£27,000 i ferch gafodd ei hanafu mewn ffair ar Ynys y Barri

Fe gafodd y derch anaf i'w choes wrth gamu oddi ar reid yn Barry Island Pleasure Park yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae merch yn ei harddegau gafodd ei hanafu mewn ffair ar Ynys y Barri wedi derbyn £27,000 ar ôl dod i gytundeb gyda pherchennog y safle.
Roedd y ferch, a oedd yn 16 oed ar y pryd, yn gadael y 'Crazy Funhouse' yn Barry Island Pleasure Park pan lithrodd ar ddŵr a oedd wedi gorlifo o'r reid.
Cafodd ei throed dde ei ddal mewn bwlch rhwng y ramp a phaneli cyfagos, gan achosi anaf difrifol i'w choes.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty lle cafodd lawdriniaeth, ac er ei bod wedi gwella, mae disgwyl iddi deimlo effaith yr anaf am gyfnod hir.
Fe ddechreuodd achos cyfreithiol yn dilyn y digwyddiad ym mis Ionawr 2022, ac mae setliad bellach wedi'i gyrraedd heb ragfarn, a heb gyfaddefiad ffurfiol o atebolrwydd gan berchennog y ffair.
Dywedodd llefarydd ar ran y teulu fod y digwyddiad yn y ffair ym Mro Morgannwg wedi cael "effaith barhaol".
"Rydyn ni'n gobeithio, trwy ddod â'r mater hwn i'r amlwg, y bydd teuluoedd eraill yn ymwybodol o'r risgiau ac y bydd gweithredwyr y ffair yn cymryd eu cyfrifoldebau yn fwy difrifol," medden nhw.
Mae Barry Island Pleasure Park wedi cael cais am sylw.