Tata Port Talbot: Aelodau undeb Unite am fynd ar streic

Safle gwaith dur Tata ym Mhort TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gallai hanner y swyddi ar safle Tata ym Mhort Talbot ddiflannu dan gynlluniau'r cwmni

  • Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr dur o undeb Unite wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol yn sgil cynlluniau ailstrwythuro cwmni Tata.

Yn ôl yr undeb, mae'r "bleidlais hanesyddol" yn golygu y bydd streic yng ngwaith dur Port Talbot am y tro cyntaf mewn 40 o flynyddoedd.

Dywedodd Unite bod tua 1,500 o'u haelodau wedi pleidleisio dros weithredu yn erbyn cynlluniau, allai olygu colli bron i hanner gweithlu Port Talbot.

Bydd bron i 3,000 o swyddi'n mynd drwy'r DU dan gynlluniau'r cwmni.

Yn ôl cwmni dur Tata, maen nhw yn y broses o ymgynghori gyda staff a’r undebau ac wedi cyflwyno pecyn cymorth “cynhwysfawr” i’r staff fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.

“Rydym yn naturiol yn siomedig, wrth i’r ymgynghoriad barhau, bod aelodau o undeb Unite ym Mhort Talbot a Llanwern wedi nodi y bydden nhw’n fodlon gweithredu’n ddiwydiannol," ychwanegodd llefarydd.

“Rydym wedi ysgrifennu at undeb Unite ddwywaith yn ystod y broses bleidleisio i roi gwybod am anghysondebau difrifol yn y broses bleidleisio maen nhw wedi ei chymryd.”

'Heb streicio fel hyn ers yr 80au'

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, Sharon Graham: "Mae hon yn bleidlais hanesyddol.

"Dydy gweithwyr dur heb bleidleisio i streicio fel hyn ers yr 1980au."

Ychwanegodd bod y pleidleisio dros weithredu wedi digwydd "er gwaetha' bygythiadau gan Tata y byddai pecynnau diswyddo gwell yn cael eu tynnu'n ôl pe bai streicio".

Yn ôl yr undeb, byddan nhw'n cyhoeddi dyddiadau'r streicio cyn hir.

Pan ofynnwyd iddo am y ffaith fod Tata yn cwestiynu’r broses bleidleisio, dywedodd Peter Hughes o Unite: “Mae ein haelodau wedi rhoi neges yn glir iawn i Tata.

"Ni fyddant yn cael eu blacmelio, ni fyddant yn cael eu bwlio. Byddwn yn ymladd ac yn ennill y frwydr yma.

"Mae gan ddur yn y DU ddyfodol gwych. Mae’n drueni na all Tata weld hynny.”

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r undebau wedi bod yn protestio ers i'r ailstrwythuro gael ei gyhoeddi fis Ionawr

Mae Tata eisiau cael gwared â’r ffwrneisi chwyth safle Port Talbot, gan droi at ddulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu.

Yn y cyfamser, mae pleidlais wedi agor i aelodau undeb Community, fydd yn penderfynu a fyddan nhw'n gweithredu’n ddiwydiannol ai peidio.

Bydd gan yr aelodau tan 9 Mai i fwrw’u pleidlais.

Cynlluniau 'anymarferol' ac 'annerbyniol'

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Community, Roy Rickhuss, bod cynllun Tata yn “anymarferol” ac yn “annerbyniol”.

Galwodd ar yr aelodau i bleidleisio dros weithredu, er yn cydnabod ei fod yn gam sy’n cael ei gymryd pan fydd popeth arall yn methu.

“Mae’n aelodau’n gwybod nawr bod angen brwydro i achub ein diwydiant, ac mae’n rhaid [defnyddio] pob arf sydd gennym i roi pwysau ar Tata i newid cyfeiriad,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 4,000 o bobl yn gweithio i Tata ym Mhort Talbot

Mae cwmni dur Tata yn cyflogi 8,000 o bobl yn y DU - tua 4,000 o'r rheiny ym Mhort Talbot.

Dywedodd llefarydd bod y busnes ar hyn o bryd yn “anghynaladwy” a'u bod yn gwneud colledion o dros £1m y dydd.

“Drwy ailstrwythuro’n gwaith yn y DU byddwn yn gallu cynnal y busnes wrth i ni droi tuag at dechnoleg ffwrnais drydan newydd.”

Ar ôl cau’r ffwrneisi chwyth yn ddiweddarach eleni, mae’r cwmni o India yn bwriadu gwario £1.25bn ar ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot.

Mae Llywodraeth y DU yn cyfrannu £500m tuag at gost y cynllun.

Gwrthod cynllun undebau

Roedd yr undebau wedi creu cynllun arall oedd yn lleihau nifer y swyddi fyddai'n cael eu colli, drwy gadw o leiaf un ffwrnais chwyth tan fod y ffwrnais drydan yn barod.

Ond cafodd y syniad ei wrthod gan gwmni dur Tata. Roedden nhw’n bryderus am ddiogelwch adeiladu ffwrnais newydd ger llinell gynhyrchu dur poeth.

Mae cymorth ar gael i’r staff allai golli eu swyddi, gan gynnwys cronfa £100m i helpu gweithwyr i wella sgiliau a dod o hyd i waith.

Cyfrannodd Llywodraeth y DU £80m ar gyfer y gronfa, a chwmni dur Tata £20m.

Pynciau cysylltiedig