Blog Vaughan: 'Etholiad annisgwyl ar faes y gad anarferol'

Rishi Sunak yn y glawFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rishi Sunak y cyhoeddiad toc wedi 17:00 ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Roedd penderfyniad Rishi Sunak i alw etholiad yn annisgwyl ac fe fydd maes y gad yn anarferol hefyd.

Ac eithrio trigolion Ynys Môn fe fyddwn ni gyd yn pleidleisio mewn etholaethau newydd sbon.

Mae rhai o'r hen enwau wedi goroesi ond nid felly'r ffiniau.

Mae'r newid yn dyddio yn ôl i ddyddiau clymblaid y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Cyflwynwyd deddfwriaeth i sicrhau bod oddeutu'r un nifer o etholwyr ym mhob etholaeth.

O ganlyniad mae nifer y seddi sydd gan Gymru wedi gostwng o 40 i 32 ac mae rhai o'r etholaethau newydd yn greaduriaid rhyfedd ar y naw.

Fe fydd trigolion Cwm Tawe, er enghraifft, yn canfod eu hunain yn yr un etholaeth â phobol Tref y Clawdd, a phobol Corwen a thref Caernarfon yn pleidleisio gyda'i gilydd am y tro cyntaf.

Ar y cyfan mae'r pleidiau wedi llwyddo i osgoi brwydrau mewnol rhwng aelodau presennol am y seddi sy'n weddill.

Ond cafwyd ornest agos rhwng Gerald Jones a Beth Winter am sedd newydd Merthyr ac Aberdâr gydag aelod Merthyr (Jones) yn ennill o drwch blewyn.

Mae 'na gryn ddyfalu wedi bod am effaith y newid ffiniau ar ganlyniadau'r etholiad eleni ond ar y cyfan fe fydd y Ceidwadwyr yn ei chael hi'n anoddach i gadw ei seddi gyda'r map newydd ac yn gwneud hi bron yn amhosib i'r Democratiaid Rhyddfrydol ennill sedd.

Serch hynny mae'r nifer o aelodau Llafur yn debyg o ostwng oherwydd y toriad yng nghyfanswm seddi Cymru.

O edrych am frwydrau diddorol beth am gychwyn gyda'r un etholaeth sydd heb ddioddef newid yn ei ffiniau.

Fe fydd Ynys Môn yn frwydr rhwng y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru.

Ers y 1950au mae'r sedd ond wedi newid dwylo yn sgil ymddeoliad yr Aelod Seneddol. Fe gawn weld os ydy'r patrwm yna am newid.

O Fôn i Fynwy lle mae etholaeth newydd Sir Fynwy yn cymryd lle'r hen Mynwy. Sedd yr ysgrifennydd gwladol oedd Mynwy ond fe fydd y ffiniau newydd yn ei gwneud hi'n anos i David TC Davies ddal ei afael.

'Y frwydr go iawn'

Ymhlith etholaethau eraill i gadw llygad arnynt mae Canol a De Penfro, Caerfyrddin a'r Fro Morgannwg estynedig.

Er bod y brwydrau unigol yma o ddiddordeb, oherwydd y gostyngiad yn nifer y seddi fe fydd Cymru yn ymylol i'r frwydr etholiadol y tro hwn.

Fe fydd arweinwyr y pleidiau Prydeinig yn ymweld â Chymru ac fe fydd maniffestos Cymreig yn cael eu cyhoeddi.

Serch hynny mae'n amhosib osgoi'r casgliad mai ar yr ochr draw i glawdd Offa y bydd y frwydr go iawn.