Llwybr arfordir: 'Angen gwella cysylltiadau teithio'
- Cyhoeddwyd
Wrth i Lwybr Arfordir Ceredigion nodi 15 mlynedd ers ei agor, mae cerddwyr yn dweud bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn annog mwy o ddefnydd.
Yn 60 milltir o hyd, mae’r llwybr yn dechrau ger y ffin â Machynlleth ac yn diweddu yng Ngwbert.
Fe agorodd wedi llwyddiant llwybr tebyg yn Sir Benfro, gyda gweddill Cymru’n dilyn yn fuan wedyn, gan olygu mai dyma’r lle cyntaf yn y byd i gael llwybr sy’n gorchuddio arfordir gwlad gyfan.
Ond mae rhai’n dweud bod angen gwella cysylltiadau gyda’r llwybr er mwyn denu ymwelwyr.
Yn ôl Cyngor Ceredigion mae annog mwy i ddefnyddio’r llwybr yn “llinell denau”.
Mae'r llwybr yng Ngheredigion yn cael ei ystyried yn un tawelach na'r un yn Sir Benfro.
Mae Dwynwen Belsey, sy’n aelod o grŵp cerdded Aberystwyth, yn dweud bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.
“Dydy’r gwasanaeth cludiant cyhoeddus ddim mor dda a beth ddylse fe fod, yn enwedig yn ne’r sir”, meddai.
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022
“O Geinewydd lawr at Aberteifi, ar hyn o bryd dydy [bws] Cardi Bach ddim yn rhedeg, sy’n golygu mai dim ond gyda car mae rhywun yn gallu mynd lawr at llwybr yr arfordir. Mae hynny yn 25 o filltiroedd, tipyn o stretch, heb wasanaeth bws.
“Mae’r gwasanaeth fan hyn yn y Borth wedi ei gwtogi o bob awr i bob dwy awr a does dim gwasanaeth o gwbl ar ddydd Sul – sef diwrnod poblogaidd iawn i bobl fynd allan i gerdded.
“Mae’r rhain yn faterion sy’n effeithio ar nifer y bobl sy’n defnyddio’r llwybr.”
'Pobl leol ddim yn ymwybodol'
Yn ôl adolygiad diweddar o Lwybr yr Arfordir gan Lywodraeth Cymru, fe ddylai creu llwybrau cylchol gael ei ystyried yn flaenoriaeth strategol, ac mae Cyngor Ceredigion wedi trefnu cyfres o deithiau i nodi'r pen-blwydd arbennig.
Yr wythnos diwethaf, fe gerddodd Eilir Evans Lwybr Arfordir Ceredigion mewn 17 awr. Mae'n dweud bod angen gwneud mwy i annog pobl leol i ddefnyddio'r adnodd.
“Ar fy nhaith yr wythnos diwethaf dim ond twristiaid welais i ar hyd y ffordd.
“Mae’n apelio’n aruthrol at dwristiaid ac mae’n rhan enfawr o’r hyn sy’n eu denu nhw yma, ond yn anffodus dydy’r adnodd ddim yn cael ei ddefnyddio digon gan bobl leol.
“Dydy bobl ddim yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael ar ein stepen drws.”
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu tua £1.4m tuag at y llwybr yng Nghymru bob blwyddyn, sy’n talu am gynnal a chadw, datblygu a marchnata'r llwybr.
Mae rhywfaint o arian hefyd ar gael trwy Gyfoeth Naturiol Cymru os caiff y llwybr ei ddifrodi yn dilyn tywydd garw.
Yng Ngheredigion, mae’r llwybr yn ymlwybro’i ffordd trwy draethau ysblennydd, clogwyni, yn ogystal â threfi prysur a phentrefi glan môr.
Mae’r awdur Gerald Morgan wedi ysgrifennu llyfr am lwybr yr arfordir yng Ngheredigion ac yn dweud ei bod yn “anodd” dweud beth yw rhai o uchafbwyntiau’r llwybr gan nad yw eisiau “datgelu ei gyfrinachoedd”.
Ond dywedodd Mr Morgan: “Mae’r llwybr rhwng Aberteifi ac Aberporth yn un hawdd iawn i’w gerdded ac yn ddeniadol iawn yn y gwanwyn.
“Mae’r blodau yn wych mewn sawl man. Mae ‘na flodau gwyllt hyfryd i’r de o Aberporth.
“Yn nes at y gogledd wedyn mae modd gweld y Fran Goes Goch ar y clogwyni. Hanner ffordd i lawr wedyn, mae’r clogwyni i’r de o Geinewydd yn fendigedig yn y Gwanwyn gan fod adar y mor yno yn nythu.”
'Atyniad mwyaf Ceredigion'
Fe gymerodd bum mlynedd o drafodaethau rhwng y cyngor, tirfeddianwyr a ffermwyr cyn gallu adeiladu'r llwybr, gyda 90% yn cytuno i adeiladu’r llwybr yn y pen draw.
Eifion Jones yw Swyddog Llwybrau Cyhoeddus Cyngor Ceredigion, ac maen dweud fod llwybr yr arfordir yn “adnodd amhrisiadwy” ac yn un o’r atyniadau mawr.
“Mae’r teithiau cerdded cylchol yma, i ffwrdd o’r prif lwybr ei hun, wedi cael eu creu i ddangos beth sydd ar gael.
“Rydyn ni’n gwybod, trwy’r cownteri sydd gyda ni ar hyd y llwybr ei fod yn denu cannoedd o filoedd o gerddwyr bob blwyddyn, ond mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng annog mwy o ddefnydd oherwydd mae angen iddo fod yn gynaliadwy.
“Bydde ni wastad isie mwy o arian, mae’r ased sydd gyda ni fan hyn gyda’r atyniad mwyaf sydd gyda ni yng Ngheredigion ac alle ni wastad ‘neud gyda mwy o adnoddau i edrych ar ôl pethau.
“Ni’n gwybod realiti y peth hefyd bod cyllid yn brin.
“Mae twristiaeth i Geredigion gwerth tua £300m y flwyddyn. Am bob £1 sy’n cael ei wario ganddyn ni ar wella llwybrau cyhoeddus a mynediad yn gyffredinol, mae gwerth tua £10 yn ôl i’r economi leol.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022