'Arian ar gael i'n digolledu,' medd gweithwyr dur a gollodd bensiwn

Mae gweithwyr yr hen ffatri ASW wedi bod yn ymgyrchu i dderbyn eu pensiynau llawn, gan gynnwys chwyddiant, ers 2002
- Cyhoeddwyd
Mae pensiynwyr ffatri yng Nghaerdydd, a gollodd eu pensiynau pan aeth i'r wal, yn dweud bod arian nawr ar gael i'w digolledu.
Cafodd gweithwyr Allied Steel and Wire 90% o'u pensiynau yn ôl, ond maen nhw wedi colli eu gwerth oherwydd nad yw taliadau'n gysylltiedig â phrisiau cynyddol.
Mae gan Gronfa Diogelu Pensiynau, y PPF £13 biliwn wrth gefn, ac mae'r pensiynwyr yn dweud y dylid defnyddio rhan ohono i'w talu.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud.
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd14 Mai
Cafodd y mesurau i ddiogelu pensiynau eu cryfhau ar ôl Sgandal Maxwell, pan wnaeth y dyn busnes Robert Maxwell ddwyn mwy na £400 miliwn o gronfeydd pensiwn grŵp papurau newydd y Mirror i gynnal ei fusnesau.
Collodd ei bensiynwyr hanner yr hyn yr oedden nhw wedi'i dalu i mewn.
O ganlyniad, sefydlwyd y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) i amddiffyn pensiynwyr pan fyddai'r cwmnïau yr oedden nhw'n gweithio iddyn nhw yn mynd i'r wal.
Y cynllun hwn wnaeth achub grŵp o weithwyr Cymreig o Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd a oedd ar eu colled pan ddiflannodd y cwmni yn 2002.
Fodd bynnag, er i weithwyr ASW dderbyn 90% o'u pensiynau, mae eu gwerth wedi gostwng ers hynny gan nad ydynt yn gysylltiedig â phrisiau cynyddol.

"Mae wedi dinistrio breuddwydion y bobl sy' wedi ymddeol," meddai John Benson
Mae John Benson o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg yn un o'r gweithwyr.
Mae wedi arwain ymgyrch hir yn gofyn i'r llywodraeth wneud yn iawn am y diffyg, sydd, yn ei ôl ef, wedi arwain at ganlyniadau difrifol iddo fe a gweithwyr eraill.
"Mae wedi dinistrio breuddwydion pobl sy' wedi ymddeol. Mae rhai cydweithwyr wedi symud i gartrefi llai.
"O'dd un fenyw, a oedd yn ddifrifol wael ei hun, ddim yn gallu fforddio angladd ar ôl i'w gŵr farw, ac ychydig fisoedd wedyn na'th hi farw.
"Mae'n difetha'r enaid. Mae wedi fy ninistrio i. Mae yna lawer o straeon arswydus. Gormod i'w hadrodd."

"Mae hwn yn anghyfiawnder enfawr i ddeiliaid pensiwn ASW a deiliaid pensiwn eraill ledled y DU," meddai Andrew RT Davies
Nawr mae grŵp trawsbleidiol o aelodau'r Senedd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn ei annog i dalu'r pensiynau'n llawn - yn eu plith y cyn-arweinydd Ceidwadol ym Mae Caerdydd, Andrew RT Davies.
"Mae hwn yn anghyfiawnder enfawr i ddeiliaid pensiwn ASW a deiliaid pensiwn eraill ledled y DU.
"Heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, maen nhw wedi colli eu hawl i bensiwn llawn yr oedden nhw wedi talu iddo, ac ry'n ni'n credu y dylid cywiro'r system a dyna pam y'n ni wedi llofnodi'r llythyr hwn."
Mae hefyd wedi dod i'r amlwg fod gan y cynllun ddaeth yn lle'r Cynllun Cymorth Ariannol, y Gronfa Diogelu Pensiynau, fwy na 13 biliwn o bunnoedd yn y coffrau.
'Ein harian ni yw e'
Dywed John Benson na fyddai talu swm bach iawn o'r arian hwnnw i'r pensiynwyr yn golled fawr i'r gronfa, ond byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw.
"Dylai'r arian hwn, yr arian wrth gefn hwn yn y PPF, gael ei dalu i adfer ein pensiynau'n llawn... Ein harian ni yw e… Stopiwch wneud esgusodion mai arian cyhoeddus yw e – ein harian ni yw e.
"Mae'r arian hwn ar ein cyfer ni, nid ar gyfer unrhyw bolisïau eraill o fewn y llywodraeth."

Codwyd y mater hefyd gyda'r Gweinidog Pensiynau, AS Gorllewin Abertawe Torsten Bell, mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith a Phensiynau yn gynharach y mis hwn.
Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor, yr AS Llafur Debbie Abrahams: "Allai ddim deall y rheswm dros beidio â gwneud penderfyniad i'w galluogi i dreulio ychydig flynyddoedd olaf eu bywyd mewn rhywfaint o gysur.
"Allwch chi roi unrhyw obaith inni ynghylch hyn?"
Atebodd Mr Bell: "Mae angen edrych ar hwn yn iawn. Mae angen ei ystyried yng ngoleuni effeithiau ehangach, fel pob mater polisi cyhoeddus, ond rwy'n gwbl ymwybodol o'r mater.
"Rwyf hefyd yn ymwybodol o oedran y bobl sy'n cael eu heffeithio. Y peth gorau y gallai wneud yw dweud fy mod yn ymwybodol ac rwy'n edrych arno, ond mae'r goblygiadau cyllid cyhoeddus yn fwy cymhleth nag a nodwyd gennych chi."
'Incwm aelodau wedi colli gwerth'
Mewn ymateb, ynghylch yr £13 biliwn, dywedodd y PPF ei fod yn fwriadol yn meddu ar yr hyn y mae'n ei alw'n gronfa wrth gefn i'w amddiffyn rhag hawliadau yn y dyfodol neu rhag ofn bod pobl yn byw'n hirach na'r disgwyl.
Mewn datganiad dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Rydym yn cydnabod y gallai incwm aelodau fod wedi colli eu gwerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Fodd bynnag, mae'r rhain yn faterion cymhleth sy'n gofyn am weithredu'n gytbwys.
"Mae'r llywodraeth yn parhau i ystyried yr hyn y'n ni wedi clywed gan aelodau'r Gronfa Diogelu Pensiynau a'r Cynllun Cymorth Ariannol ar y mater hwn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.