Pum munud gyda Bardd y Mis: Casia Wiliam

Casia WiliamFfynhonnell y llun, Sioned Birchall (Camera Sioned)
Disgrifiad o’r llun,

Casia Wiliam

  • Cyhoeddwyd

Mis arall, bardd arall! Casia Wiliam yw Bardd y Mis Radio Cymru ar gyfer mis Mehefin.

Mae Casia Wiliam sy'n dod o Ben Llŷn yn wreiddiol, yn fardd ac awdur llawrydd sy'n byw yng Nghaernarfon gyda'i gŵr Tom, a'u meibion, Caio a Deri.

Bu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019, ac mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant. Enillodd Wobr Tir Na n-Og yn 2021 gyda’i nofel Sw Sara Mai.

Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Eiliad ac Einioes, ac yn fwy diweddar, nofel i oedolion ifanc o’r enw Sêr y Nos yn Gwenu.

Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod yn well.

Fel awdur a bardd sy’n ysgrifennu ar gyfer oedolion a phlant, beth sydd orau gennych chi, ysgrifennu i blant neu oedolion?

Ysgrifennu i blant. Mae’n lot o sbort 'sgwennu i blant, digon o le am hwyl a hiwmor tra’n sleifio ambell syniad neu wers i mewn hefyd.

Dwi’n mwynhau trio gweld y byd trwy lygaid plentyn, a dweud stori mewn ffordd fydd yn apelio at yr oedran yna, ac yn codi gwên.

Mae mwy o bwysau dwi’n teimlo, wrth ysgrifennu i oedolion – rhyw deimlad bod rhaid creu rhywbeth sydd o bwys llenyddol rywsut, ac mae hynny yn ddigon i mi roi’r gorau iddi cyn dechrau weithiau!

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Un o lyfrau Casia i blant

Rydych yn ferch i’r awdures Meinir Pierce Jones. Fyddwch chi’n rhoi cyngor i’ch gilydd, ac ydych chi’n feirniaid teg ar waith eich gilydd?

O byddwn wir, dwi’n siŵr ein bod ni yn mynd ar nerfau gweddill y teulu!

Rydan ni wrth ein boddau yn trafod llyfrau a 'sgwennu, mi fasan ni’n medru siarad am 'sgwennu trwy’r dydd tasa ni’n cael hanner cyfle.

Mae’n beth braf iawn, mi fydda i’n gofyn iddi am ei barn a’i chyngor yn aml. Nid pawb s’gan awdur a golygydd yn fam iddyn nhw – dwi’n gwneud y mwyaf ohono!

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Casia gyda'i mam, yr awdures Meinir Pierce Jones

O le y byddwch yn cael eich syniadau?

Mae hwnna’n gwestiwn anodd. Dwi ddim yn siŵr.

Mi wna i gyfaddef fy mod i’n fusneslyd iawn, ac yn cael syniadau weithiau wrth glywed pytiau o sgyrsiau pobl – mae Caernarfon yn le da iawn i fyw yn hynny o beth, mae 'na gesus ar bob cornel yma!

Mae’r plant yn rhoi llawer o syniadau i mi’r dyddiau hyn hefyd. Mae fy mab Caio wedi creu dau gymeriad doniol o’r enw Parri a Fflêc a dwi wir isio eu rhoi nhw mewn llyfr rhyw ddydd.

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Ar ben Moel Faban gyda'i theulu bach; ei gŵr Tom a'i meibion Caio a Deri

Beth fyddai eich noson ddelfrydol?

Tro ar y beic ar noson braf, gan stopio mewn tafarn i eistedd yn yr ardd a mwynhau glasiad o rywbeth neis a swper blasus, cyn beicio’n araf am adref.

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Sali Mali a Casia

Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol – pwy fyddai o neu hi, a pham?

Terrance Hayes. Daw o Golumbia, South Carolina, yn wreiddiol, a dwi ar ganol darllen ei gyfrol American Sonnets for My Past and Future Assassin ar hyn o bryd.

Mae’r gyfrol yn cynnwys saithdeg o gerddi o dan y teitl yna, ac mae’n archwilio’r themâu o gariad, o fod yn Americanwr, a beth yw assassin.

Maen nhw’n wefreiddiol a mor wahanol i unrhyw beth arall dwi wedi ei ddarllen.

Dwi’n gorfod mynd yn ôl a’u darllen drosodd a throsodd gan bod cymaint ynddyn nhw.

Fe ysgrifennodd o nhw yn ystod 200 niwrnod cyntaf Trump fel Arlywydd. Gobeithio na fydd angen i hynny ddigwydd eto i ysbrydoli ei gyfrol nesaf.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

O, lle dwi’n dechra?!

Yn ddiweddar, un o’r cerddi lle dwi wedi teimlo, 'www sw ni ’di licio sgwennu honna, ydi Dadorchuddio Cerflun Cranogwen gan Llio Maddocks.

Dwi hefyd yn ffan mawr o’r bardd Hollie McNish. Mae hi’n sgwennu cerddi dwys a doniol am fod yn ferch ac am fod yn rhiant.

Mae ganddi gasgliad o’r enw Nobody Told Me sy’n sôn am ei phrofiad o ddod yn fam, ac mae ’na gerdd o’r enw Rain on Our Faces faswn i wedi hoffi ei 'sgwennu, yn enwedig y llinell the forests don’t scare me, society does.

Ac yn olaf, dwi wrth fy modd efo cerdd o’r enw Creu gan Llŷr Gwyn Lewis, o’i gyfrol Rhwng dwy lein drên.

Cerdd am fywyd bob dydd ydi hi, yr ysbeidiau bach sy’n llenwi’n dyddiau ni, o godi cheerios oddi ar lawr i ffonio’r garej, ond ew, mae hi’n gerdd am bob dim hefyd, am fywyd a threigl amser.

Mae gen i atgofion melys iawn am fod yn nhîm Talwrn y Ffoaduriaid efo Llŷr, Gwennan a Gruff – fy athrawon barddol!

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Aros am drên yn Venice

Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?

Rydw i newydd orffen ysgrifennu nofel i blant am Betty Campbell, y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru.

Mae hi’n nofel sy’n gwau ffaith a ffuglen, ac roedd gofyn i mi wneud llawer o waith ymchwil cyn ei hysgrifennu, a sgwrsio llawer gyda ei theulu hefyd, felly profiad go wahanol i mi.

O, a dwi wedi ei hysgrifennu yn Saesneg hefyd, felly roedd hynny yn brofiad newydd.

Bydd y ddwy nofel, y Gymraeg a’r Saesneg, yn cael eu cyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch o gwmpas mis Medi. Dwi wir yn gobeithio y caiff hi ymateb da ac y bydd yn adnodd defnyddiol mewn ysgolion.

Felly dwi’n dechrau meddwl am y prosiect nesa’ rŵan. Mae llawer o blant wedi gofyn am lyfr arall yng nghyfres Sw Sara Mai felly dwi’n hel syniadau…

Pynciau Cysylltiedig