Bryn Williams: 'Dal eisiau bod yn chef, dim dyn busnes'

  • Cyhoeddwyd
Bryn WilliamsFfynhonnell y llun, Bryn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n bwysig gwybod pryd i ddweud na i wahanol brosiectau, meddai Bryn Williams

"Dwi'n mynd i fy ngwaith mewn crys chef... dwi ddim eisiau mynd mewn i'n ngwaith fel dyn busnes.. mae'r ochr coginio yn andros o bwysig i fi."

Mae Bryn Williams yn un o gogyddion mwyaf adnabyddus Cymru a bellach yn berchen ar bedwar bwyty - Odette's yn Llundain, Bryn's ym Mhorth Eirias, y Cambrian Hotel yn yr Alpau a'r Touring Club ym Mhenarth.

Mae o hefyd wedi rhyddhau llyfrau coginio ac wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu.

Ond er yr holl lwyddiant y tu hwnt i'r gegin, mae o'n mynnu mai yno y mae o'n teimlo fwyaf cyfforddus o hyd.

Mewn cyfweliad â rhaglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd ei bod hi'n bwysig gwybod pryd i ddweud na pan mae pobl yn cynnig gwahanol brosiectau.

"Mae o'n neis fod rhywun yn gofyn i fod yn onest, mae 'na rywbeth neis yn hynny... Ond ti'n dechrau deall pan ti'n gwneud lot o bethau y tu allan i'r tŷ bwyta, bo' ti methu gwneud popeth.

"I fi mae'n bwysig dewis y pethau pwysig, neu'r pethau ti'n meddwl sy'n mynd i weithio.

"Mae gen i asiant sydd wastad yn cwyno bo fi'n dweud na wrth bob dim... i fod yn onest dwi'n deud na 80% o'r pethau sy'n dod i'r swyddfa - ond y gyfrinach ydi dewis be sy'n mynd i weithio i werthu'r busnes mewn llyfrau neu waith teledu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'nabod eich ardal a'ch cwsmeriaid yn hanfodol, yn ôl Bryn Williams

Mae Bryn Williams bellach wedi agor ei bedwerydd bwyty - sef y Touring Club ym Mhenarth ger Caerdydd.

Mae'n dweud bod gwahaniaethu'r pedwar safle yn bwysig iddo, cyn belled â bod y safon yn cael ei gynnal ar hyd pob un.

"Maen nhw gyd yn wahanol, ac ar bwrpas hefyd. Dwi byth eisiau cael brand, lle mae'r un bwyty ym mhob man," meddai.

"I fi, mae ymdeimlad o le yn bwysig iawn... ma' Odette's yn gwneud bwyd o dros Brydain i gyd, Porth Eirias mae 'na lot o bysgod a chregyn gleision, mae'n gwneud synnwyr yno... Y Cambrian wedyn yr un peth, mae pob dim yn dod yn lleol o'r Alpau, a'r Touring Club - bar ydi o lle gallwch chi gael brecwast cinio neu swper, gyda glasiad o win neu baned.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Williams gyda'r cyflwynydd Huw Stephens

"Be sy'n bwysig i fi yw bod safon y cynhwysion a'r sgiliau da ni'n eu defnyddio fel cogyddion yr un peth ymhob tŷ bwyta, ond bod y cynnyrch yn wahanol."

Ychwanegodd bod rhaid i chi adnabod yr ardal a'ch cwsmeriaid: "Dwi ddim yn meddwl fysa chi'n gallu agor Odette's yn y gogs, dwi ddim yn meddwl 'sa fo'n gweithio - ac yn yr un modd, dwi ddim yn meddwl fysa chi'n gallu agor Porth Eirias lawr yn Llundain."

Beth yw'r ysbrydoliaeth?

"Fel ti'n mynd trwy dy yrfa ti'n cyfarfod lot o chefs gwahanol, ac fel ti'n mynd yn hŷn ti'n dechrau gweithio hefo lot o bobl ifanc," meddai.

"Ti'n dysgu lot ganddyn nhw, achos maen nhw'n gweld bwyd mewn ffordd wahanol.

"Hefyd, dwi wastad yn dweud nad yw cogyddion ifanc yn mynd allan i fwyta digon, mae'n bwysig mynd allan i weld be sy'n digwydd.

"Tro diwethaf o ni'n Brick Lane ges i bagel, ges i gyfuniad o jalapeno a smoked salmon ag o'dd y cyfuniad yn berffaith... so dwi wedi cymryd y cyfuniad yna fewn i Odette's, mewn ffordd gwbl wahanol, ond dyna le mae'r ysbrydoliaeth wedi dod - brechdan yn Brick Lane!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn Williams wedi gweithio gyda rhai o fawrion y byd coginio, gan gynnwys Marco Pierre White

Mae Bryn Williams wedi gweithio gyda rhai o gogyddion enwocaf y byd yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Marco Pierre White a Michel Roux Jr.

Ond dim yr enwau mawr sy'n bwysig, medda fo, ond dod o hyd i rywle sy'n caniatáu i chi ddysgu eich crefft.

"Ma' hi ddigon hawdd ar y funud i fod yn gogydd heb sgiliau - lle mae bob dim yn cael ei baratoi o flaen llaw mewn lle gwahanol, mae'r cynnyrch yn dod i mewn, ychwanegu bach o halen a phupur, ei gynhesu a'i roi o ar blât... Ond i fi, dim coginio ydi hynny, y sgiliau sy'n bwysig.

"'Dwi wedi bod yn andros o lwcus i fod wedi gweithio gyda Marco Pierre White a Michel Roux Jr, i gael y safon, y sgiliau, ac i ddeall pam da ni'n neud technegau gwahanol.

"Ond yr un fwya' pwysig i fi ydi Alwyn Thomas fyny yn y becws yn Ninbych, 'nes i weithio yn fanna pan o'n i'n 12 tan o'n i'n 17.

"Fo wnaeth gymryd yr amser i ddangos i fi sut i baratoi pethau mewn ffordd wahanol, y ffordd iawn, y ffordd anghywir... does dim angen iddo fo fod yn enw mawr y mae pawb yn ei adnabod, be sy'n bwysig ydi'r sgiliau."

Be nesa?

Ar hyn o bryd beth bynnag, does gan Bryn Williams ddim cynlluniau i ychwanegu at ei gasgliad o fwytai.

"Agor tŷ bwyta ydi'r darn hawdd - cadw fo ar agor ac o safon, dyna ydi'r gwaith caled," meddai.

"Pan ma' pobl yn gofyn 'be nesa?', mae angen i fi esbonio bod rhedeg tŷ bwyta yn lot fwy o waith na agor tŷ bwyta.

"Dwi'n hapus, dwi ddim yn meddwl bod o'r amser i agor dim byd ar y funud gyda phrisiau bwyd yn mynd i fyny, prisiau trydan yn mynd i fyny... felly ar y funud, yn bersonol, dwi ddim yn meddwl bod o'n amser da i agor unrhyw beth arall.

"Ac i fod yn onest, does gen i ddim yr amser i neud dim byd ar y funud!

Er hynny, fe ychwanegodd ei fod o wedi dechrau cwmni o'r enw Bryn's Kitchen sy'n gwerthu eitemau fel jam a siytni.

"Mae o'n hollol wahanol i dŷ bwyta, ond be sy'n dda ydi, bod pobl yn cael elfen o'r tŷ bwyta adref, a dyna'r cam nesa dwi'n trio ei wneud ar y funud."

Pynciau cysylltiedig