'Dim swyddi gwyrdd yn lle'r cannoedd a gollwyd ym Mhort Talbot'

Llun artist o'r ffwrnais newydd ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae'r modd y deliodd llywodraethau Cymru a San Steffan gyda newidiadau diweddar i weithfeydd dur Port Talbot wedi'i feirniadu gan y corff sy'n eu cynghori ar newid hinsawdd.
Dylai gweinidogion fod wedi cynllunio ymhell o flaen llaw er mwyn sicrhau bod swyddi gwyrdd ar gael yn lleol i'r cannoedd wnaeth golli'u gwaith, meddai'r arbenigwyr.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi eu cyngor diweddaraf ar sut all Gymru gyrraedd ei tharged sero net, gan alw hefyd am wneud mwy i hybu cerbydau trydan a phlannu coed.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ac eraill i gefnogi gweithwyr dur Port Talbot a datblygu "gweledigaeth gref" ar gyfer dyfodol y rhanbarth.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo £2.5bn "i ailadeiladu'r diwydiant dur am ddegawdau i ddod wrth ddatgarboneiddio".
"Ni ddylai datgarboneiddio olygu dad-ddiwydiannu, a byddwn yn sicrhau dyfodol disglair a chynaliadwy i'r diwydiant dur yn y DU," ychwanegodd llefarydd.
"Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni gyflawni ein cenhadaeth ynni glân a chyflymu tuag at sero net, gan dyfu ein heconomi a sicrhau gwell byd i bobl sy'n gweithio."

Mae buddsoddi £1.25bn mewn ffwrnais drydan yn lleihau allyriadau ac yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur, medd Tata Steel
Cafodd dros 2,000 o swyddi eu colli yng ngweithfeydd dur Port Talbot yn dilyn cau y ffwrneisi chwyth yn 2024.
Daeth hynny â diwedd i'r dull traddodiadol o gynhyrchu dur ar y safle, wrth i gwmni Tata wynebu colledion o dros £1m y dydd.
Fe gawson nhw grant o £500m gan Lywodraeth y DU ac maen nhw bellach yn buddsoddi £1.25bn i adeiladu ffwrnais drydan erbyn 2027.
Bydd honno'n ailgylchu metel sgrap a'i droi'n nwyddau newydd, ond bydd angen llawer yn llai o weithwyr i oruchwylio'r gwaith.
Mae'r newidiadau yn mynd i gael effaith ddramatig ar allyriadau uniongyrchol nwyon tŷ gwydr o Gymru.
Roedd y ffwrneisi chwyth yn cael eu bwydo'n gyson â glo, ac mae eu cau nhw wedi mwy na haneru allyriadau diwydiannol Cymru ers 2022, meddai'r pwyllgor.

Dywed Shaun Spencer fod nifer o'i gyn-gydweithwyr yn Tata yn teimlo'n chwerw
Dywedodd y cyn-weithiwr dur, Shaun Spencer, sydd bellach yn gweithio i gwmni sy'n hyfforddi peirianwyr, ei fod yn cytuno'n llwyr â sylwadau'r pwyllgor.
"Mae teimladau o chwerwder yn gryf iawn" ymhlith ei gyn-gydweithwyr, meddai, ac ychwanegodd bod yr hyn sydd wedi digwydd wedi effeithio ar farn pobl yr ardal am dargedau sero net.
Dywedodd Emma Pinchbeck, prif weithredwr y Pwyllgor Newid Hinsawdd wrth y BBC bod yr hyn a ddigwyddodd ym Mhort Talbot yn "rhagweladwy ac yn ataliadwy", ac "nad dyma'r astudiaeth achos orau" ar gyfer sut y dylai trawsnewid gwyrdd fod.

