Eisteddfod 2025: 'Her codi arian ond brwdfrydedd'
- Cyhoeddwyd
Wedi i gannoedd o bobl orymdeithio er mwyn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam yn 2025 mae rhai pobl leol yn poeni y bydd codi’r arian sydd ei angen i gynnal yr ŵyl yn her.
“Mae 'na lot o dlodi 'di bod yn Wrecsam, mae lot yn ddigartref a lot o food banks, felly mae o’n heriol i godi pres. Mi fydd yn anodd ond dwi’n siŵr bydd pobl yn trio’u gorau,” medd awdures sy'n dod o'r ardal.
Ar ddiwrnod cyhoeddi'r brifwyl fe wnaeth dros 300 o grwpiau ac unigolion orymdeithio o Gampws Iâl, Coleg Cambria i'r seremoni yn neuadd y ddinas.
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, bwriad y diwrnod yw "codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd i ddod ymhen blwyddyn a rhoi blas i bobl leol o seremonïau lliwgar yr Orsedd".
Y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â'r ddinas oedd yn 2011.
Fore Sadwrn, roedd cyfle i bobl wylio seremoni gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025.
Yn y seremoni, fe wnaeth yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd, drosglwyddo’r awenau i Mererid Hopwood, fydd yn arwain a llywio gwaith yr Orsedd dros y blynyddoedd nesaf.
Fe ddywedodd wrth BBC Cymru mai ei blaenoriaethau fel Archdderwydd fydd "gwerthoedd yr orsedd... mae hynny yn hollbwysig i ni gyd".
"Cymreictod, heddwch, cyfiawnder ac mi fydda i’n ceisio fy ngorau i geisio sicrhau ar ddiwedd y tymor bod y traddodid hwnnw yn fyw yn iach ac yn symud ymlaen i’r dyfodol."
Yn y seremoni hefyd, cafodd y copi cyntaf o’r rhestr testunau ei gyflwyno i’r Archdderwydd.
Un fu'n gorymdeithio fore Sadwrn ar ran Menter Iaith Fflint a Wrecsam ydi Chris Baglin.
“Mae’n amlwg yn fraint i unrhyw sir neu dref i gael Eisteddfod yn agos. Mae 'na edrych mlaen mawr ers y tro diwethaf ddaeth hi i’r ardal."
“Aethon ni i‘r 'Steddfod gyntaf pan roedd y mab yn dridiau oed, sef Eisteddfod Yr Wyddgrug 2007, ac mae 'na draddodiad mawr yn y teulu o fynd i’r Eisteddfod a chefnogi.
“Roedd Mam yn un o genod y ddawns flodau yn Eisteddfod Pwllheli 1955, a rwan, mae di pasio’r ffagl, fel petai, i fy merch, Lleuwen Catrin, sy’n12 oed, ac mi fydd hithau hefyd yn y ddawns flodau, ddydd Sadwrn.”
Roedd rhai o ddisgyblion blwyddyn 12 yn Ysgol Morgan Llwyd hefyd yn rhan o'r orymdaith.
Yn ôl Hafina Shone “bydd Eisteddfod Wrecsam yn codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg ymysg y bobl di-Gymraeg yn y ddinas sydd yn beth gwych".
Mae Gethin Morris yn credu bod “balchder mewn Cymreictod ar gynnydd yn Wrecsam oherwydd dylanwad Ryan a Rob, a bydd yr Eisteddfod yn atgyfnerthu hynny".
Mae Ela Jones yn dweud ei bod yn “rhy ifanc i gofio Eisteddfod Wrecsam 2011, ond mae ei dylanwad dal i’w weld trwy Ganolfan Saith Seren, ble dwi’n mynd i weld gigiau Cymraeg”.
Targed ariannol uchelgeisiol
Mae gan yr ardal darged o £400,000 i’w godi, ac mae’r dasg o gynnal digwyddiadau codi arian wedi dechrau, ond mae rhai yn poeni y bydd codi’r arian yn her.
Roedd cronfa leol Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2023 wedi codi dros £503,610 sy'n record.
Yn 2022, fe wnaeth cronfa Eisteddfod Tregaron godi £463,671, oedd eisoes yn swm uwch nag erioed o’r blaen.
Mae Llinos Ann Cleary yn gadeirydd y gronfa codi arian ac yn dweud ei bod yn hyderus y bydd gan Wrecsam ddigon o gefnogwyr i helpu gyda digwyddiadau a gweithgareddau.
“Tro diwethaf roedd y 'Steddfod yma, roedd gan bob ardal ei tharged, ond y tro yma, ni ’di penderfynu bo’ ni’n mynd i weithio ar y cyd. Ni ddim am roi pobl dan bwysau gyda tharged uwch eu pennau.
“Mae’r ardal wedi’i rhannu yn chwech rhan, ac mae pob un yn brysur efo’u gwahanol gyfarfodydd, ond ni gyd yn gweithio tuag at yr un nod.
“Ar ôl cael y cyhoeddi ddydd Sadwrn a chael bwrlwm a chyffro yn y ddinas a’r sir i gyd, dwi’n meddwl bydd yn rhoi hwb go iawn i’r codi arian ddechrau o ddifri. Bydd pobl yn gweld bod yr Eisteddfod YN digwydd!”
