Lauren Price i goncro'r byd bocsio?

- Cyhoeddwyd
Ym mis Mai 2024 creuwyd hanes wrth i Lauren Price ennill pencampwriaeth bocsio'r byd - y ferch gyntaf o Gymru i gyflawni camp o'r fath.
Dilynodd Lauren yn ôl traed Jimmy Wilde, Howard Winstone, Joe Calzaghe ac eraill gan ddod y 14eg pencampwr byd o Gymru.
Mae Lauren yn berchen ar wregys pencampwr cyrff y WBA, IBO a Ring Magazine, a nos Wener, 7 Mawrth, mae hi'n gobeithio ychwanegu pencampwriaethau IBF a'r WBC i'w chasgliad.
Yn sefyll rhyngddi hi a rheolaeth llwyr o adran pwysau welter y byd y mae Natasha Jonas, y bocswraig o Lerpwl.
Bydd y ddwy yn wynebu ei gilydd yn yr Albert Hall yn Llundain, gyda'r cyfan yn y fantol.
Mae disgwyl y bydd yr ornest rhwng Price a Jonas yn dechrau rhwng 22:00-22:30 nos Wener, a bydd posib gwrando ar y cyfan yn fyw ar BBC Cymru Fyw.

Lauren Price a Natasha Jonas tu allan i Neuadd Albert, lleoliad yr ornest rhwng y ddwy
Mae Price yn ddiguro mewn wyth gornest broffesiynol, wedi gyrfa arbennig fel amatur - aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2018, Pencampwriaethau Ewrop 2019, Pencampwriaethau'r Byd 2019 a Gemau Olympaidd Tokyo 2020.
Mae Jonas hefyd â chefndir arbennig yn y gamp - 16 buddugoliaeth, dwy golled ac un gornest gyfartal yn ei gyrfa broffesiynol.
30 oed yw Lauren Price, ble mae Natasha Jonas yn 40, ac mae hyn yn un o'r ffactorau sy'n esbonio pam mai Price yw'r ffefryn yn ôl y siopau betio mawr.
Os fydd Price yn fuddugol yn erbyn Jonas bydd hi'n ennill ei lle gyda enwau fel Claressa Shields, Chantelle Cameron, Katie Taylor a Amanda Serrano - bocswyr gorau'r byd ar y funud.

Cafodd Price ei gornest broffesiynol gyntaf ym mis Mehefin 2022, ac mae Jonas yn broffesiynol ers 2017
Ond wrth gwrs roedd gan Lauren Price yrfa lewyrchus yn y byd chwaraeon cyn iddi ddechrau bocsio. Roedd Lauren yn rhagori mewn pêl-droed, gan chwarae dros Gaerdydd ac ennill capiau rhyngwladol i Gymru.
Rhywun sydd yn ei 'nabod yn dda yw Kath Morgan, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a'r ferch gyntaf o Gymru i ennill bathodynnau hyfforddi trwydded 'A' gan UEFA, yn 2008.
"Pan ddaeth Jarmo Matikainen yn rheolwr ar dîm menywod Cymru yn 2010 o'n i'n rheolwr cynorthwyol iddo," meddai. "Yn fy rôl o'n i'n gyfrifol am y timau iau; dan-17, dan-18 a dan-19. Daeth Lauren fewn i'r system genedlaethol yn 2011."

Lauren yn cynrychioli Cymru dan-19 yn erbyn Lloegr - 2 Ebrill, 2012
Fe wnaeth Lauren argraff fawr ar Kath yn syth.
"Pan ddaeth hi fewn ges i fy nharo gan ba mor broffesiynol oedd hi a hefyd pa mor aeddfed oedd hi. Roedd gen hi'r focus 'ma o'n i erioed wedi gweld o'r blaen.
"Odd hi o'r Cymoedd fel fi, a ni'n hoffi edrych ar ôl ein gilydd yno felly 'nes i gadw llygad arni.
"Be' dwi'n cofio yw o'dd hi mor ddiolchgar am unrhyw tips ac adborth, ac o'dd hi'n amsugno fe i gyd lan."

