Undeb Rygbi Cymru'n ymddiheuro am drafodaethau cytundeb y merched
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal.
Daw'r ymddiheuriad wedi honiadau newydd o rywiaeth ac anghydraddoldeb, lai na blwyddyn ers adolygiad annibynnol damniol i'w ddiwylliant.
Mae'r Telegraph wedi adrodd bod chwaraewyr wedi eu bygwth, dolen allanol gyda chanlyniadau pe na baent yn cytuno i delerau’r undeb, gan gynnwys peidio cael eu dewis i gystadlaethau mawr.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn gwrthod rhai o'r honiadau yn eu herbyn, yn cynnwys gwadu bod y prif weithredwr Abi Tierney yn anfodlon talu costau teithio.
Ond mae Ms Tierney ynghyd â chadeirydd yr Undeb, Richard Collier-Keywood wedi cyfaddef bod methiannau yn y broses, a dweud ei bod hi’n “gwbl amlwg” y dylai'r bwrdd ymddiheuro.
Dywedodd URC ei fod wedi cychwyn adolygiad annibynnol o'r broses ac y bydd yn cyhoeddi'r argymhellion.
- Cyhoeddwyd26 Hydref
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd23 Mawrth
Cafodd y cytundebau proffesiynol cyntaf erioed gan dîm y merched eu harwyddo ar ddechrau 2022, gyda Chymru yn cymryd camau mawr ar y cae, gan orffen yn drydydd ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad y Merched 2022 a 2023.
Ond i gyd-fynd â’r trafodaethau cytundebol, mae 2024 wedi gweld cwymp sylweddol yn eu perfformiadau, gyda Chymru yn gorffen ar waelod y bencampwriaeth.
Daeth chwaraewyr â'r Gymdeithas Rygbi Merched i mewn i'r trafodaethau ym mis Ionawr i’w cynrychioli, gyda materion yn cynnwys tâl a pholisi mamolaeth yn seiliedig ar berfformiad ymhlith eu ceisiadau.
Cadarnhaodd Cymdeithas Rygbi Merched ddatgeliadau’r Telegraph.
'Tair awr i arwyddo'
Mae’r Telegraph yn honni bod chwaraewyr wedi cael eu rhybuddio ym mis Awst na fyddant yn cael lle yng nghystadleuaeth WXV2 yn Ne Affrica a Chwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf os nad oedden nhw’n arwyddo, ac ond wedi cael tair awr i benderfynu.
Fe gadarnhaodd capten Cymru, Hannah Jones ym mis Medi fod y sefyllfa wedi ei datrys, gan ddweud eu bod yn "hapus gyda'u cytundebau".
Yn ddiweddarach y mis hwnnw, cyn eu gêm agoriadol WXV2 yn erbyn Awstralia, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod wedi dyfarnu 37 o gytundebau llawn amser, gan ddweud bod Cymru yn “un o’r timau merched rhyngwladol sy’n cael y cyflog gorau yn y byd”.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, fod bwrdd y corff llywodraethu wedi cael gwybod ym mis Awst gan y chwaraewyr bod ganddyn nhw bryderon am y broses o drafod cytundebau.
“Croesawodd URC y dull hwn, a chychwynnodd cadeirydd URC ddwy ffrwd waith ar unwaith,” meddai.
“Un oedd cwblhau’r trafodaethau gyda'r thîm craidd a’r ail oedd adolygiad dan arweiniad y bwrdd o’r broses gyfan.
“Dyw hi ddim yn briodol trafod manylion trafodaethau cyfrinachol, ond fe fydd URC yn cyhoeddi canlyniadau ac argymhellion yr adolygiad y mae wedi’i gynnal yn fuan iawn.”
'Chwaraewyr wedi'u hynysu'
Mae URC bellach wedi ei orfodi i gyflwyno canfyddiadau'r adolygiad yn gynt, yn dilyn adroddiadiau'r Telegraph.
Mae'r adolygiad wedi canfod:
Ni chafodd twf a datblygiad gêm broffesiynol y menywod ei ystyried;
Mae bwrdd arweinyddiaeth gweithredol URC yn derbyn ei fod wedi gwneud camgymeriad yn rhoi tair awr i'r chwaraewyr arwyddo cytundeb;
Safbwyntiau gwahanol iawn ar sut i ddatblygu rygbi menywod yng Nghymru;
Roedd rhai chwaraewyr di-brofiad mewn trafodaethau cytundeb ond cawsant eu hynysu;
Fe wnaeth chwaraewyr ystyried streicio cyn y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Alban ar 6 Medi;
Nid oedd rhywiaeth yn rhan o’r cymhelliant y tu ôl i unrhyw fethiannau.
Dywedodd Mr Collier-Keywood mai bwriad URC oedd eistedd i lawr gyda'r chwaraewyr dros yr wythnosau nesaf i ymddiheuro, gan ei bod yn "gwbl glir" bod angen gwneud hynny.
"Cawsom gyfarfod â nhw ychydig cyn y gynhadledd i'r wasg hon i roi gwybod iddynt mai dyna oedd ein bwriad a hefyd i rannu trosolwg o'r argymhellion gyda nhw.
"Fel rhan o hynny, byddaf yn ymddiheuro ynghyd ag aelodau eraill o'r tîm arwain."
'Ein syfrdanu gan eu dewrder'
Dywedodd datganiad gan y Gymdeithas Rygbi Merched: “Ar ôl cynrychioli tîm Merched Cymru eleni, rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan eu dewrder, eu penderfyniad a’u hymrwymiad cadarn i wella nid yn unig eu hamodau gwaith eu hunain, ond amodau gwaith cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
“Rydym yn falch o fod wedi gallu cefnogi’r grŵp hwn o ferched trwy gyfnod mor heriol ac edrychwn ymlaen at weld yr hyn y maent yn parhau i’w gyflawni mewn blwyddyn mor gyffrous i rygbi merched.
"Mae'r Gymdeithas Rygbi Merched yn teimlo ei fod yn gam sylweddol i URC gychwyn adolygiad annibynnol o'r broses hon, ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau maes o law."
Dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddem bob amser yn disgwyl i’n cyrff chwaraeon cenedlaethol arwain drwy esiampl.
"Mae’r rhain yn honiadau sy’n peri pryder ac rydym yn ceisio cael cyfarfod gydag URC fel mater o frys.”