Diffyg golau stryd yn atal menywod rhag rhedeg
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwraig o Gaerdydd wedi dweud nad yw hi'n teimlo'n ddiogel yn ymarfer corff yn yr awyr agored yn ystod nosweithiau'r gaeaf.
“Mae’n drist a frustrating fy mod i fel dynes ifanc yn teimlo’n anniogel yn gwneud gweithgaredd dwi’n mwynhau," meddai Neev Kacker, 19.
Mae arolwg wedi awgrymu bod canran sylweddol o fenywod yn rhoi’r gorau i ymarfer corff yn ystod adeg yr adeg yma o'r flwyddyn.
Mae 'na alw am fwy o oleuadau stryd, ond mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod wedi buddsoddi i oleuo sawl lleoliad yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf.
Diffyg golau yn atal ymarfer corff?
Gyda'r haul yn gwawrio'n hwyrach a machlud yn gynharach, prin yw'r amser i ymarfer corff yng ngolau dydd yn y gaeaf i'r rheiny sy'n gweithio oriau arferol.
Mae arolwg gan Sports Direct wedi awgrymu fod 56% o fenywod yn rhoi stop ar ymarfer corff yn gyfan gwbl yn ystod y gaeaf, am resymau amrywiol.
Fe wnaeth 71% o atebwyr nodi eu bod yn cael trafferth dod o hyd i lwybrau rhedeg sydd â digon o oleuadau.
Mae Neev Kacker yn ceisio rhedeg tua dwy neu dair gwaith yr wythnos, ond mae ei harferion ymarfer corff yn newid yn ystod y gaeaf.
“Dwi’n hoffi mynd i redeg gyda’r nos, ond gan ei bod hi’n tywyllu’n gynt, dwi methu," meddai.
Yn ôl Neev, sy'n wreiddiol o Sheffield, nid yw rhai o barciau mwyaf Caerdydd wedi eu goleuo'n addas.
“Nid yw'r Rhath na Pharc Bute wedi eu goleuo o gwbl," meddai.
"Dwi’n gorfod defnyddio torch fy ffôn i weld lle dwi’n mynd. Dwi methu coelio fod dim goleuadau wedi cael eu gosod eto.
“Rydym yn cael ein hybu i fod yn iach ac i fagu arferion da, ond pan mae’ch diogelwch yn cael ei fygwth, mae o’n rheswm mawr i beidio mynd i redeg."
'Ddim yn deimlad neis'
Fe wnaeth arolwg arall gan This Girl Can ddarganfod bod 44% o ferched yn teimlo’n anniogel yn rhedeg tu allan yn ystod y gaeaf.
Fel Neev, mae 46% o ferched yn newid eu harferion ymarfer corff tu allan oherwydd ei bod hi'n tywyllu’n gynt.
Mae Beatrice Roberts yn mwynhau rhedeg llwybrau traws gwlad o amgylch ardal Radyr y brifddinas, ond mae hi'n teimlo'n "nerfus" gwneud hynny heb ei grŵp rhedeg yn ystod y gaeaf.
Pan mae hi ar ei phen ei hun, mae hi'n newid ei harferion i redeg ar strydoedd y ddinas, sy'n oleuach, meddai.
Dywedodd: "Dwi'n gweld lot o dynion allan yn rhedeg ar ben ei hunain fel normal, ond dwi'n gweld o'n drist iawn bod merched ddim yn teimlo'n ddiogel i wneud hynny.
"Ar yr adegau prin lle dwi wedi cael fy nal allan, ac mae hi wedi tywyllu'n gynt na'r disgwyl, dydy o ddim yn deimlad neis."
Yn hytrach na rhedeg ar ben eu hunain, mae rhai menywod yn troi at grwpiau redeg er mwyn ymarfer corff gyda chwmni.
Mae gan glwb Mae Hi’n Rhedeg: Caerdydd dros 2,500 o aelodau ar Facebook, ac yn trefnu grwpiau rhedeg i ferched yn unig sawl gwaith yr wythnos.
Roedd Myfanwy Thomas yn un o’r menywod a sefydlodd y clwb yn Medi 2019.
Erbyn hyn, mae hi wedi hyfforddi fel arweinydd rhedeg ac yn cefnogi rhedwyr o bob gallu.
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
"Roedden ni eisiau rhannu ein cariad at redeg gyda menywod eraill, ac yn teimlo bod hi'n bwysig creu lle i fenywod i fagu hyder i redeg," meddai.
“Ni yn teimlo bod hi'n bwysig i barhau i redeg yn y nosweithiau tywyll dros y gaeaf, achos dyna pryd mae menywod yn fwy tebygol o eisiau cwmni i barhau gyda'u hyfforddi.”
Dywedodd Myfanwy fod nifer o lwybrau yng Nghaerdydd wedi eu goleuo, ond bod llwybrau fel Taith Taf yn gallu bod yn “eithaf tywyll”, a bod y grŵp yn credu fod angen mwy o oleuadau.
“Mewn ambell barc sy'n agosach i'r strydoedd, fel Caeau Llandaf, byddai'n braf os allen nhw wella'r goleuadau - mae'n gallu bod eitha' spooky yna yn y nos.”
Nid yw Myfanwy ei hun yn teimlo’n nerfus am redeg gyda’r nos, ond mae hi'n “gwybod fy mod i yn y lleiafrif”.
Caerdydd 'ymysg y dinasoedd mwyaf diogel'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd ei bod yn bwysig cofio fod y brifddinas "ymysg y dinasoedd mwyaf diogel yn y DU".
"Tra bod y cyngor yn cau rhai o’i pharciau yn y nos, mae’r rhai sy'n parhau ar agor yn gwneud hynny ar ôl trafodaethau gyda thrigolion lleol sydd eisiau mynediad," meddai.
"Mae goleuadau yn ein parciau yn y nos yn gorfod ystyried bywyd gwyllt. Gall goleuadau artiffisial niweidio bywyd gwyll mewn sawl ffordd."
Ond ychwanegodd fod goleuadau wedi cael eu gosod neu eu gwella mewn sawl parc a llwybr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod camerâu CCTV wedi'u gosod ym Mharc Bute.