Mike Phillips yn pledio'n euog i yfed a gyrru

Mike PhillipsFfynhonnell y llun, Ryan Hiscott/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Mike Phillips yn euog i gyhuddiad o yfed a gyrru yn Llanwrtyd ddechrau Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru Mike Phillips wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 25 mis ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru.

Fe gafodd y cyn-fewnwr 41 oed ei arestio yn Llanwrtyd ym Mhowys ar 7 Gorffennaf.

Clywodd Llys Ynadon Llandrindod bod Phillips yn gyrru Audi A4 ar y pryd a bod prawf wedi cofnodi 108 microgram o alcohol i bob 100 mililitr o anadl.

Y terfyn cyfreithiol yw 35 microgram, sy'n golygu fod Phillips dair gwaith dros y terfyn hwnnw.

Fe fydd y gwaharddiad gyrru yn cael ei gwtogi 25 wythnos os yw Phillips yn cwblhau cwrs ymwybyddiaeth yfed a gyrru cyn 8 Ionawr 2026.

Fe gafodd ddirwy hefyd o £1,153, a bydd yn rhaid iddo wneud taliad ychwanegol o £461 a thalu £85 mewn costau.