Mae Llinos Cleary hefyd yn dweud bod trefnu gweithgareddau a digwyddiadau yn fwy na chodi arian yn unig a bod hi'n “ bwysig tynnu pobl i mewn a gwneud pethau drwy gyfrwng y Gymraeg".
“Mae’n ardal ddwyieithog ac mae angen cynnwys pawb,” ychwanegodd. “Mae angen codi ymwybyddiaeth o be’n union ydi 'Steddfod i ddechre. Dwi’n siwr bydd llawer un a fydd yn gweld yr Orsedd dydd Sadwrn [yn credu eu bod] wedi drysu!
“Mae angen addysgu ac ennyn brwdfrydedd, a dangos i’r bobl hyn beth fydd y 'Steddfod yn ei adael ar ôl, - yr iaith, y gwirfoddoli, sut mae’r dref a’r sir yn mynd i elwa.”
Mae Maiwenn Berry sy’n brif swyddog gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn cytuno.
“Mae na fwrlwm, yn enwedig gyda’r mudiadau a sefydliadau lleol, mae 'na lot o drafod ac edrych mlaen, mae’r pwyllgor 'di bod yn 'neud gwaith gwych yn barod, yn denu diddordeb ar y cyfrynygau cymdeithasol.
“Mi fydd codi’r arian yn her ond mae lot o bobl ac unigolion brwdfrydig yma 'di dechrau codi arian yn barod, ac yn fwy na dim, codi ymwybyddiaeth, fel bod y rheiny sydd heb brofi Eisteddfod o’r blaen yn teimlo bod yr Eisteddfod o fewn eu gafael nhw, bod croeso iddyn nhw, a bod nhw’n cael cyfle i brofi’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.
“Be fydd yn bwysig yn Wrecsam fydd y gwaith o flaen llaw a bod yr Eisteddfod yn gadael gwaddol ac yn cynyddu’r teimlad o berthyn.”
Y gwaddol sydd yn bwysig i Christopher Evans hefyd sy’n athro gwyddoniaeth yn Ysgol Morgan Llwyd ac yn gadeirydd ar ganolfan Gymraeg Saith Seren yn y ddinas.
“Mi fydd hyn yn hwb i Gymreictod yr ardal, fel roedd 'Steddfod 2011.
“Mae Canolfan Gymraeg Saith Seren yn waddol i‘r Eisteddfod yn 2011, felly os oes 'na waddol cystal tro yma, bydd hynny’n beth arbennig o dda i Wrecsam, ac yn cryfhau’r teimlad o Gymreictod sydd ar i fyny eisoes.”
Ond mae’r targed ariannol yn ei boeni.
“Does dim dwywaith, mae’r targed sydd wedi’i osod yn heriol iawn, yn enwedig mewn ardal fel hon, dydy hi ddim fel Boduan!
"Mae angen ennill calonnau y di-Gymraeg yn yr ardal, tynnu nhw fewn i gymryd rhan a helpu efo’r achos, mae’n hanfodol nad jyst y Cymry Cymraeg sy’n gwneud.”
Mae'r awdur, Dr Sara Wheeler, wedi’i geni a’i magu yn ardal Erddig, Wrecsam, hefyd yn poeni y bydd yn dalcen caled i godi’r arian i gyd.
“Mae na lot o dlodi 'di bod yn Wrecsam, mae lot yn ddigartref a lot o food banks, felly mae o’n heriol i godi pres. Mi fydd yn anodd ond dwi’n siŵr bydd pobl yn trio’u gorau.”
Mae hi’n teimlo bod angen gwybod union leoliad y 'Steddfod yn gyntaf er mwyn gwybod yn iawn faint fydd y cyfan yn ei gostio.
“Mae sôn ’di bod y bydd yn ganol dre ond dwi’n meddwl bod angen iddo fod ar faes, y tu allan i’r dre. Ni’n haeddu 'Steddfod draddodiadol mewn cae, ar faes, ac i bobl Wrecsam gael cyfle i weld be ydi 'Steddfod go iawn.
“Yr her ydi gwneud y 'Steddfod yn berthnasol i bobl y ddinas heb newid natur yr Eisteddfod.”
Dydy Llinos Cleary ddim yn meddwl y bydd y codi arian yn dalcen caled.
“Fe gawsom ni gyfarfod buddiol yn Ysgol ID Hooson nos Fawrth, yn llawn syniadau a brwdfrydedd.
“Dwi’n meddwl bod digon o bobl â diddordeb helpu, ond falle ddim eisiau arwain. Nid pawb sydd eisiau bod yn gyhoeddus mewn cyfarfod, felly ni di creu grŵp Facebook ac hefyd whatsapp sy’n gweithio’n grêt.”
Mae Chris Baglin yn cytuno. “Mae’r esgid yn gwasgu yn bobman erbyn hyn," meddai, "ond mae 'na draddodiad mawr o gefnogi pan fo gofyn, hyd yn oed mewn lle sydd ddim yn cael ei ystyried yn Gymreigaidd iawn, ond mae hynny yn newid yn araf bach ac ni’n gobeithio y gwnaiff yr Eisteddfod helpu gyda hynny.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Awst 2023
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023