Diwrnod olaf i gofrestru am bleidlais yn yr etholiad

Gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Dydd Mawrth yw'r diwrnod olaf i unrhyw un sy'n dymuno bwrw pleidlais yn yr etholiad cyffredinol gofrestru i bleidleisio.

Mae gofyn i'r bobl hynny sydd heb gofrestru eto, neu sydd angen diweddaru eu manylion, gofrestru erbyn 23:59 nos Fawrth.

Mae'n bosib sicrhau pleidlais ar 4 Gorffennaf trwy wefan Llywodraeth y DU, dolen allanol.

Trwy'r un wefan mae ceisio am bleidlais bost hefyd, erbyn 17:00 ddydd Mercher.

Fe fydd yn bosib gofyn am bleidlais trwy ddirprwy (proxy) - eto erbyn 17:00 - ddydd Mercher nesaf, 26 Mehefin.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Bydd angen i bobl sy'n dewis bwrw pleidlais mewn person fynd â dogfen adnabod, dolen allanol gyda nhw i'r orsaf bleidleisio.

Mae dogfennau dilys yn cynnwys trwydded yrru'r DU, pasbort, bathodyn glas a cherdyn teithio rhatach i bobl dros 60.

Mae gan bobl sydd angen ID tan 17:00 ddydd Mercher 26 Mehefin i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisio.

Mae'r dystysgrif ar gael ar gyfer pobl:

  • sydd heb ddogfen adnabod;

  • sydd â dogfen adnabod ond mae'r enw arno yn wahanol erbyn hyn i'r un ar y gofrestr etholiadol; neu

  • sydd bellach yn edrych yn wahanol i'r llun ar yr ID.

Pynciau cysylltiedig