Noson tân gwyllt yn 'anodd iawn' i gŵn tywys a'u perchnogion
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy noson tân gwyllt mae elusen Guide Dogs eisiau codi ymwybyddiaeth o effaith tân gwyllt ar gŵn tywys a'u perchnogion.
Mae'r elusen yn dweud bod nifer o berchnogion yn gorfod newid sut maen nhw'n byw gan nad yw'r cŵn yn awyddus i fynd allan, a bod hynny'n gallu amharu ar eu hannibyniaeth.
Dywedodd Zena Cooper, sy'n defnyddio ci tywys, fod y cyfnod rhwng Tachwedd ac Ionawr yn gallu bod yn "anodd iawn" a bod y tân gwyllt yn gallu effeithio ar waith y ci.
Mae Cymdeithas Tân Gwyllt Prydain yn dweud eu bod yn annog defnydd cyfrifol o dân gwyllt ac yn galw ar bobl i ystyried anghenion eu cymdogion.
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
Ar raglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru, dywedodd Ms Cooper o Rydaman bod diffyg rhybudd am dân gwyllt yn gallu bod yn broblem.
"Ma' fe'n rili anodd. Mae'n neis fod pawb yn dathlu wrth gwrs, ond mae'n golygu fod rhaid i ni newid y ffordd 'yn ni'n byw rhwng Tachwedd a Ionawr achos ma' nhw trwy'r amser," meddai.
"Pan ni'n mynd mas, os oes tân gwyllt yn mynd off ni'n cael bach o ofnau. So fe [Munch] yn crynu a chuddio ond ma' fe'n neidio a stopio. Ma' fe'n tynnu sylw o'r hyn ma' fe fod yn 'neud.
"Bydde fe'n neis cael bach o rybudd... bach o restrictions o ran amser ac ati.
"Os y'n ni'n gwybod pryd fydd e'n digwydd, chi'n gallu paratoi."
Cafodd Zena Cooper ei geni gyda syndrom Marfan - cyflwr sy'n golygu ei bod hi bron yn ddall.
Fe wnaeth hi gadw ei chyflwr yn gyfrinachol am ddegawdau, ond yn 2016 cafodd ei pharu gyda Minster, neu Munch ei chi tywys.
Mae Munch ar fin ymddeol o'i waith gyda Zena, ond mae hi'n bwriadu ei gadw fel anifail anwes.
"Fi'n lwcus 'da Munch achos ma' fe bron yn 10 oed nawr, dyw e ddim cweit mor excitable ag o'dd e, ond pan oedd e'n ifanc doedd e ddim yn gwybod be' oedd yn mynd 'mlaen gyda'r tân gwyllt," meddai.
"Ma' lot o anifeiliaid a pobl ddim yn eu hoffi. Weithiau wrth gerdded i'r dref ni'n gallu cael tân gwyllt yn mynd off pedair gwaith, ma' fe'n gallu bod yn lot i ddelio gydag e."
Un arall sy'n ei chael hi'n anodd yr adeg hon o'r flwyddyn yw Amanda o Gei Connah yn Sir y Fflint, sydd â nam ar ei golwg.
Dywedodd y bydd yn rhaid iddi hi aros adref bob nos am gyfnod er mwyn amddiffyn ei chi tywys, Eddie rhag effaith y tân gwyllt.
"Maen nhw'n cael effaith ofnadwy ar Eddie. Mae o'n crio, mae o'n amlwg yn aflonydd ac yn aml yn dringo drosta i. 'Da ni wedi trio bob math o bethau i roi cysur iddo.
"Mae o'n gwrthod bwyta, gwrthod yfed ac yn cau mynd i'r toiled."
Ychwanegodd fod y tân gwyllt yn cael effaith fawr arni hi hefyd, gan nad yw hi'n gallu mynd allan heb Eddie.
Mae Eddie bellach wedi cael meddyginiaeth i helpu iddo beidio cynhyrfu gymaint yn ystod y cyfnod yma, ac er bod Amanda yn dweud ei fod yn rywfaint o help, dydy hynny heb ddatrys y broblem yn llwyr.
'Dim cŵn arferol yw rhain'
Dywedodd elusen Guide Dogs fod tua chwarter perchnogion cŵn tywys yn dweud bod eu hanifeiliaid yn cael eu gofidio gan dân gwyllt.
Yn ôl Tim Stafford, un o gyfarwyddwyr yr elusen, maen nhw'n gweithion galed i baratoi cŵn tywys ar gyfer synau o'r fath ond mae'n amhosib rhagweld yr effaith ar wahanol gŵn.
"Dim cŵn teuluol arferol yw'r rhain... i berchennog ci tywys, mae unrhyw drafferthion fel hyn yn cael effaith gwirioneddol."
Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld rhagor o gyfyngiadau o ran gwerthiant tân gwyllt, byddai defnyddio tân gwyllt tawel, neu fynd i ddigwyddiadau swyddogol yn hytrach na'u tanio adref yn cael mwy o effaith.
Dywedodd Cymdeithas Tân Gwyllt Prydain mewn datganiad eu bod yn deall pryderon perchnogion cŵn tywys, ond ei bod hi'n bwysig ystyried effaith unrhyw gyfyngiadau pellach ar werthiant tân gwyllt ar ddefnydd anghyfreithlon o dân gwyllt.
Fe esboniodd y gymdeithas y byddan nhw o blaid gweld yr isafswm oedran i allu prynu tân gwyllt yn codi o 18 i 21, yn ogystal â mwy o ymdrech i fynd i'r afael â gwerthiant tân gwyllt anghyfreithlon.
"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r llywodraeth, ac wedi llunio cynllun 10 cam er mwyn ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol."