Trefnu digwyddiadau dawnsio disgo i ddelio â galar

Leah Sian Davies gyda'i ffrind Georgina
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ffrind sydd wedi profi marwolaethau aelodau agos o'u teuluoedd wedi penderfynu cynnal digwyddiadau yng Nghaerdydd sy'n rhoi'r cyfle i bobl ddefnyddio dawns i'w helpu â galar.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener eglurodd Leah Sian Davies, a gyd-sefydlodd y Disgo Galar gyda'i ffrind Georgina, y syniad tu ôl i'r digwyddiad.
"Mae'r ddwy ohonom ni wedi colli pobl sy'n agos i ni," meddai.
"O'n i'n 'neud pethau fel mynd mas i fyd natur, myfyrio, ond o'n i rili yn hoffi mynd i ddawnsio a gwrando ar house music.
"Roedden ni'n dwy yn mynd mas - ddim yn yfed, ond jest mynd i fwynhau'r gerddoriaeth, ac o'n i rili'n teimlo bod e'n rhoi rhyddhad i ni."

Yr awyrgylch fywiog mewn disgo galar
Ychwanegodd Leah: "O'n i'n teimlo bod e'n helpu ni i ymdopi gyda'r galar ac o'n i'n meddwl, wel, mae pobl wedi bod yn dawnsio ers forever ac mae dawns a symud y corff mor dda i ymdopi gyda galar.
"Mae galar yn gallu bod yn drwm ar y corff ac mae dawnsio jest mor dda i ni, ac oedden ni'n ei ffeindio fe mor bwysig i ni ymdopi gyda galar.
"O'n i eisiau creu rhywbeth oedd yn helpu pobl eraill."

House yw'r mwyafrif o'r gerddoriaeth yn y digwyddiadau mae Leah a Georgina yn eu cynnal
Felly, sut mae'r disgo'n wahanol i unrhyw ddisgo arall?
"Mewn rhyw ffordd mae fel unrhyw ddisgo arall," meddai Leah.
"Heno [nos Wener], yn y Sustainable Studio yng Nghaerdydd bydden ni'n gwneud yr ail Grief Disco, ac mae ganddo ni DJs grêt fydd yn chwarae house music.
"Bydd y disgo yn cael ei gynnal fel yr arfer, ac mewn stafell arall mae'r rituals room, ac mae hwnna'n le mwy tawel ble mae pobl yn gallu mynd, siarad gyda'i gilydd os maen nhw eisiau a chael diod.
"A mae ganddo ni rituals yna - er enghraifft, rhywbeth o'r enw'r dedication tree ble mae pobl yn gallu ysgrifennu neges i rhywun maen nhw wedi colli, nodi enwau pobl maen nhw wedi colli a dathlu pobl a'u bywydau.
"Mae ganddo ni gwpl o bethau neis maen nhw'n gallu 'neud yn y stafell yna os maen nhw'n dewis."
Cymorth yn ogystal â dawnsio
Dywedodd Leah ei bod hi a Georgina hefyd yno i gynnig cymorth i bobl sy'n mynychu'r disgo, os fydd angen.
"Mae 'na le os maen nhw eisiau siarad gyda fi neu Georgina, ond does dim pwysau ar unrhyw un i rannu neu siarad am eu galar," meddai.
"Mae o jest yn le ble mae pobl yn gallu dod a gwybod fod pobl eraill yn mynd trwy'r un peth.
"Felly, mae o fel disgo ond mae cwpl o bethau eraill yn ei wneud e'n bwysicach i ymdopi gyda galar."

Mae dawnsio'n ffordd o roi rhyddhad i unigolyn, yn ôl Leah
Mae'r math o gerddoriaeth y mae Leah a Georgina yn ei ddewis ar gyfer y disgos yma yn bwrpasol, ble mae'r ffocws ar gerddoriaeth egnïol House.
"Dwi a Georgie yn dwlu ar house music, ond mae'n rhan fawr ohono fe achos mae house music am ddod a phobl at ei gilydd," meddai Leah.
"Mae am bobl yn cysylltu gyda'i gilydd - does dim ots ble chi'n dod.
"Mae fe wedi dod o'r lle yna o groesawu pobl i mewn.
"Mae fe'n egnïol, ac uplifting ac mae pobl jysd yn rili cael siawns i shake it all off, symud y galar trwy'r corff a'r pwysau maen nhw falle'n ei gario."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd18 Mai 2023
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2024