Ateb y Galw: Gareth Elis

- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Elis yn actor, canwr, a chyflwynydd sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith.
Yn wreiddiol o Sir Gâr, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Gareth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Pigo dy Drwyn a Mabinogi-Ogi. Mae hefyd yn actor theatr profiadol ac ar fin chwarae rhan Osian yn sioe gerdd roc Nia Ben Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dyma ddod i 'nabod Gareth ychydig yn well gyda chwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Bod yng nghôl Mam o flaen y lle tân a hithau'n dweud "Tân fan 'na Gareth".
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Cefn gwlad Sir Gâr lle ces i'n fagu - y gwyrddni, y bryniau; yn llythrenol 'Lle i enaid gael llonydd'.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Siŵr o fod y noson enillais i'r BBC Audio Award, Best Debut Performance am y ddrama Tremolo llynedd yn Llundain. O'n i'n eistedd drws nesa' i Toby Jones. Am noson!

Gareth yn ennill BBC Audio Award am Best Debut Performance
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Penderfynol, gweithgar a charedig.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Cyngerdd agoriadol Eisteddfod Sir Gâr 2014. O'n i'n canu Eryr Pengwern yn y gyngerdd. Fe ddechreuodd John Quirk y gerddorfa ac o'n i dal i aros am feicroffon!
O fewn eiliadau roedd tua chwech o dechnegwyr o'm cwmpas i yn rhoi'r mic arna'i, dwi'n cofio meddwl "fi'n mynd i golli dechrau'r gân". Gwaeddodd John "Back to bar two" a brynodd y deg eiliad oedd angen i mi gyrraedd y llwyfan i ddechrau canu. Y cyfan yn hollol fyw ar S4C!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Wn i ddim sawl gwaith dwi wedi taro mewn i actorion mewn clyweliadau lle dylwn i gofio'u henwau - a cheisio cynnal sgwrs tra'n stryffaglu i drio cofio! Gormod i restru, ofnadwy!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Yn ddiweddar wrth wylio cyfres ddiweddaraf Welcome to Wrexham. Rhaglen mor ddidwyll sy'n gwneud fi'n falch o fod yn Gymro.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Cnoi fy ngwinedd! Dwi ddim yn ofnadwy, ond hen bryd i fi stopio'n gyfan gwbl!

Gareth sy’n cyflwyno Pigo dy Drwyn gyda Cadi Beaufort
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi'n dwlu ar Batman: The Dark Knight am berfformiad Heath Ledger fel y Joker. Mae ei wylio yn y rôl honno yn blueprint rhyfeddol o sut mae ymgorffori cymeriad yn llwyr.

Gareth yn caglu BAFTA ar gyfer y rhaglen Mabinogi–Ogi
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Iesu Grist. Galla'i ddim meddwl am unrhyw un sydd wedi cael mwy o ddylanwad ar hanes dynoliaeth. Byddai gen i gymaint o gwestiynau!
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n reddfol swil ac yn gallu mwynhau dyddiau ar y tro heb weld neb, dim problem!
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Casglu'r holl bobl dwi'n eu caru i fwyta, dathlu a chwarae gemau o dan yr un to.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Fi a Mam yn yr Eisteddfod pan o'n i tua tair blwydd oed. Mae'r Eisteddfod wedi chwarae rhan enfawr yn fy ngyrfa - o ennill cystadlaethau'r Sioeau Cerdd yn yr Urdd, Genedlaethol a Llangollen hyd nawr yn Nia Ben Aur, a Mam wedi bod ym mhob cynulleidfa. Mae'r llun yna'n teimlo'n addas iawn.

Gareth a’i fam sydd pob amser yn dod i’w weld yn perfformio
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Bydden i'n dewis Gareth Bale pan oedd ar ei orau i Gymru. Y ffasiwn deimlad o fod yn un o chwaraewyr gorau'r byd, gyda'r pŵer i reoli unrhyw gêm a hynny gyda'r ddraig ar y crys. Rhaid bod hynny'n deimlad arallfydol!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2023