Creu 'atgofion anhygoel' i blant â chyflyrau difrifol

Heather a Connor
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Heather Thomas, mae diwrnod mas yn Llangrannog yn help mawr i Connor

  • Cyhoeddwyd

"Mae yn amser tough pan ti yn gofalu am rywun, a ma' diwrnod mas fel hyn yn grêt."

Mae Heather Thomas wedi dod â'i mab Connor, 13, i wersyll yr Urdd Llangrannog am y dydd.

Fe gafodd y digwyddiad ei drefnu gan elusen Y Gronfa Ddymuniadau, sy'n helpu i greu profiadau cofiadwy i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu'n bygwth bywyd.

Mae'r gronfa yn rhan o elusennau iechyd Hywel Dda, ac yn helpu’r gwasanaeth gofal lliniarol pediatrig i greu atgofion parhaol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn y gorllewin a'r canolbarth.

Ffynhonnell y llun, Y Gronfa Ddymuniadau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Y Gronfa Ddymuniadau yn helpu creu atgofion i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau

Mae gan Connor gyflwr prin iawn sy'n golygu ei fod e methu anadlu pan ei fod yn cysgu, ac mae ar beiriant anadlu.

Mae ganddo hefyd awtistiaeth, ac mae wedi derbyn cyfres o sesiynau cemotherapi ar ôl derbyn diagnosis o ganser.

Yn ôl ei fam Heather, mae diwrnod mas yn Llangrannog yn help mawr.

"Mae e 'di mwynhau, ma’ fe 'di bod yn trio tamed bach o bopeth yn cynnwys y go-karts a marchogaeth!"

'Croeso mawr' i bawb

Dywed Dylan Jones, rheolwr cyrsiau yn Llangrannog, bod croeso mawr i'r plant a'u teuluoedd sy'n ymweld gyda help Y Gronfa Ddymuniadau.

"Ry'n ni'n trio 'neud popeth mor gynhwysol â phosib ar y safle," meddai.

"Mae bron pob gweithgaredd gyda ni yn gynhwysol i bawb.

"Mae hyn angenrheidiol i ni ac mae'r Urdd yn fudiad i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Grug Ryan a'i mab Ollie wedi ymweld â gwersyll Langrannog i ddathlu diwedd ei driniaeth dwys

Mae Grug Ryan ai theulu wedi dod i Langrannog o Frynaman.

Mae ei mab Ollie yn 10 oed a'n dioddef o acute lymphoblastic leukaemia, sef math o ganser y gwaed, ac mae wedi bod yn cael triniaeth cemotherapi.

Dywedodd Grug: "Ar y funud fi off gwaith a dim ond fy mhartner sy'n gweithio.

"Ma' cael rhywbeth fel hyn yn 'neud gwahaniaeth mawr iddo fe ac i ni gyd fel teulu.

"Mae Ollie newydd orffen triniaeth a ry'n ni 'di bod yn gorfod aros mewn am 10 mis, ond nawr ry'n ni fan hyn heddi i ddathlu."

Mae elusen Y Gronfa Ddymuniadau hefyd yn sicrhau bod staff iechyd arbenigol wrth law rhag ofn bod angen cymorth ar y bobl ifanc yn ystod yr ymweliadau a'r digwyddiadau.

"Mae cael y plant i gyd at ei gilydd yn wych," meddai Rebekah Rogers, fferyllydd gyda'r tîm gofal pediatrig.

"Mae cael hwyl fan hyn yn bwysig, achos mae plant weithie methu mynd i'r ysgol a jyst wedi treulio amser hir yn yr ysbyty achos bo' nhw 'di bod yn sâl."

Mae'r elusen wedi partneru gyda chlwb rygbi'r Scarlets er mwyn codi arian, a hefyd i godi ymwybyddiaeth am waith y timoedd gofal lliniarol pediatrig.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb eu bod am helpu i greu "atgofion hapus fydd yn para am byth".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Joyce Owens bod ei mab, Llyr wedi mwynhau'r profiad o gymdeithasu â phobl ifanc eraill â chyflyrau tebyg iddo

Mae Joyce Owens o Lanon ger Llanelli wedi dod â'i mab Llyr i Langrannog i fwynhau'r cyfleusterau yn y gwersyll.

Fe gafodd Llyr, 14, ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd ddwy flynedd yn ôl.

"Roedd Llyr bach yn nerfus a gofidus ynglŷn â dod yma heddi i ddechrau," meddai Joyce.

"Ond mae e wedi mwynhau ac mae wedi helpu fe i gymysgu â phobl eraill a phlant ac ieuenctid sy' ag anghenion tebyg iddo fe."

Mae elusen Y Gronfa Ddymuniadau yn dweud fod yr argyfwng costau byw yn golygu bod mwy o alw nawr nag erioed am y cymorth maen nhw yn ei gynnig i blant a'u teuluoedd.

Yn ôl Gareth Davies o'r Scarlets, y bwriad yw parhau i "greu atgofion a phrofiadau anhygoel ar gyfer plant a phobl ifanc a’u teuluoedd, sy’n wynebu heriau mor fawr".