Athro yn y llys ar gyhuddiadau troseddau rhyw gyda phlentyn

Jonathon Coombs
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Jonathon Coombs wedi rhoi tua £500 i'r bachgen

  • Cyhoeddwyd

Mae athro 54 oed o'r Barri wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plentyn.

Mae Jonathon Coombs yn gwadu saith cyhuddiad o weithred rhyw gyda phlentyn gan berson sydd mewn swydd o ymddiriedaeth.

Fe glywodd y llys fod Mr Coombs yn athro drama yn Ysgol Pencoedtre ar adeg y troseddau honedig, ac roedd yn ymwneud â chwmnïau drama lleol.

Wrth agor yr achos ar gyfer yr erlyniad, dywedodd Roger Griffiths wrth y rheithgor ei fod wedi cyfaddef cael rhyw gyda'r unigolyn, sydd yn ei arddegau, mewn parti ar ôl un cynhyrchiad.

Clywodd y llys sut y gwnaethant gyfnewid negeseuon, gyda Mr Coombs yn dweud wrth y bachgen ei fod yn "gay guru" iddo.

'Methu delio'

Clywodd y llys i'r unigolyn gael ei wahodd i dŷ Mr Coombs ac ar un adeg eu bod wedi cychwyn cusanu.

Fe ddisgrifiodd y bachgen y sefyllfa i'r heddlu fel un oedd yn mynd "yn fwyfwy rhyfedd".

Mewn cyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd ar un adeg pan wnaeth drio rhwystro'r hyn oedd yn digwydd, fe wnaeth Mr Coombs fygwth lladd ei hun.

"Do'n ni methu delio gyda hynny," meddai'r bachgen wrth yr heddlu.

Clywodd y rheithgor fod Mr Coombs wedi rhybuddio'r unigolyn y byddai'r ddau ohonynt yn mynd i drafferth pe bai unrhyw un yn dod i wybod am y berthynas, ac y byddai'n difetha eu bywydau.

Clywodd y llys eu bod wedi ffraeo'n gyhoeddus yn dilyn un perfformiad drama, a bod Mr Coombs wedi ei gyhuddo o fod yn anniolchgar gan daflu diod drosto.

Pan gafodd ei holi am yr hyn ddigwyddodd, fe glywodd y rheithgor fod Mr Coombs wedi dweud: "Fe allwn i golli fy swydd oherwydd hyn, ond dwi ddim yn poeni, fe wnaethon ni gysgu hefo'n gilydd."

Mae Mr Coombs yn gwadu unrhyw anaddasrwydd rhywiol gyda'r unigolyn.

Mewn cyfweliad gyda'r heddlu a gafodd ei chwarae yn y llys, dywedodd y bachgen fod Mr Coombs wedi gwneud iddo deimlo trueni drosto wrth iddo rannu straeon am ei rieni yn heneiddio a'i gyn-gariad yn ei daro.

'Ddim yn bwriadu i hyn ddigwydd'

Dywedodd y bachgen fod Mr Coombs wedi defnyddio blacmêl emosiynol pan oedd yn ceisio rhoi diwedd i'r hyn ddigwyddodd.

"Dywedodd os byddai unrhyw un yn ffeindio allan yna byddai'r ddau ohonom mewn trwbl a phan wnes i geisio dod â phethau i ben, dywedodd 'do'n ni byth eisiau disgyn mewn cariad gyda ti, do'n ni ddim yn bwriadu i hyn ddigwydd'."

Pan holodd yr heddlu i'r bachgen mewn cyfweliad: "A oeddet yn credu dy fod mewn perthynas ag ef?", atebodd "Na".

Yn yr un cyfweliad daeth i'r amlwg fod Mr Coombs yn mynnu rhoi arian i'r bachgen mewn cardiau, ond nad oedd yn gorffen y cerdyn gyda'i enw, ond yn hytrach yn ysgrifennu: "From your one and only".

Dywedodd iddo dderbyn tua £500 ganddo: "Byddai'n rhoi'r cerdyn i mi ac yna byddai'n arwain at rywbeth rhywiol."

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig