Dr Rhodri Jones yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod

Dr Rhodri Jones Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dr Rhodri Jones yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni yn yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Bydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chyflwyno i Dr Rhodri Jones.

Mae'n derbyn y fedal am ei waith gyda'r Gwrthdarwr Hadron Mawr, peiriant 17 milltir o hyd sy'n pontio'r ffin rhwng Ffrainc a'r Swistir.

Mae'r fedal yn cael ei rhoi i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Dr Rhodri Jones yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd fis Awst.

Gwaith Dr Rhodri Jones yw sicrhau bod pelydrau'n rhedeg yn gyflym a chywir yn y peiriant anferth tanddaearol.

Mae'r peiriant wedi ei gladdu'n ddwfn o dan ddaear yng nghanolfan CERN a'i rôl yw sicrhau fod y pelydrau gronynnau sy'n symud o amgylch y peiriant tanddaearol gwerth £3.7bn yn taro'i gilydd.

Wrth esbonio'i waith, dywedodd Dr Rhodri Jones, Pennaeth Adran y Pelydrau bod hynny "wedi ei ddisgrifio fel ceisio taflu dwy nodwydd gwau at ei gilydd o bob ochr i Fôr yr Iwerydd a sicrhau fod y pwyntiau'n cwrdd, felly mae'n eithaf anodd".

Er bod hynny'n heriol, dywedodd bod "gwaith tîm" yn allweddol i "gadw ein safonau uchel i sicrhau fod y pelydrau yn gwrthdaro'n union ble a phryd rydyn ni am iddyn nhw wneud hynny".

Magu pedwar o blant yn Gymraeg yn Ffrainc

Cafodd Rhodri Jones ei eni yn Sir Gaerfyrddin ond fe dreuliodd ei blentyndod cynnar yn yr Iseldiroedd cyn i'r teulu symud i Gaergrawnt.

Fe ddychwelodd i Gymru yn 1989 i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe ac fe enillodd radd PhD mewn Ffiseg Atomig a Laser yno.

Bu'n gweithio i CERN gan gyfrannu at hyrwyddo systemau diagnostig ar gyfer y Gwrthdarwr Hadron Mawr.

Mae bellach yn byw gyda'i wraig a'u pedair o ferched yn Ffrainc, i gyd wedi eu magu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal â derbyn y fedal yn yr eisteddfod eleni, bydd Dr Jones yn cynnal darlith ar ddarganfod y Boson Higgins a gwylio ei ferch, Fflur yn canu gyda'i chôr.