Dau ddyn wedi ceisio smyglo tunnell o gocên ar gwch pysgota

Lily LolaFfynhonnell y llun, Asiantaeth Troseddu Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pedwar dyn eu dal yn trio smyglo dros dunnell o gocên ar gwch pysgota mis Medi'r llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn o Abertawe wedi'u cael yn euog am drio smyglo gwerth £100m o gocên ar gwch pysgota ger Cernyw.

Cafodd pedwar dyn eu dal gyda mwy na thunnell o'r gyffur Dosbarth A ar fwrdd y cwch, Lily Lola, fis Medi y llynedd.

Cafwyd Jon Williams, 46, o Windmill Terrace, St Thomas, Abertawe a Patrick Godfrey, 31, o Danygraig Road, Port Tennant, Abertawe yn euog ddydd Mercher o geisio smyglo 1,076kg o'r cyffur.

Roedd y ddau ddyn arall - Michael Kelly, 45, a Jake Marchant, 27 - eisoes wedi pledio'n euog yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.

Bydd y pedwar yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Truro ar 8 Mai.

Jon Williams (chwith) a Patrick Godfrey (dde)Ffynhonnell y llun, Asiantaeth Troseddu Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Jon Williams (chwith) a Patrick Godfrey (dde)

Roedd Williams, y capten - a brynodd y cwch am £140,000 deufis ynghynt - wrth y llyw pan gafodd y troseddwyr eu dal toc wedi 14:00 ar 13 Medi gan Lu'r Ffiniau.

Cafodd y Lily Lola ei gymryd i'r doc brenhinol yn Plymouth a chafodd y cyffuriau eu symud oddi ar y cwch.

Roedd dyfais ar fwrdd y cwch yn dangos bod y criw yn derbyn cyfarwyddiadau gan drydydd parti, yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.

Cafodd traciwr ei ddarganfod ymysg y cyffuriau a gafodd ei gysylltu â defnyddiwr yn Ne America.

Lily LolaFfynhonnell y llun, Asiantaeth Troseddu Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros dunnell o gocên ei ddarganfod ar fwrdd y Lily Lola

Dywedodd Derek Evans, rheolwr cangen yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol: "Mae'r NCA a Llu'r Ffiniau wedi atal llwyth enfawr o gocên rhag cyrraedd strydoedd y DU ac Ewrop yn ehangach, lle byddai wedi difetha bywydau a chymunedau.

"Rydyn ni wedi tarfu ar gadwyn gyflenwi cyffuriau ac wedi sicrhau bod troseddwyr yn cael eu hamddifadu o'r elw sylweddol y bydden nhw wedi'i ennill pe bai'r cyffuriau wedi cyrraedd y wlad.

"Mae'r NCA yn gweithio bob awr o'r dydd gyda phartneriaid yma a thramor i erydu'r rhwydweithiau troseddol sy'n elwa o'r fasnach gyffuriau."

Pynciau cysylltiedig