Caffi cymunedol yn y canolbarth mewn 'argyfwng' ariannol

Canolfan Cletwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan Cletwr yn cynnwys caffi a siop

  • Cyhoeddwyd

Mae canolfan gymunedol yng nghanolbarth Cymru wedi galw am gymorth ariannol gan y cyhoedd er mwyn helpu i sicrhau ei dyfodol dros y gaeaf.

Mae canolfan Cletwr wedi'i lleoli yn Nhre'r-ddôl, rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, ac yn cynnwys caffi a siop.

Yn ôl rheolwyr y sefydliad mae'r sefyllfa wedi cyrraedd "pwynt o argyfwng", gyda chwyddiant, costau stoc ac effaith Storm Darragh ymysg yr achosion.

Mae'r sefydliad wedi lansio ymgyrch ar-lein i godi arian, ac wedi gwneud cais am fenthyciad gan fanc cymunedol.

Ers lansio'r apêl ddydd Sul, mae'r ymgyrch eisoes wedi codi dros £7,000, o'u targed o £30,000.

'Does dim arian'

Dywedodd Nigel Callaghan, sy'n gwirfoddoli fel is-gadeirydd ar fwrdd canolfan Cletwr, fod "amseroedd wedi bod yn anodd i bawb dros y blynyddoedd diwethaf".

"Ar hyn o bryd mae angen arian i ad-drefnu'r busnes ar gyfer y dyfodol," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Ni'n trafod benthyciad ar y funud, ond nid yw am fod ar gael am ychydig fisoedd eto, er mwyn iddyn nhw fedru checkio popeth a gweld ein bod yn medru ad-dalu'r arian yn ôl.

"Am y misoedd nesaf rydyn ni angen talu biliau a chyflogau, ond does dim arian.

"Felly mae angen ychydig filoedd o bunnoedd i dalu biliau tan rydyn ni'n sortio mas y benthyciad.

"Mae pobl wedi bod yn neis iawn hyd yn hyn, ond mae angen lot mwy o fewn y pythefnos nesaf yn anffodus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nigel Callaghan eu bod wedi talu £26,000 am drydan y llynedd, o'i gymharu â £6,000 y flwyddyn cyn hynny

Pwysleisiodd Mr Callaghan bod y ganolfan yn safle pwysig iawn i'r gymuned.

"Just edrychwch ar y negeseuon mae pawb yn gadael ar Just Giving - mae pawb yn caru Cletwr. Mae'n gwneud cymaint o les i'r gymuned.

"Felly ni moyn cadw Cletwr i fynd. Mae pawb eisiau ei weld yn cario 'mlaen.

"Ar hyn o bryd ni'n gobeithio casglu £30,000, ac rydyn ni hefyd yn cynnig opsiynau eraill i bobl - cynllun credit, sef rhoi arian mewn cyfrif i ddefnyddio yn y siop.

"Wedyn yn medru prynu stwff mewn mis, ac mae'n help mawr cael arian yn y banc.

"Os ydy unrhyw un yn 'nabod Bill Gates - 'nawn ni ddim dweud na!

"Mae e'n hwb Cymraeg yn yr ardal, ac mae hybu'r Gymraeg mor bwysig - byddai colli rhywbeth fel 'na yn ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r caffi yn y ganolfan ar agor trwy'r wythnos

Esboniodd Mr Callaghan fod criw'r ganolfan yn ceisio meddwl am gynlluniau hir dymor newydd.

"O ran yr hir dymor ni wedi neud cynlluniau, ond mae'n dibynnu ar gael y benthyciad er mwyn medru gwneud gwahanol bethau i ad-drefnu ac ymestyn," meddai.

"Byddai'n golygu'r gallen ni gael mwy o bobl i mewn, gwerthu stoc gwell, trefnu mwy o ddigwyddiadau i'r gymuned, a chario 'mlaen i fod yn rhan bwysig o'r gymuned.

"Does dim lot o arian gan unrhyw un, ond y pwynt ydy bod Cletwr yn beth pwysig iawn, iawn o fewn bywyd yr ardal.

"Cyn Covid roedden yn ffynnu - lot o arian yn y banc a phopeth ar i fyny. Ond rŵan hefo prisiau fel trydan i fyny mae'n anodd.

"Flwyddyn diwethaf, talon ni £26,000 ar drydan, a dim ond £6,000 oedd yn rhaid talu y flwyddyn gynt!

"Felly un o'r pethau ni'n edrych ar nawr ydy cael mwy o baneli haul. Mewn theori dylai hyn arbed £5,000 y flwyddyn."