Cyhoeddi enillwyr prif wobrau celf Eisteddfod yr Urdd

Wanesa Kazmierowska a Saffron LewisFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Wanesa Kazmierowska a Saffron Lewis yw'r enillwyr ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae enillwyr dau o brif wobrau Eisteddfod yr Urdd wedi eu cyhoeddi.

Ar y maes ym Meifod, cyhoeddwyd mai Wanesa Kazmierowska o Abertawe yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Saffron Lewis o Sir Benfro yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.

Roedd yr ysgoloriaeth am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18-25 oed. Roedd y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch adran blwyddyn 10-19 oed.

Mae Wanesa yn 19 oed ac yn astudio ar gyfer Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr yn Abertawe.

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae hi wedi byw yn Abertawe ers dros 14 mlynedd.

Mae ganddi le wedi’i gadarnhau yn UAL (University of the Arts London) y flwyddyn nesaf i astudio Darlunio a Chyfryngau Gweledol ac mae’n gobeithio cymhwyso fel artist/darlunydd graffeg yn y dyfodol.

Wanesa KazmierowskaFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Wanesa Kazmierowska yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc eleni

Dywedodd ei bod yn "mwynhau arbrofi gyda chyfryngau ac arddulliau artistig amrywiol i ehangu fy sgiliau, yn benodol gwneud printiau, celf ddigidol a phaentio gouache”.

Yn ôl beirniaid y gystadleuaeth, Jo Munton a Kate Morgan-Claire, bod gan Wanesa "ffocws mawr ar ei gwaith a sut yr hoffai ei ddatblygu".

"Mynegodd ei syniadau mor eglur fel ei bod yn hawdd gweld bod ganddi lawer o botensial fel artist.

"Roedd ei gallu i ddeffro’r emosiynau ac adrodd stori trwy ei delwedd o’r glöwr a’r caneri yn gwneud i’r gwaith hwn sefyll allan.”

Saffron LewisFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Saffron Lewis sy'n cipio'r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

Mae Saffron Lewis, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn fyfyriwr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfro ac ar fin mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Celfyddyd Gain ym mis Medi.

Dywedodd: “Dechreuodd fy nghariad at y celfyddydau yn ifanc iawn ac ar hyd y blynyddoedd mae hyn wedi tyfu.

"Mae arbrofi gydag amryw o wahanol gyfryngau a phrosesau artistig yn cadw fy angerdd yn fyw."

Dywedodd bod testun ei gwaith "yn bennaf yn organig ac yn gynaliadwy", a'i bod yn "hoffi amsugno awyrgylch fy amgylchoedd i greu marciau egnïol o fewn fy ngwaith celf".

"Mae fy ymarfer yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau ac rwy’n hoffi creu darnau diddorol ac unigryw sydd heb eu gweld o’r blaen; lle gall y sawl sy’n edrych ar y darn greu eu stori eu hunain.”

Cyflwynir Ysgoloriaeth Artist Ifanc, gwerth £2,000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu.

Cafodd y Fedal Gelf ei rhoi er cof am Elain Heledd a fu’n ysbrydoli disgyblion Llanegryn a Llanbrynmair.