Ymhlith argymhellion y pwyllgor mae cefnogi mwy o bobl i gael ceir trydan
Roedd amgylcheddwyr wedi rhybuddio y gallai'r sefyllfa ym Mhort Talbot effeithio ar gefnogaeth y cyhoedd i weithredu yn erbyn newid hinsawdd - a hynny wrth i nifer o swyddi gael eu colli yno yn sgil bod yn fwy caredig i'r amgylchedd.
Yn eu hadroddiad, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud bod yna "wersi pwysig i'w dysgu", ac y dylai llywodraethau Cymru a San Steffan fod wedi paratoi yn well.
"Roedd yr heriau sy'n wynebu sector dur y DU yn glir ers sawl blwyddyn, ac o gofio pwysigrwydd y safle i'r economi yn lleol, fe ddylid fod wedi datblygu cynllun pontio fwy rhagweithiol a chadarn," meddai'r pwyllgor.
Dywedodd y dylai Llywodraeth y DU fod wedi cymryd camau i sicrhau bod prisiau trydan yn fwy cystadleuol i ddiwydiannau mawr, a sicrhau trafodaethau "cynnar a chydweithredol" rhwng y perchnogion, gweithwyr a'r gymuned.
Ychwanegodd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi sicrhau bod "y rhaglenni hyfforddiant a sgiliau cywir yn eu lle ym mhell cyn cau'r ffwrnesi", a datblygu strategaeth ddiwydiannol leol fyddai'n cefnogi cyfleoedd cyflogaeth eraill mewn meysydd fel ynni a gwres adnewyddadwy.
Mae'r adroddiad yn dweud y dylai profiad Port Talbot bellach gael ei ddefnyddio "er mwyn arwain ymdrechion at y dyfodol i ddatgarboneiddio diwydiannau pwysig eraill", gan nodi purfeydd olew Penfro fel enghraifft.

Bydd angen i orchudd coed Cymru gynyddu i 17% erbyn 2033, a 26% erbyn 2050
Fel y DU, mae gan Gymru darged cyfreithiol sero net, sy'n golygu na ddylai fod yn cyfrannu mwyach at y nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer erbyn 2050.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn darparu cyngor annibynnol ar faint y gellid ei allyrru dros gyfnodau o bum mlynedd, a elwir yn "gyllidebau carbon", a sut y gall pob un o wledydd y DU gyrraedd y nod.
Mae bob cyllideb carbon yn gam ar y daith tuag at sero net, ac mae'r cyngor diweddaraf yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 2031-35.
Mae'r adroddiad yn argymell 73% o ostyngiad mewn allyriadau blynyddol ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod yma, o'i gymharu â faint o allyriadau roedd Cymru'n eu cynhyrchu yn 1990.
Mae allyriadau'r wlad wedi gostwng 37% hyd yma, a Chymru wedi llwyddo o ran ei chyllideb carbon rhwng 2016-2020 - yn bennaf drwy newidiadau o ran cynhyrchu trydan, gan gynnwys cau pwerdy glo ola'r wlad yn Aberddawan, Bro Morgannwg.
Ond bydd sicrhau toriadau pellach yn anoddach - ac yn dibynnu arnon ni i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut ry'n ni'n byw.
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn nodi 16 o argymhellion "i'w gweithredu ar frys".
Mae'r rheiny'n cynnwys cefnogi pobl i osod systemau gwresogi carbon isel - fel pympiau gwres - gyrru cerbydau trydan neu ddewis trafnidiaeth gyhoeddus.
Erbyn 2033 - ymhen wyth mlynedd - bydd angen i un ym mhob tri char neu fan ar ffyrdd Cymru fod yn rhai trydan, a bron i chwarter cartrefi presennol y wlad fod wedi'u twymo â phwmp gwres neu dechnoleg debyg.
'Llai o ddefaid a gwartheg'
Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig i "amrywio eu hincwm" gan ddibynnu'n llai ar gadw da byw, a mwy ar greu coetiroedd ac adfer mawn.
Yn 2022, roedd y byd amaeth yn un o'r sectorau sy'n anfon y mwya' o allyriadau i'r atmosffer, sef 16% .
Dylai niferoedd gwartheg a defaid ddisgyn 19% erbyn 2033, o ganlyniad i newidiadau polisi a symudiadau tuag at ddeietau sy'n cynnwys llai o gig a llaeth, meddai'r adroddiad.
Mae'n ychwanegu bod angen hynny er mwyn lleihau allyriadau methan o dda byw, a galluogi tir i gael ei ddefnyddio ar gyfer plannu coed a gwella mawndiroedd.
Bydd angen i orchudd coed Cymru gynyddu i 17% erbyn 2033, a 26% erbyn 2050.
Dywedodd undeb ffermio NFU Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru "feddwl ac ystyried" a yw'r cyngor hwnnw'n cyd-fynd "â'r amgylchiadau sydd gennym ni yng Nghymru".
"Mae miloedd lawer o bobl yn dibynnu ar amaethyddiaeth a chynhyrchu da byw," meddai llywydd yr undeb, Aled Jones.