Protest yn y Senedd yn erbyn toriadau i gwmni opera

Protest Opera Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd o bobl wedi casglu tu allan i'r Senedd i brotestio yn erbyn toriadau i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi dod ynghyd y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd i brotestio yn erbyn toriadau i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru (WNO).

Mae'r cwmni “wedi gorfod gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol".

Maen nhw wedi "wedi agor ffenestr diswyddo gwirfoddol" ar gyfer staff sydd ddim yn perfformio, ac "mewn trafodaethau gydag undebau ynghylch ail-negodi contractau gyda’n Cerddorfa a’n Corws er mwyn arbed costau".

Yn dilyn eu hadolygiad buddsoddi ym Medi 2023, roedd yna ostyngiad o 35% yn yr arian gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i'r WNO, tra bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn torri ei chyfraniad ariannol 11.8%.

Fis Ebrill, cyhoeddodd y cwmni na fydden nhw'n teithio i Landudno na Bryste ddechrau'r flwyddyn nesaf oherwydd y sefyllfa ariannol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llythyr ei lofnodi gan 170 o bobl a'i yrru at weinidogion diwylliant Cymru a'r DU

Roedd dylunwyr gwisgoedd a staff cefn llwyfan wedi ymuno â cherddorfa a chorws WNO ar risiau'r Senedd.

Fe ddechreuon nhw’r brotest gyda pherfformiad o Emyn y Pasg gan Cavaleria Rusticani - yr opera gyntaf i’w llwyfannu gan y cwmni ym 1946.

Ar ôl detholiad o Carmen gan Bizet, ymunodd corau cymunedol â nhw ar gyfer yr emyn Gymraeg Gwahoddiad a’r anthem genedlaethol.

Dywedodd y trefnydd, Elizabeth Atherton, ei bod yn gobeithio y byddai’r canu’n ddigon uchel i darfu ar drafodion y Senedd "fel eu bod yn gwybod beth sydd mewn perygl o gael ei golli".

“Rydym yn llythrennol yn canu am ein dyfodol,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein dyfodol tymor hir" meddai Opera Cenedlaethol Cymru

Yn ôl Philip Lloyd-Evans o gorws Cwmni Opera Cymru, mae’r toriadau “am gael effaith anferth ar y cwmni wrth symud ymlaen".

“Mae’r toriadau anrheithiol hyn yn golygu na all eich Corws na’ch Cerddorfa weithredu’n amser llawn.

“Bydd y cymunedau ry’n ni’n eu cyrraedd yn llai, bydd y cynulleidfaoedd ry’n ni’n perfformio o’u blaenau’n llai a bydd dyfodol creu cerddoriaeth i’n plant yn llai o lawer.”

Yn ymateb i'r brotest ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru nad oedd y brotest "gan aelodau’r cwmni, wedi’i gefnogi gan yr undebau, wedi cael ei drefnu’n uniongyrchol gan Opera Cenedlaethol Cymru".

"Rydym yn parchu aelodau undeb llafur a’u hawl i brotestio ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein dyfodol tymor hir fel cwmni Opera Cenedlaethol Cymru."

Beirniadaeth gan sêr amlwg

Mae degau o artistiaid amlycaf Cymru yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Michael Sheen a Ruth Jones wedi beirniadu'r toriadau i Opera Cenedlaethol Cymru.

Roedden nhw ymysg 170 o bobl a oedd wedi llofnodi llythyr a gafodd ei yrru at Brif Weinidog Cymru, yr Ysgrifennydd Diwylliant, Lesley Griffiths, ac Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lucy Frazer.

Maen nhw'n honni bydd effaith toriadau mewn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr yn "ddinistriol".

Un arall a fu'n mynegi ei gefnogaeth i'r cwmni ddydd Mawrth oedd y cerddor Gruff Rhys.

Dywedodd ar X: "Anodd iawn gwylio pennod ddiweddara yr argyfwng diwylliannol - wedi cael cyd-weithio efo’r gerddorfa a’i cherddorion anhygoel yn y gorffennol a trist meddwl nad fydd yr adnodd gwerthfawr yma ar gael i eraill yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

"Swm bach o arian" sydd gan y llywodraeth, meddai Lesley Griffiths

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Lesley Griffiths cyn y brotest: "Fedra i ddim dychmygu Cymru heb gwmni Opera Cenedlaethol.

"Yn y pendraw, swm bach o arian sydd gennym ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd pawb.

"Dyna oedd y penderfyniad a wnaethom fel cabinet, ond gobeithio na fydd hi am byth.

"Rwy’n gresynu at bob toriad yn y gyllideb. Es i ddim i fyd gwleidyddiaeth i wneud toriadau i'r gyllideb.

"Ond y gwir amdani yw ein bod wedi cael 14 mlynedd o lymder ac rydym wedi cael un peth ar ôl y llall - y pandemig, Brexit, yr argyfwng costau byw."

Disgrifiad o’r llun,

Cerddorion yn chwarae tu allan i'r Senedd fel rhan o'r brotest

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn nodwedd bwysig o’r tirlun diwylliannol yng Nghymru ac yn ein hadolygiad buddsoddi y llynedd, dyma’r cwmni a dderbyniodd y gefnogaeth ariannol fwyaf, sef bron i £4m.

"I osod cyd-destun ychwanegol, roedd y cwmni eisoes wedi derbyn toriad i’w grant blynyddol o 35% gan Gyngor Celfyddydau Lloegr yn 2022.

"Mae hi’n gyfnod heriol tu hwnt i’r celfyddydau yng Nghymru ac mae Opera Cenedlaethol Cymru wrthi’n ceisio llywio eu ffordd yn yr hinsawdd anodd hwn, gyda llai o incwm rheolaidd o’r pwrs cyhoeddus a gyda chostau sy’n cynyddu.

"Rydym ninnau yng Nghyngor y Celfyddydau hefyd wedi derbyn toriad o 10.5% eleni ac o’r herwydd, wedi gorfod gwneud arbedion a phenderfyniadau anodd.

"Mae ein cydymdeimlad yn llawn â’r cwmni a’i weithwyr ac rydym mewn cysylltiad cyson â’r Opera i’w helpu ar y siwrne anodd hon, a hefyd i warchod eu cynyrchiadau opera safonol, ac i’w cefnogi yn eu gwaith cymunedol pwysig fydd yn cyrraedd cynifer o bobl Cymru â phosib.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

"Rydym wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn, fodd bynnag, rydym wedi ei gwneud yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG.”

Pynciau cysylltiedig