Kath Morgan gyda Lauren, wedi iddi ddychwelyd i Gymru gyda'r fedal aur o Tokyo
Roedd Lauren yn chwarae i dîm dan-19 Cymru gyda Nia Jones, a aeth ymlaen i chwarae pêl-rwyd dros Gymru.
"Odd hi (Lauren) yn flaenllaw iawn yng ngharfan dan-19, ac fe roedd hi a Nia Jones yn rhannu'r gapteiniaeth," meddai Kath.

Lauren yn cynrychioli tîm Cymru, yn gwisgo'r crys rhif pump. Hefyd yn y llun mae ambell i wyneb cyfarwydd arall fel Nia Jones (rhif pedwar), Jess Fishlock (rhif chwech) a Sophie Ingle (rhif tri)
Mae Lauren Price wedi sôn yn y gorffennol ei bod wedi cael plentyndod anodd, gyda'i ddau riant yn byw gydag alcoholiaeth, ac o ganlyniad cafodd hi ei magu gan ei mam-gu a'i thad-cu.
Ond er yr heriau hyn fe ragorodd Lauren gyda'r timau iau ac fe aeth 'mlaen i chwarae dros y tîm hŷn.
Chwaraeodd Lauren ddwywaith dros brif dîm rhyngwladol Cymru yn 2012-13, tra roedd hi'n chwarae dros Glwb Dinas Gaerdydd.
"Roedd hi'n esiampl, o ran hyfforddi, ffitrwydd a disgyblaeth," meddai Kath.
"Falle roedd 'na chwaraewyr yn well na hi yn dechnegol, ond doedd 'na neb yn well o ran ymroddiad – hyfforddi'n galed, bwyta'n iawn a cymryd ice-baths ac ati."
Roedd Lauren yn paffio yr un pryd â'i gyrfa pêl-droed.
"Dydy bywyd fel bocsiwr ddim yn hudolus fel mae pobl yn ei feddwl. Ma' fe'n fywyd ynysig - ry' chi'n hyfforddi ben eich hun, mynd drwy'r un rwtîn dro ar ôl tro, ac mae hynny'n cymryd disgyblaeth arbennig."

Enillodd Lauren fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 gan guro Li Qian o Tseina yn y rownd derfynol
Mae Kath yn cofio un digwyddiad yn gymharol ddiweddar sy'n dangos cymeriad Lauren.
"Dwi'n cofio cymryd sesiwn hyfforddi pêl-droed Nghaerffili ar y caeau 4G ble mae tîm rygbi'r Dreigiau yn hyfforddi, ac roedd Lauren digwydd bod yno," meddai.
"Roedd hi newydd ddod nôl o Tokyo ble enillodd hi fedal aur, ac roedd hi'n rhoi cyfweliadau i'r wasg.
"Rhwng y cyfweliadau 'nes i chwibanu ar y merched ar y cae i ddod fewn yn agosach – dwi'n eitha' adnabyddus am allu chwibanu yn uchel iawn gyda fy mysedd.
"Fe glywodd Lauren fi'n chwibanu a throi rownd a dweud 'I thought I recognised that whistle!', a ddaeth hi lawr i siarad gyda fi.
"'Nath hi dynnu lluniau gyda'r merched, ac yna 'nath hi ddiolch i fi am ei helpu hi gyda'i gyrfa pan oedd hi'n iau. 'Nath hi hyd yn oed ymddiheuro am ddewis bocsio dros bêl-droed, ond 'nes i ddweud bod fi ddim yn gweld bai arni o gwbl - dwi'n meddwl 'nath hi'r penderfyniad iawn!
"Dyna sut fath o ferch yw Lauren; hoffus iawn a diymhongar. Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn i fod wedi gallu cyfrannu rhywfaint i'w gyrfa chwaraeon hi."

Price yng nghynhadaledd y wasg yn y Dorchester Hotel yn Llundain, 5 Mawrth 2025
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022