Sioc caffi cymunedol ar ôl cael bil trydan o £13,000
- Cyhoeddwyd
Mae caffi cymunedol yn y canolbarth wedi disgrifio eu sioc ar ôl cael bil trydan o £13,000 am y tri mis diwethaf.
Mae Caffi Cletwr yn Nhre’r-ddôl, rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, yn dweud eu bod wedi gorfod talu £32,000 am drydan dros y flwyddyn gyfan.
Mae busnesau dan bwysau mawr ac angen mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a San Steffan, yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod cronfa newydd gwerth £20m wedi'i sefydlu i helpu busnesau gyda chostau ynni yn benodol.
Prisiau 'wedi mynd drwy'r to'
Yn ôl Nigel Callaghan, sy’n gwirfoddoli fel is-gadeirydd ar Fwrdd Caffi Cletwr, llif arian yw’r broblem fwyaf.
"Mewn blwyddyn arferol, ni’n defnyddio rhyw 35,000KW o unedau... rhyw ddwy neu dair blynedd yn ôl, roeddem ni’n talu 20c y KW, rhyw £6,000 ar gyfartaledd y flwyddyn, am ein trydan.
"Mae'r cynnydd ym phrisiau ynni wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i ni."
Yn dilyn cau'r orsaf betrol yn Nhre’r-ddôl, fe ddaeth y gymuned ynghyd yn 2013 i brynu'r lle.
Fe wnaethon nhw sicrhau grantiau ac ailadeiladu'r ganolfan a gafodd ei hagor yn 2017.
Mae'r adeilad wedi'i lunio i fod mor wyrdd a chost-effeithiol â phosib o ran ynni.
Ond ychwanegodd Mr Callaghan: "Rhyw ddeunaw mis yn ôl, fe aeth y prisiau drwy'r to, a be' mae lot heb sylwi ydy’r ffaith, er bod cap ar filiau domestig, does dim cap wedi bod ar filiau masnachol.
"Felly, pan roedd pobl gartre yn talu 30c y KW, roedd busnesau yn talu'r pris am hynny.
"Pan ddaeth hi’n amser i ni adnewyddu cytundeb gyda chyflenwr, y gorau ar y pryd oedd cytundeb 12 mis, fixed price ar 70c y KW a £2 y dydd o ffi sefydlog.
"Rhwng Chwefror 2023 a 2024, mi fyddwn ni wedi talu £32,000, sy'n cynnwys VAT, ac er y gallwn ni hawlio hwnnw'n ôl, maes o law, mae angen talu'r arian nawr.
"Diolch byth, mae'r cytundeb yn dod i ben, ac fe fyddwn ni, yn fuan iawn, 'nôl i dalu 26c yr uned," ychwanegodd.
Arian wrth gefn wedi mynd
Yn ôl Nigel Callaghan, mae unrhyw arian oedd ganddyn nhw wrth gefn yn y banc wedi mynd, yn sgil blynyddoedd Covid.
"Cyn Covid, roedd ganddom ni falans solid yn y banc, roedden wedi’i adeiladu i fyny dros ryw bum mlynedd, ond mae Covid 'di golygu bod y balans 'na i gyd wedi mynd.
"Ry'n ni dal yn gwneud ychydig bach o elw. Mae 5% o'n trosiant i gyd yn mynd ar drydan.
"Does dim lot o gostau gyda ni, diolch byth - y trydan yw'n cost mwyaf."
Apêl ar y cyfryngau cymdeithasol
Wedi iddyn nhw dderbyn y bil, fe wnaeth y cwmni gyhoeddi difrifoldeb y sefyllfa ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae nifer o bobl lleol wedi ymateb.
"Mae gennym ni gynllun credyd yn y siop a’r caffi, sy’n golygu bod pobl yn gallu talu swm o arian i mewn ymlaen llaw ac yn ei wario fel y bo’r angen.
"Mae'n gweithio'n dda iawn. Mae 'na ryw £50,000 yn mynd drwy'r cyfrifon fel hyn.
