.

"Ond mae'n rhaid i fi ddweud bod rhai o'r effeithiau yn rhai hirdymor - weithiau nawr mae tasg o ysgrifennu llythyr pum munud yn gallu cymryd teirawr wrth i fi fethu gorffen brawddegau yn iawn a dwi ddim yn gallu gofalu am yr ardd fel cynt.

"Fel pennaeth mae'n rhaid i fi ddweud hefyd bod Covid wedi cael cryn effaith ar addysg ac fe gymrith flynyddoedd i bethau ddod nôl fel cynt.

"Mae presenoldeb disgyblion bellach oddeutu 88% lle cynt roedd e'n 95%, mae llythrennedd plant ar y cyfan yn is, mae eu geirfa yn fwy cyfyng a dydyn nhw ddim yn gallu datblygu cystrawen cystal.

"Mae'n anodd credu bod pum mlynedd ers Covid. Mae ei effeithiau yn bellgyrhaeddol ac efallai yn para am byth."

Mae cyfweliad y Parchedig Hywel Edwards i'w glywed yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds