All canabis wella safon byw cleifion canser?

Dr Jillian MacLean
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Jillian MacLean yn rhan o dreialon i asesu os yw canabis yn gallu helpu trin canser glioblastoma

  • Cyhoeddwyd

Mae cleifion sydd â thiwmor difrifol ar yr ymennydd yn aml yn gofyn a yw canabis yn gallu helpu, meddai arbenigwr canser.

Nawr, mae astudiaethau yn ceisio ateb y cwestiwn hwn er mwyn ceisio gwella safon byw cleifion yn ystod eu misoedd olaf.

“Mae canran sylweddol o gleifion yn chwilio am gynnyrch canabis, neu CBD, yn y gobaith y gallai eu helpu,” meddai’r arbenigwr oncoleg clinigol, Jillian MacLean.

Mae hi’n rhan o dreialon yng Nghanolfan Ganser Felindre, sy’n asesu os yw Sativex - cyffur sy’n cynnwys canabis - yn gallu gweithio ar y cyd â chemotherapi er mwyn trin tiwmor glioblastoma.

'Dim i'w golli'

Ar gyfartaledd mae pobl sydd â glioblastoma ond yn byw rhwng 12 a 18 mis ac mae’r opsiynau o ran triniaeth yn brin.

“Gyda’r diagnosis yma, dydyn nhw ddim yn teimlo bod ganddyn nhw unrhyw beth i’w golli trwy roi cynnig arno," meddai Dr MacLean.

"Rydyn ni eisiau profi hynny a gweld os yw hynny'n beth defnyddiol.

“Os yw’n llwyddo, yna mae’n rhywbeth a ddylai fod ar gael i gleifion heb iddynt orfod dod o hyd i bethau eu hunain.”

Mae treial 'Aristocrat' y Deyrnas Unedig, sydd dan arweinyddiaeth tîm ym Mhrifysgol Leeds, yn defnyddio chwistrelliad sy'n cynnwys canabinoidau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Julian Edwards ei wraig Samantha i ganser glioblastoma yn Rhagfyr 2022

Yr Elusen Tiwmor yr Ymennydd sy’n gyfrifol am ariannu’r treialon.

Dywedodd Julian Edwards, o’r Bont-faen ym Mro Morgannwg, ei fod yn teimlo cymysgedd o emosiynau trwy wybod bod y cleifion cyntaf wedi’u recriwtio yn y ganolfan yn Felindre, lle cafodd ei wraig, Samantha, driniaeth cyn iddi farw ym mis Rhagfyr 2022, yn 53 oed.

'Balch o'r camau bach ymlaen'

"Byddwn i wedi rhoi fy mraich dde er mwyn i Sam fod wedi cael canser a gafodd ganlyniadau gwell," meddai. 

"Ond rwy’n gwybod y byddai’n falch bod camau bach wedi’u gwneud ac mae’n wych clywed bod yna deuluoedd yn gallu elwa o’r treial hwn.

"Datblygodd y tiwmor ar ymennydd Sam yn weddol gyflym erbyn y diwedd. 

"Roedden ni’n siarad am fywyd ar ôl y Nadolig a sut roedd 2023 yn edrych, ond wnaethon ni fyth gyrraedd yno.

"Bu farw 10 diwrnod cyn y Nadolig.

"Ond hyd at y pwynt hwnnw roedd fy ngwraig yn cadw gwên ar ei hwyneb bob dydd ac am bob dydd roedd hi’n codi, fe wnaethon ni godi gyda hi."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Annabel fod diagnosis ei ffrind Areesha, dde, yn sioc i'w theulu a ffrindiau

Cododd Areesha Evans filoedd o bunnoedd yn y misoedd ar ôl ei diagnosis hi, gan wybod bod arian i fuddsoddi mewn ymchwil yn hanfodol.

Cafodd ddiagnosis o glioblastoma ym mis Ebrill 2021, a bu farw 10 mis yn ddiweddarach, yn 35 oed.

"Erbyn iddi gael y diagnosis, prin oedd gennym ni amser i dderbyn beth oedd yn digwydd ac yna roedd hi’n rhy hwyr,” meddai ei ffrind, Annabel Jones, o Ffynnon Taf.

"Roeddwn i eisiau curo ar ddrysau pawb a dweud ‘rydym ni angen buddsoddiad, mae angen ymchwil, mae angen rhywbeth’ oherwydd dyna oedd y peth mwyaf creulon a weles i erioed."

Roedd Areesha yn fenyw ffit ac yn iach, ac yn fam i ferch ifanc.

Fe wnaeth hyn ei wneud yn anoddach fyth i'w theulu a ffrindiau dderbyn y diagnosis.

'Cyfnod calonogol iawn'

Y treial yma yw un o'r astudiaethau cyntaf sydd wedi'i hariannu trwy gyllido torfol, esboniodd Dr MacLean.

"Rydyn ni wedi gweld datblygiadau enfawr wrth drin mathau eraill o diwmorau sylfaenol a chanserau dros y blynyddoedd diwethaf, sydd yn gallu bod yn eithaf rhwystredig fel niwro-oncolegydd, oherwydd rydyn ni yn sicr ar ei hol hi.

"Mae yna amryw o resymau am hynny – mae’r rhain yn diwmorau eithaf prin ac rydyn ni wedi cael llawer llai o gyllid, o gymharu â mathau eraill o diwmorau.

“Ond mae’n gyfnod calonogol iawn i fod yn glinigwr tiwmor yr ymennydd.

“Rydyn ni’n deall llawer mwy am fioleg y tiwmorau hyn – bron yn fwy na rydyn ni’n gwybod am fathau eraill o diwmorau cynradd yr ymennydd.

“Yr hyn rydyn ni wir ei angen nawr yw’r cyllid a’r strwythur ar gyfer treialon i allu rhoi cynnig ar yr opsiynau hynny.”

Pynciau cysylltiedig