Gobaith sŵ o helpu diogelu dyfodol mwncïod prin
- Cyhoeddwyd
Mae dau fwnci o frîd sydd mewn perygl difrifol o ddiflannu wedi cyrraedd Sir Benfro.
Yn bâr magu, gobaith parc antur a sŵ Folly Farm, yw y bydd y tamariniaid pen cotwm, neu cotton-top, yn bridio ymhellach, gan ddiogelu eu dyfodol.
Gyda’r rhywogaeth yn lleihau, gobaith y parc hefyd yw addysgu ymwelwyr am hanes y mwncïod prin a’r trafferthion maen nhw'n eu hwynebu.
Wedi eu henwi ar ôl eu blew gwyn amlwg, mae’r tamariniaid pen cotwm ar restr ryngwladol o rywogaethau sydd dan fygythiad.
Drwy’r byd, dim ond 2,000 o oedolion sydd ar ôl yn y gwyllt.
'Habitat wedi diflannu'
Dim ond mewn 5% o’u cynefin gwreiddiol yng nghoedwigoedd trofannol gogledd-orllewin Colombia y maen nhw i’w gweld bellach hefyd, yn bennaf oherwydd datgoedwigo ar raddfa fawr.
“Yn anffodus, lle maen nhw’n byw yn y goedwig yn Ne America, mae’r habitat wedi diflannu,” meddai Lee Sefton-Hearn, sy’n gweithio yn Folly Farm.
“Hefyd, mae pobl yn cymryd y mwncis mas o’u habitat naturiol am bethau fel ymchwiliadau gwyddoniaeth a’r illegal pet trade hefyd.”
Wrth ddisgrifio cyfraniad y tamariniaid pen cotwm i fyd natur, dywedodd eu bod yn gwneud swydd "bwysig iawn".
“Maen nhw’n seed dispersers” meddai.
“Pan maen nhw’n bwyta ffrwythau mae seeds yn mynd mas o’r ffrwythau a maen nhw’n symud rownd y fforest gan helpu planhigion i dyfu.
“Hebddyn nhw yn y gwyllt, ry’n ni’n colli pethau pwysig ar gyfer yr ecosystem hefyd.”
Arbenigwyr wnaeth argymell fod y pâr yn cael eu symud i Folly Farm – a hynny fel cynllun i geisio diogelu’r rhywogaeth.
Wedi eu henwi’n Raymond a Raquel, gobaith y parc antur yw y bydd haid o’r mwncïod prin i’w gweld yma yn y dyfodol.
“Mae’n bwysig iawn i’r sŵ gael population fel insurance,” meddai Lee Sefton-Hearn.
“Y gobaith, yn y dyfodol, yw y bydd y population yn y gwyllt yn mynd lan hefyd.”
'Doniol, chwilfrydig a ciwt'
Mae Folly Farm yn perthyn i 36 o raglenni bridio Ewropeaidd, ond ynghyd â gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl, mae addysgu’r cyhoedd am hanes yr anifail a’u heriau hefyd yn bwysig iddynt.
“Mae pawb yn hoffi edrych arnyn nhw, ond mae’r neges yn bwysig i esbonio y problemau yn y gwyllt,” meddai Mr Sefton-Hearn.
“Mae’n neis i ymwelwyr weld nhw fan hyn - maen nhw’n edrych yn ddoniol a chwilfrydig a ciwt - ond mae neges bwysig hefyd.”