Datgloi hanes Carchar Rhuthun

Carchar Rhuthun o tua 1880Ffynhonnell y llun, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Carchar Rhuthun o tua 1880

  • Cyhoeddwyd

"Mae Wil yng Ngharchar Rhuthun, a'i wedd yn ddigon trist..."

Bellach yn amgueddfa, am ganrifoedd roedd Carchar Rhuthun yn gartref i nifer o fathau gwahanol o garcharorion, o ladron i lofruddwyr.

Philippa Jones, rheolwr safle'r carchar sydd â pheth o hanes y carchardy enwog:

Ffynhonnell y llun, Carchar Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Heddiw, mae'r carchar yn amgueddfa ac mae modd gweld sut roedd y carcharorion yn byw

Byddech chi ddim o reidrwydd yn disgwyl carchar Fictoraidd mewn tref farchnad sy'n dyddio i'r canol oesoedd, sydd wedi ei leoli yng nghanol bryniau a bryngaerau Oes yr Haearn yng Nghlwyd.

Ond yn ôl cofnodion, mae carchar o ryw fath wedi bod yn Rhuthun ers yr 1650au, a llys yno ers dechrau’r 1400au.

Roedd y carchar cynnar yn edrych yn dra gwahanol i’r adeilad mawreddog o gerrig sydd yn llenwi rhan isaf y dref heddiw.

Ffynhonnell y llun, Carchar Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Y carchar heddiw

Mae’r adeiladau cynharaf ar y safle yn dyddio i ganol y 18fed ganrif, ac wedi eu hadeiladu o ganlyniad i ddiwygiadau yn y gwasanaeth carchardai ym Mhrydain bryd hynny.

Dros y ganrif nesaf, tyfodd y casgliad o adeiladau anferthol i gynnwys y rhan olaf o’r carchar i gael ei adeiladu yn yr 1870au.

Roedd yr ychwanegiad diwethaf yma - bloc yn steil Carchar Pentonville - yn edrych dros yr holl safle ac wedi ei gynllunio i ynysu carcharorion oddi wrth y byd a’u cyd-garcharorion.

Dyma oedd y sail i’r ‘system wahanu’.

Ffynhonnell y llun, Geoff Charles/Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cyfnod yr adeilad fel carchardy i ben yn 1916; cafodd y carcharorion a'r swyddogion eu trosglwyddo i'r Amwythig

Byddai pob carcharor yn treulio 23 awr y dydd yn eu cell, rhyw dri neu bedwar metr mewn maint, mewn tawelwch. Byddan nhw hefyd yn gweithio yn eu cell, yn gwneud tasgau llafurus fel pigo ocwm (oakum).

Daw’r dywediad Saesneg 'money for old rope' o’r dasg yma o adfywio hen raffau o longau drwy ddewis y ffeibrau roedd modd eu defnyddio, ac ail-greu rhaffau newydd.

Am un awr y dydd roedd y carcharorion yn cael seibiant o’u hunigedd ac yn mynd i’r capel neu’n ymarfer corff yn yr iard.

Unwaith eto, roedd gwahanu yn bwysig, a doedden nhw ddim yn cael cyfathrebu gyda’i gilydd, ac yn gorfod cuddio eu hwynebau â chapiau arbennig oedd â phig hir.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Rheolau roedd yn rhaid i'r carcharorion eu dilyn - 1875

Roedd bywyd yn y carchar yn anodd, ond roedd hi’r un mor anodd i garcharorion ar ôl cael eu rhyddhau.

Tlodi oedd un o’r prif resymau dros gael eich carcharu mewn carchar Fictoriaidd; o leiaf fod gen ti wely am y noson a thri phryd y dydd... os oeddet ti’n hoffi bara, tatws a grual.

Roedd y carchar yn lety dros-dro i nifer am resymau gwahanol. Rhwng 1786 ac 1863, mae'n debyg i 28 o ferched a 251 o ddynion eu hanfon i Awstralia ar ôl euogfarn ac arhosiad byr yng Ngharchar Rhuthun.

Yn aml, roedd hyn am droseddau bach, fel Susannah Friday a gafodd eu halltudio am ddwyn pais, ond aeth ymlaen i gael bywyd gwell yn Awstralia.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Cofnodion Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Dyma beth oedd ar y fwydlen i'r carcharorion yn 1851

Mae cofnodion yn dangos fod ambell i gymeriad diddorol wedi dod drwy giatiau Carchar Rhuthun, fel John Jones, sydd yn fwy adnabyddus fel Coch Bach y Bala.

Cafodd y llysenw Welsh Houdini am ei ddawn i ddianc o’r rhan fwyaf o garchardai a dalfeydd yr heddlu yng ngogledd Cymru.

Roedd yn lleidr cyson a oedd yn haeddu ei amser dan glo, ac a oedd ar ben ei ddigon yn y cwrt, yn aml yn sefyll am oriau yn y doc yn amddiffyn ei hun, ac yn cadw’r achos i fynd tan oriau mân y bore.

Ffynhonnell y llun, Carchar Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Goriadau i'r carchar o'r 19eg ganrif

Dihangodd John Jones o Garchar Rhuthun am y tro olaf yn 1913. Rhywsut, llwyddodd i gloddio allan o’i gell a dianc ar hyd y wal allanol.

Yn anffodus, aeth pethau ddim o blaid John, ac fe gafodd ei ddal a’i saethu’n farw ym mhentref Llanelidan, ar gyrion y dref.

Aeth y cyhoedd yn wyllt am ei stori, a oedd ym mhob papur newydd. Daeth cerdyn post o lun o’i angladd yn eitem boblogaidd i’w brynu.

Ffynhonnell y llun, Archifau Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan nifer o bobl ddiddordeb mewn cael cerdyn post o lun o angladd Coch Bach y Bala

Roedd diddordeb mawr wedi bod yn achos y dyn olaf i gael ei ddienyddio yn y carchar hefyd.

Yn 1903, cafodd William Hughes ei ddyfarnu’n euog am lofruddio’i wraig, Sian, ac fe gafodd ei grogi yn iard ymarfer gefn y carchar.

Er mwyn osgoi’r torfeydd oedd wedi ymgasglu gyda’r bwriad o darfu ar y digwyddiad, roedd rhaid smyglo offer arbennig a dau ddienyddiwr i mewn i’r dref.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Adroddiad am ddienyddiad Williams Hughes o bapur Y Celt, 20 Chwefror 1903

Daeth cyfnod Carchar Rhuthun fel carchardy i ben yn 1916, ac fe gafodd y carcharorion a'r swyddogion eu trosglwyddo i'r Amwythig.

Ers hynny, mae'r adeiladau wedi cael eu defnyddio fel swyddfeydd, archifdy a llyfrgell y cyngor sir, ac hyd yn oed fel ffatri arfau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ffynhonnell y llun, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Merched yn creu ffrwydron yn 1942 - cafodd adeilad y carchar ei ddefnyddio fel ffatri arfau yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Yn 2002, cafodd y carchar ei adnewyddu, ac mae bellach yn amgueddfa lle gallwch gael cipolwg ar amser yn ein gorffennol sydd ddim yn aml yn cael ei amlygu i gynulleidfa.

Ffynhonnell y llun, Carchar Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Grisiau gwreiddiol sydd i'w gweld yn y carchar

Pynciau Cysylltiedig