Covid hir: Gwersi canu opera i helpu cleifion
- Cyhoeddwyd
Mae gwersi canu opera yn cael eu defnyddio i helpu adferiad pobl sy'n dioddef o Covid hir.
Perfformwyr Opera Cenedlaethol Cymru sy'n gyfrifol am arwain y sesiynau canu ac anadlu er mwyn ceisio rheoli sgil effeithiau'r feirws ar yr ysgyfaint.
Mae'n bosib y gallai'r cynllun adferiad newydd gael ei ddefnyddio i helpu cleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd eraill.
Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am gyfeirio unigolion at y sesiynau sy'n cael eu cynnal ar-lein.
'Bywyd ben i waered'
Michele Roberts o'r Rhondda yw un o'r bobl gyntaf sydd â Covid hir i elwa o'r gwersi canu ac anadlu.
Fe wnaeth Ms Roberts ddal Covid-19 tra'n gweithio fel nyrs yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ym mis Mawrth 2020.
Bythefnos ar ôl iddi fynd yn sâl, fe ddechreuodd ei chyflwr waethygu'n ddifrifol.
"Doedd fy ngŵr i ddim yn credu y byddwn i'n goroesi," meddai.
"'Nes i wrthod mynd i'r ysbyty. Yn fy meddwl i, doedd dim modd i bobl ymweld â theulu yn yr ysbyty ar y pryd, felly roedd e'n well gen i aros adref a marw yn ei freichiau ef.
"Mae cyfnod o chwe wythnos ar ôl hynny lle dwi ddim yn gallu cofio unrhyw beth. Roeddwn i'n cysgu drwy'r amser, doeddwn i ddim yn gallu ymolchi na gwisgo.
"Ers hynny mae fy mywyd wedi troi ben i waered," meddai.
Dywed Ms Roberts ei bod o hyd yn byw gyda sgil effeithiau Covid-19. O ganlyniad, dyw hi ddim wedi gallu dychwelyd i weithio fel nyrs yn yr ysbyty.
"I ddechrau, roedd e'n sefyllfa frawychus achos doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. 'Nes i drio mynd yn ôl i'r gweithle, ond doedd hynny ddim yn bosib.
"Oherwydd Covid hir ti'n dioddef o ben tost, poen o amgylch y llygaid, poen gyda'r nerfau, diffyg anadl, a'r teimlad o flinder drwy'r amser - ac mae'n anodd codi o'r gwely yn y bore," ychwanegodd.
Wedi iddi dderbyn y newidiadau i'w bywyd bob dydd, fe benderfynodd Ms Roberts i gysylltu gyda'i bwrdd iechyd lleol.
Cafodd ei chyfeirio at gynllun adferiad Covid hir gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
'Ymateb anhygoel'
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Ymrwymiad Opera Cenedlaethol Cymru, Emma Flatley: "Mae'r ymateb i'r rhaglen wedi bod yn anhygoel."
"Mae'r ddwy raglen beilot wedi dangos canlyniadau tu hwnt o gadarnhaol o ran iechyd ac anadlu pobl, yn ogystal â gwelliannau yn seicolegol i'r rhai hynny sy'n cymryd rhan.
"Mae pobl hefyd wedi gallu osgoi teithiau brys i'r ysbyty drwy ddefnyddio'r technegau a'r cyngor sydd wedi'u rhoi iddynt."
Dywedodd y soprano a'r anogwr llais Zoe Milton-Brown: "Fel cantorion opera, rydyn ni'n ffocysu ar anadlu yn y modd mwyaf effeithlon posib - ac yn treulio llawer o amser yn dysgu sut i wneud hynny.
"Gyda'r holl ymarferion hyn, rydyn ni'n gobeithio rhannu'r gwahanol ffyrdd ry'n ni'n cadw ein hanadlu ni'n sefydlog, cael mynediad i'n hysgyfaint, a defnyddio ein diaffram.
"Fe wnaethon ni ddyfeisio'r holl ymarferion hyn gyda Covid hir mewn golwg, er mwyn helpu eraill gymaint ag y gallwn ni i ailgydio mewn techneg anadlu sy'n effeithlon ac ymlaciedig.
"Rydyn ni am i bobl deimlo mai nhw sydd mewn rheolaeth yn ystod y sesiynau hyn. Rydyn ni'n archwilio'n lleisiau ni ac yn ceisio cadw'r anadlu yn gyson.
"Ry'n ni wedi gweithio ar lawer o ganeuon werin gan eu bod nhw'n hawdd cydio ynddynt ac mae ganddyn nhw alawon hyfryd, ac rydyn ni'n gweithio drwy'r amser i ymestyn ein hanadliadau ni gymaint ag y gallwn ni."
Dywed Ms Roberts: "Rwy'n cofio meddwl ar ôl y sesiwn cyntaf, nad oeddwn i eisiau iddo orffen. Ond roedd awr yn ddigon achos ro'n i'n flinedig iawn erbyn hynny.
"Yn ogystal â'r canu, mae'r sesiynau gyda'r canwr opera yn canolbwyntio ar ymlacio. Pethau bach gallech chi eu defnyddio yn eich bywyd bob dydd i helpu.
"Mae fy ngŵr wedi sylwi ar welliant mawr yn fy iechyd corfforol ac iechyd meddwl, achos dwi wedi cael profiadau tywyll iawn dros y ddwy flynedd diwethaf.
"Ond nawr rwy'n gallu siarad â phobl yn well heb orfod stopio i geisio anadlu'n iawn. Dwi hefyd yn gallu cerdded yn bellach a siarad a cherdded ar yr un pryd."
'Ymlacio a mwynhau'
Dywedodd arweinydd gweithredol y gwasanaeth adferiad Covid hir ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf, Sofia Harries: "Roedd y cysylltiad rhwng canu ac iechyd yr ysgyfaint ac iechyd meddwl yn cael ei gydnabod cyn y pandemig".
"Ond yn fwy na hynny, mae'r gwasanaeth yma yn llwyddo i ddod â phobl sydd â phrofiadau tebyg at ei gilydd yn y sesiynau canu ar-lein.
"Mae'r addysg adferiad rydyn ni fel byrddau iechyd yn ei ddarparu yn gyfarwyddol, ond mae'r sesiynau canu yn gyfle i bobl ymlacio a mwynhau, ac o ganlyniad dydyn nhw ddim yn gorfeddwl am yr anadlu a rheoli'r diaffram."
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £5m yn ychwanegol mewn gwasanaethau adfer Covid hir newydd.
Y gobaith yw y bydd byrddau iechyd yn gallu ehangu'r sesiynau yma er mwyn ceisio helpu cleifion sy'n dioddef symptomau tebyg o ganlyniad i gyflyrau iechyd eraill fel sglerosis ymledol (MS), enseffalopathi myalgig (ME) a syndrom blinder cronig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021