Sut mae’r anthem wedi ysbrydoli ym Mhontypridd eleni
- Cyhoeddwyd
Cafodd ein hanthem genedlaethol ei sgwennu gan Evan a James James, tad a mab o Bontypridd ym 1856.
Erbyn heddiw mae’r anthem yn rhan annatod o’n bywydau ac am bron i ddwy ganrif rydym wedi ei chanu mewn eisteddfoddau, gemau rygbi, gemau pêl-droed, cyngherddau, a thafarndai.
Felly gyda’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal ym man geni’r anthem gadewch i ni edrych ar sut y mae wedi ysbrydoli rhai o ddigwyddiadau’r brifwyl (a’u teitlau!).
Gwlad! Gwlad! (Sioe theatr)
Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cyflwyno sioe theatr newydd Gwlad! Gwlad! yn yr Eisteddfod.
Tra roedd gweddill y cwmni yn ymarfer, cafodd BBC Cymru Fyw sgwrs gyda’r dramodydd Chris Harris am beth yn union yw'r sioe:
"Mae Gwlad! Gwlad! yn ddrama swrreal, ddireidus, episodig am etifeddiaeth yr anthem genedlaethol. Nid drama hanesyddol yw e, ond drama sydd wir yn ffocysu ar sut mae’r anthem yn siarad i ni fel cenedl heddiw.
"Dy’ ni’n cymryd y gynulleidfa o 1856 i 2074, ar siwrne weddol swrreal mewn i galon cenedlaetholdeb, a hynny mewn awr."
Er taw nid drama hanesyddol yw hon, mae gan Awen gysylltiad â hanes yr anthem. Maen nhw’n rheoli theatrau ar draws de Cymru, gan gynnwys y Muni ym Mhontypridd a Neuadd y Dref ym Maesteg, lle cafodd yr anthem ei chanu’n gyhoeddus am y tro cyntaf yng Nghapel Tabor.
Bu pobl Maesteg hefyd yn rhan o’r broses greadigol, meddai Chris.
"Wnaethon ni gychwyn gyda chwpwl o weithdai ym Maesteg gyda phobl y dref am beth oedd yr anthem yn olygu iddi nhw.
"Ac o hynny o'dd lot fawr o ddeunydd wedi dod allan, gan gynnwys yr ymchwil hefyd wnes i o gwmpas y pwnc am beth mae'r anthem yn ei ddweud, a sut mae e’n siarad i bobl; ydy e’n siarad ‘da pob un person sy’n cael ei gynrychioli yng Nghymru?"
Bydd Gwlad! Gwlad! yn cael ei pherfformio ym mhabell Yma ar Faes yr Eisteddfod Ddydd Sul 4ydd a Dydd Llun 5ed o Awst am 4pm.
Gwlad Gwlad! (Murlun graffiti)
Mae’r anthem hefyd wedi ysbrydoli gwaith gweledol.
Mae’r artist graffiti Tee 2 Sugars, sydd eisoes wedi gwneud enw iddo’i hun gyda’i furlun cofeb rhyfel yn Abertyleri, wedi’i gomisiynu i greu murlun newydd ar wal hen gartref Evan a James James ym Mhontypridd.
Disgyblion o Ysgol Evan James sydd wedi ysbrydoli'r murlun newydd ac mae cod QR yn galluogi ymwelwyr i wrando ar sain atmosfferig wrth edrych arno, sy'n cynnwys lleisiau a cherddoriaeth sydd wedi’u hysbrydoli gan yr anthem.
Mae’n cael ei ddadorchuddio ddydd Sadwrn 3ydd Awst ar Stryd Y Felin ym Mhontypridd.
Gwlad Gwlad! (Cyngerdd cerdd)
Yn cloi rhaglen y pafiliwn ar nos Sadwrn ola’r Eisteddfod mae perfformiad cyntaf o Gwlad Gwlad! sef gwaith cerddorol newydd gan Eilir Owen Griffiths.
Mae’r darn yn gyfeiliant i gerddi newydd gan feirdd lleol - Aneirin Karadog, Delwyn Siôn, Christine James a Mari George - oll wedi eu hysbrydoli gan yr anthem genedlaethol.
Esboniodd Eilir wrth Cymru Fyw am y broses o gydweithio gyda’r beirdd:
"Dyma wnes i roi i’r beirdd: ‘gallwch chi gymryd unrhyw beth allan o’r anthem, gair, brawddeg a wedyn gallwch chi redeg gyda’r syniade yna'. O'n i isho bod nhw’n cael bod mor greadigol ag o'n nhw isho bod.
"Wedyn mynd ati i sgwennu cerddoriaeth oedd yn seiliedig ar y geirie ac wrth gwrs hefyd o'n i isho sgwennu cerddoriaeth o'dd yn cael ei ysbrydoli gan themâu cerddorol yr anthem.
"Dydw i ddim wedi mentro gwneud trefniannau neu addasiadau o Hen Wlad Fy Nhadau, ond defnyddio’r anthem fel catalydd a dwi 'di cymryd fy ysbrydoliaeth i wedyn gan y beirdd, a hwnna sy’n gyffrous i fi."
Er nad ydi Eilir wedi ymyrryd â’r anthem, fel mewn llawer o gyngherddau eraill yng Nghymru, bydd yr anthem yn cael ei chanu yn ystod y noson.
Pam felly mae Eilir yn teimlo ei bod hi mor bwysig i ni fel cenedl ar ôl yr holl flynyddoedd?
"Mae’n gafael, 'da ni’n teimlo rhywbeth pan 'da ni’n ei chanu hi, ac ma' hynna’n dod o'r cyfuniad: y cyfuniad perffaith o’r geirie yn gorwedd â’r gerddoriaeth a phan mae hynna’n digwydd mae’n gwneud ti deimlo rywbeth."
Bydd Gwlad Gwlad! yn cael ei pherfformio yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod nos Sadwrn 10fed Awst am 7pm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf