Neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2024

beirniaid
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y beirniaid Marlyn Samuel, Catrin Beard a Jerry Hunter yn "gwbl gytûn bod rhaid atal y wobr er mwyn cadw safon ac enw da'r gystadleuaeth"

  • Cyhoeddwyd

Doedd neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Y dasg oedd creu nofel heb ei chyhoeddi, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, gyda medal a £5,000 yn wobr.

Y beirniaid oedd Jerry Hunter, Catrin Beard a Marlyn Samuel.

Dywedodd Ms Samuel ei bod wedi cael ei "siomi wrth ddarllen pob un" o'r pum nofel a ddaeth i law eleni.

"Roedd y tri ohonom yn gwbl gytûn bod rhaid atal y wobr er mwyn cadw safon ac enw da’r gystadleuaeth," meddai.

Dyma'r tro cyntaf ers Eisteddfod Môn yn 2017 i'r gystadleuaeth beidio cyhoeddi enillydd.

Alun Ffred Jones oedd yr enillydd y llynedd am ei nofel 'Gwynt y Dwyrain' - mewn cystadleuaeth lle roedd 10 wedi ymgeisio.

Disgrifiad,

Dim teilyngdod yn 'siom ofnadwy' medd y beirniaid

Yn ei feirniadaeth ysgrifenedig, dywedodd Jerry Hunter "fod atal y wobr yn destun siom i ddarllenwyr ffuglen Gymraeg, ond peidied neb â digalonni".

“Ymddengys fod y gystadleuaeth hon yn denu darpar nofelwyr yn hytrach na rhai profiadol yn aml, ac er bod enillwyr y gorffennol wedi llwyddo i greu nofel gyntaf lwyddiannus, mae’n afrealistig disgwyl i hynny ddigwydd bob blwyddyn," meddai.

"Yn hytrach na chwyno nad yw’r gystadleuaeth hon wedi esgor ar nofel newydd eleni, ewch yn syth at un o’r mannau hynny ar faes yr Eisteddfod sy’n gwerthu llyfrau - neu at eich siop lyfrau lleol - a phrynu nofel Gymraeg nad ydych wedi’i darllen," meddai Mr Hunter.

"Mae digon o ddewis ac mae’r dewis hwnnw’n destun diolch, pleser a balchder."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r enillydd wedi ennill y fedal yma a £5,000

Ychwanegodd Catrin Beard ei bod hi'n "deg bod y disgwyliadau’n uchel, a gyda chynifer o nofelau graenus yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, maen nhw’n uwch fyth".

“Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu nofel, ac fel un sydd â sawl ‘Pennod Un’ yn y drôr, allaf i wneud dim ond edmygu dyfalbarhad a dycnwch y rheiny sy’n dwyn y maen i’r wal.

"Ond mae mwy i ysgrifennu nofel na’r drafft cyntaf," meddai, gan ddweud ei bod yn "siomedig" mai "egin nofelau a ddaeth i law".

"Oes, mae yma addewid, gwreiddioldeb, difyrrwch ac enghreifftiau o ysgrifennu godidog, ond does dim un o’r cyfrolau yn agos at fod yn barod i’w chyhoeddi."

'Cael fy siomi wrth ddarllen pob un'

Roedd Marlyn Samuel hefyd yn siomedig nad oedd modd gwobrwyo eleni.

Dywedodd: "Ro’n i’n edrych ymlaen at ddarllen storïau difyr a diddan: nofelau a fyddai’n cydio yn fy nychymyg ac yn dal fy niddordeb efo cymeriadau diddorol a chredadwy.

"Yn anffodus, cael fy siomi wnes i wrth ddarllen pob un ohonynt."

Ychwanegodd: "Gwn ei bod yn siom i ddarllenwyr a llyfrwerthwyr nad oes neb wedi dod i’r brig eleni.

"Fodd bynnag, roedd y tri ohonom yn gwbl gytûn bod rhaid atal y wobr er mwyn cadw safon ac enw da’r gystadleuaeth.”

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.