Pwy yw'r cogydd Daniel ap Geraint?

Daniel ap Geraint
Disgrifiad o’r llun,

Daniel ap Geraint yw prif gogydd bwyty The Gunroom

  • Cyhoeddwyd

Mae rhaglen The Great British Menu yn dathlu'r 20fed cyfres eleni.

Yn ystod y gyfres yma, mae'r cogyddion wedi'u rhannu'n rhanbarthol, gyda chogyddion o ardaloedd gwahanol o Brydain yn brwydro i geisio cyrraedd y rownd derfynol i allu coginio ym Mhalas Blenheim.

Tro'r cogyddion o Gymru yw hi heno, ac un o'r rhai sy'n cymryd rhan yw Prif Gogydd bwyty'r Gunroom ym Mhlas Dinas, Bontnewydd ger Caernarfon, Daniel ap Geraint.

Ond pwy yw Daniel a sut brofiad oedd hi i gystadlu ar raglen mor fawreddog?

Cynnig The Great British Menu

Mae Daniel yn dod o Brestatyn yn wreiddiol ac roedd bwyd yn rhan enfawr o'i fagwraeth.

Mae'n dweud fod bwyd blasus ei Nain wedi'i ddylanwadu. Er iddo adael yr ysgol ac astudio theatr, cerdd a'r cyfryngau yn y brifysgol, gwnaeth gweithio mewn cegin dros gyfnod yr haf wneud iddo sylweddoli ei fod yn angerddol iawn dros goginio.

Ar ôl cyfnod yn gweithio mewn tafarn gastro yn Llandudno, fe ddaeth yn Brif Gogydd yn 23 mlwydd oes cyn mentro i agor ei fwyty ei hun a gafodd ei gynnwys yn y Michelin Guide a The Good Food Guide.

Ers 2018 mae Daniel yn gweithio yn Ngwesty Plas Dinas ym Montnewydd ac ym mwyty The Gunroom.

Plas DinasFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyty The Gunroom wedi'i leoli yng ngwesty Plas Dinas ym Montnewydd ger Caernarfon

Mae'r fwydlen yno yn newid yn fisol i adlewyrchu cyfoeth cynnyrch lleol yr ardal.

Mae hynny'n elfen bwysig o'r bwyd mae Daniel yn ei greu, ac wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, fe soniodd sut gafodd y cyfle i fynd ar y rhaglen.

"'Nathon nhw yrru neges i fi ar Instagram a gofyn os oedd gen i ddiddordeb i wneud y sioe.

"Mae gynno chi gyn lleied o amser i neud pob dim, mae o mor stressful, mae'n wythnos llawn twists, turns a stress i gael popeth yn barod i'r safon 'da chi isio fo.

"Roedd yn rhaid i mi gynrychioli'r Gunroom a'r bwyd o'n i'n coginio pob dydd, ond ro'n i eisiau neud rhywbeth yn wahanol.

"Mae 'na gwpwl o elfennau o'r bwyd lle fyswn i ddim fel arfer yn ei goginio, neu mathau o fwyd fyswn i ddim yn goginio ond fedra i chwarae efo'r bwyd fwy ar sioe fel hyn a bod yn fwy creadigol.

"Ond roedd yn rhaid i bob elfen o'r bwyd fod yn berffaith a dyna oedd yn anodd," meddai.

Dylanwad Bryn Williams

Bryn WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel yn sôn am ddylanwad y cogydd Bryn Williams arno

Wrth edrych yn ôl dros gyn-gyfresi The Great British Menu mae Daniel yn cofio gwylio rhai o'r cyfresi cyntaf a oedd yn cynnwys y Cymro Bryn Williams, ac mae'n disgrifio ei ddylanwad arno.

"Dwi'n cofio gwylio'r sioe pan 'nath o ddod allan pan oedd Bryn arno, ac mae Bryn Williams dal yn rhywun dwi'n sbïo fyny iddo rŵan a dwi'n gwybod pwy ydi o diolch i'r sioe," meddai.

Tra'n ymddangos ar y sioe, roedd y dyddiau yn mynd yn hir iawn i Daniel wrth iddo ymarfer ei grefft ar ôl diwrnod llawn o weithio yn y Gunroom.

"Cyn i mi ddechrau ffilmio roedd 'na lot o waith i greu'r stori, heblaw am y bwyd, roedd yn rhaid i mi ddewis y themâu iawn.

"Roedd 'na lot o nosweithiau hir, gweithio trwy'r dydd yn y gegin a thrio pethau allan.

"'Nath lot o bethau fynd yn wrong ond gobeithio fy mod wedi dewis y fwydlen iawn," meddai.

Bydd enillydd yr ornest o gogyddion Cymru yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol i geisio hawlio'u lle i allu coginio ym Mhalas Blenheim.

Y tri arall fydd yn cystadlu o Gymru yw:

Ayesha Kalaji, Chef Patron a pherchennog, Queen of Cups.

Lewis Dwyer, Prif Gogydd, Hiraeth Kitchen.

Seb Smith, Prif Gogydd, Allt Yr Afon.

Os na allwch chi ddisgwyl tan y rhaglen heno, mae'r bennod ar gael nawr i'w gwylio ar BBC iPlayer.