Eisteddfod: Cynnal seremoni'r Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Seremoni y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.
Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Y beirniaid eleni oedd Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch.
Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer fydd hon heb yr Archdderwydd na'r Orsedd yn cymryd rhan.
Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam, a £750 yn rhoddedig gan deuluoedd Megan Tudur, Rheinallt Llwyd a Manon Rhys er cof am Mair a James Kitchener Davies, eu merch Mari a'u hŵyr Mei.
Gwobrwyir drama sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.
Os bydd teilyngdod cyflwynir rhan o'r gwaith buddugol yn y seremoni gyda chefnogaeth Cronfa Goffa J O Roberts.
Cai Llewelyn Evans o Bontarddulais a gipiodd y fedal hon yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Yn ôl y beirniaid Steffan Donnelly, Seiriol Davies ac Elgan Rhys y ddrama 'Eiliad o Ddewiniaeth' gan Wasabi oedd y ddrama fwyaf cyflawn a chydlynol o'r 26 yn y gystadleuaeth.