'Mor bwysig bod y Brifwyl yn cydnabod gwaith gwyddonwyr'

Hugh Thomas, Iolo ap Gwynn a Dic JonesFfynhonnell y llun, Iolo ap Gwynn
Disgrifiad o’r llun,

Iolo ap Gwynn yn derbyn y fedal gan Hugh Thomas yng nghwmni'r cyn-Archdderwydd Dic Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae'n 20 mlynedd eleni ers i'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg gael ei chyflwyno gyntaf, ac yn ôl un sydd wedi ei hennill mae'r fedal a'r babell wyddoniaeth ar y maes yn hynod o bwysig.

Iolo ap Gwynn oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008, a dwy flynedd cyn hynny yn Eisteddfod Abertawe a'r Cylch dyfarnwyd mai ei fam, Eirwen Gwynn, oedd yn deilwng ohoni.

"Mae hi mor bwysig bod gwaith gwyddonwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gydnabod," medd Dr Iolo ap Gwynn wrth siarad â Cymru Fyw.

"Prif amcan cyhoeddi cylchgrawn Y Gwyddonydd, er enghraifft, yn 1963 oedd dangos fod hi'n bosib ymdrin â phynciau gwyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Ar hyd y blynyddoedd mae nifer o wyddonwyr wedi bod yn ymdrechu'n galed i gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg ac mae ond yn deg bod hynny yn cael ei gydnabod yn yr Eisteddfod.

"Mae gwyddonwyr yn haeddu cael eu cydnabod yn yr un modd â llenorion a cherddorion."

Ffynhonnell y llun, Iolo ap Gwynn
Disgrifiad o’r llun,

Eirwen Gwynn yn derbyn ei medal gan Hugh Thomas yn 2006

Roedd Iolo ap Gwynn yn un o sylfaenwyr Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol a bu'n olygydd ar gylchgronau Cymraeg Y Gwyddonydd a Delta, ac mae wedi cyfrannu'n helaeth i waith pwyllgor gwyddoniaeth a thechnoleg yr Eisteddfod.

Ei fam, Eirwen Gwynn yw'r unig ddynes sydd wedi ennill y fedal wyddoniaeth.

Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill doethuriaeth mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Bangor ac fe ysgrifennodd gannoedd o erthyglau ar bynciau gwyddonol.

"Bellach mae nifer fawr o ferched ym maes gwyddoniaeth ac mae eu cyfraniadau yn cael eu cydnabod yn llawer mwy na'r hyn oedd yn digwydd yng nghyfnod Mam - roedd hi'n anodd iddi hi gael swydd yn y maes er ei harbenigedd," ychwanegodd Iolo ap Gwynn.

"Yn sicr dyw prinder merched ymhlith yr enillwyr ddim yn adlewyrchu prinder merched yn y maes - yn sicr mae merched yn deilwng o'r fedal."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dr Rhodri Jones yn cael ei anrhydeddu ddydd Iau

Enillydd y fedal eleni yw Dr Rhodri Jones.

Bydd yn derbyn y fedal fore Iau am ei waith gyda'r Gwrthdarwr Hadron Mawr - peiriant 17 milltir o hyd sy'n pontio'r ffin rhwng Ffrainc a'r Swistir.