Rhwystredigaeth nad oes cyhoeddiad am leoliad Eisteddfod Wrecsam

Arwydd 'welwn ni chi yn Wrecsam'
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â Wrecsam oedd yn 2011

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yn rhwystredig nad oes cadarnhad o ble yn union fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, yn ôl cynghorydd.

Roedd nifer yn disgwyl i'r Eisteddfod gyhoeddi eu lleoliad mewn digwyddiad yn Tŷ Pawb yn y ddinas ddydd Sadwrn.

Ond yn ôl y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol (LDRS), mae'n debyg bu'n rhaid gohirio'r cyhoeddiad am fod trafodaethau yn parhau gyda pherchennog y tir.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam, Marc Jones, godi'r mater mewn cyfarfod bwrdd gweithredol yr awdurdod lleol fore Mawrth.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod am "gyhoeddi lleoliad y Maes yn ystod mis Hydref" gan ychwanegu mai "dyna oedd y bwriad ar hyd y daith".

Yn ystod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ym mis Awst roedd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Wrecsam, Llinos Roberts, wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw y byddai'r lleoliad yn cael ei gyhoeddi "ddechrau Hydref".

'Mae’n hwyr iawn yn y dydd'

Yn ôl yr LDRS, mae'n ymddangos mai tir ger ystâd Erddig sydd wedi ei ddewis fel y lleoliad delfrydol ar gyfer y brifwyl, ond mae trafodaethau wedi para yn hirach na'r disgwyl.

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod pobl wedi siomi gyda'r diffyg gwybodaeth gan drefnwyr yr Eisteddfod.

Dywedodd: "Roedd 'na ddigwyddiad gwych yn Tŷ Pawb y penwythnos diwethaf a oedd yn cynnig blas o ddiwylliant Cymreig wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Fel rhan o'r digwyddiad, roedd disgwyl cyhoeddiad am leoliad yr Eisteddfod.

"Roedd pobl wir yn edrych ymlaen at glywed lle bydd yr Eisteddfod, ac felly roedd yn eitha' siomedig.

"Roedd nifer wedi datgan eu rhwystredigaeth i mi ar y diwrnod am nad oedd cyhoeddiad wedi ei wneud."

Ychwanegodd: “Rwy’n gwybod mai mater i bwyllgor yr Eisteddfod ydy hwn, ond mae gan y cyngor fewnbwn, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn cael eglurder.

“Dwi’n cael fy holi’n rheolaidd be' sy’n digwydd.

"Mae’n hwyr iawn yn y dydd, felly hoffwn gael diweddariad ar ble’r ydyn ni o ran sicrhau bod gennym ni’r lleoliad gorau posib.”

Dywedodd llefarydd y cyngor ar ran yr iaith Gymraeg, y Cynghorydd Hugh Jones, fod trafodaethau ynglŷn â safle ar gyfer y brifwyl yn parhau, ond na allai ddatgelu rhagor o wybodaeth am resymau masnachol.

“Rwy’n ymwybodol o gyflwr presennol y trafodaethau, ond oherwydd y sensitifrwydd masnachol, byddai’n amhriodol i mi wneud unrhyw sylwadau heblaw am y ffaith ein bod yn parhau i weithio’n agos iawn gyda’r pwyllgor," meddai.

Cyhoeddiad fis yma

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod am "gyhoeddi lleoliad y Maes yn ystod mis Hydref" gan ychwanegu mai "dyna oedd y bwriad ar hyd y daith".

Dywedon nhw mai cyfle i "rhoi rhagflas o'r hyn sydd i ddod yn yr Eisteddfod" oedd bwriad Gwyl yr Hydref ac "nid creu digwyddiad i gyhoeddi lleoliad y Maes".

Pynciau cysylltiedig