"Mae nifer o bobl caredig wedi rhoi £500 i £1,000 yn eu cyfrif yn ddiweddar, felly mae 'na arian yn y banc i dalu'r bil uchel."
Mae'r cwmni hefyd yn edrych ar osod mwy o baneli solar er mwyn cynhyrchu mwy o drydan.
Er nad ydy bwrdd cwmni cymunedol Cletwr yn poeni am ddyfodol hir dymor eu busnes nhw, maen nhw'n poeni am fusnesau llai.
Yn ôl Nigel Callaghan: "Mae cwmnïau bach yn ei chael hi’n anodd. Dwi’n gobeithio gallwn ni oroesi hyn, ond wrth feddwl am gaffi bach sy’ mewn tre, sydd angen trydan ar gyfer gwresogi neu goginio, mae'n amhosib iddyn nhw.
"Dwi 'di sylwi bod lot o gaffis ddim ar agor saith diwrnod yr wythnos erbyn hyn. Mae 'na broblem cael staff, mae prisiau bwyd 'di mynd fyny, ac mae costau bod ar agor yn ormod.
"Mae'r cyflog byw yn mynd i fyny 10% hefyd fis nesaf, sy'n wych i weithwyr, ond wrth gwrs, bydd ein bil cyflog ni yn codi 10% hefyd."
Mae Mr Callaghan yn poeni am fedru talu cyflenwyr y siop, y cwmnïau bach lleol.
"Mae cwmnïau bach, lleol, mor bwysig mewn ardal fel hon, mae'n economi gylchol. Ni ddim eisiau bod yn hwyr yn eu talu nhw, 'di o’m yn deg iddyn nhw."
Galw am gymorth
Yn ôl pennaeth polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach, Dr Llŷr ap Gareth, mae busnesau "wir yn teimlo'r pwysau o sawl ochr, boed hynny’n chwyddiant, costau ynni, neu gostau llafur".
"Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i godi'r Lwfans Cyflogwyr o £5,000 i £6,500 a fyddai'n cefnogi busnesau llai gyda'r cynnydd mewn costau llafur gyda chodi'r isafswm cyflog byw cenedlaethol," meddai.
Er mwyn helpu busnesau, mae Ffederasiwn y Busnesau Bach am i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol wedi iddyn nhw ostwng y gefnogaeth ar ardrethi busnes i’r sector hamdden, manwerthu a lletygarwch o 75% i 40%.
Yn ôl Dr Llŷr ap Gareth: "Mae ein haelodau yn dweud wrthym fod hwn yn fesur pwysig i leddfu ar gostau sectorau sy'n chael hi'n fwyaf anodd ar hyn o bryd."
Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i hyd at 2,500 o fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden drwy'r Gronfa Paratoi at y Dyfodol - cronfa newydd gwerth £20m i’w helpu gyda lleihau eu costau ynni yn benodol.
Yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, "bydd y grantiau yn helpu busnesau canolig, bach a meicro i wneud newidiadau sylweddol er mwyn addasu i’r dyfodol".
Bydd y gronfa yn cynnig grantiau hyd at 75% o gostau’r prosiect ac fe fydd modd rhoi cais i mewn ym mis Mai.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diogelwch Ynni a Sero Net San Steffan: "Pan gyrhaeddodd y prisiau ynni eu pwynt uchaf, fe wnaethon ni weithredu'n gyflym i ddarparu cymorth digynsail i fusnesau bach, gan arbed £7 biliwn iddyn nhw a galluogi rhai i ddim ond talu tua hanner y costau ynni cyfanwerthol.
"Mae ein cefnogaeth yn parhau hyd at 31 Mawrth 2024 gyda'n Cynllun Disgownt Biliau Ynni – sy'n caniatáu i sefydliadau cymwys o bob maint gael gostyngiad os ydyn nhw'n wynebu biliau ynni uchel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd4 Awst 2018
- Cyhoeddwyd3 Medi 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd2 Medi 2022