Merch wedi'i hachub o gerrig ar draeth yng Ngwynedd

Cafodd y ferch ei hachub dair awr ar ôl iddi fynd yn sownd yn y cerrig
- Cyhoeddwyd
Cafodd merch ei hachub ar ôl bod yn sownd am dair awr mewn cerrig mawr ar draeth yng Ngwynedd ddydd Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys a gwylwyr y glannau eu galw i draeth Tywyn tua 15:15.
Cafodd y ferch ei hachub gan y gwasanaethau erbyn 18:10.
Roedd y ferch wedi mynd yn sownd wrth chwarae ar y creigiau wrth i'r llanw ddod mewn.
Mae gwylwyr y glannau wedi annog pobl i fod yn ofalus wrth ddringo'r creigiau.