Dathlu degawd ers creu Llwybr Arfordir Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r gwleidyddion fu'n gyfrifol am sefydlu Llwybr Arfordir Cymru wedi dweud na fyddai'r cynllun wedi cael ei wireddu oni bai am ddatganoli.
10 mlynedd ers creu'r llwybr, mae Jane Davidson wedi disgrifio'r prosiect fel un "mawr cenedlaethol" a'r her o'i greu fel un "anferth".
Yn ôl yr Athro Emeritws Jane Davidson, a fu'n Weinidog Amgylchedd a Chynaliadwyedd rhwng 2007 a 2011, fe gymerodd hi chwe blynedd i gael y caniatâd perthnasol i greu'r llwybr.
Roedd yn cynnwys cydweithio rhwng 19 o awdurdodau lleol i greu'r llwybr, ynghyd â dau o'r parciau cenedlaethol a chyrff cyhoeddus eraill.
Mae hi'n pwysleisio hefyd bod yna gefnogaeth drawsbleidiol i'r cynllun.
"Roedd miloedd o wirfoddolwyr yn gweithio ar y prosiect. Roedd e'n brosiect cenedlaethol i Gymru," meddai.
"Roedd Cymru i gyd yn cydweithio ar y prosiect, ac roedd yr amser i wneud y prosiect yn fyr iawn hefyd. Roedd ambition i gwblhau'r cyfan erbyn yr Olympics."
Yn ôl yr Athro Davidson, mae hi'n annhebygol iawn y byddai'r llwybr cenedlaethol wedi cael ei wireddu heb lywodraeth yng Nghaerdydd.
"Dwi ddim yn credu fod prosiect fel hyn yn gallu digwydd heb ddatganoli. Pwy fyddai wedi gwneud llwybr yr arfordir i Gymru yn priority?" meddai.
"Heb ddatganoli, roedd e'n amhosib i bobl yng Nghymru sylweddoli bod cyfle mawr ar y doorstep. Dyna pam mae pobl o Gymru yn cefnogi'r prosiect gan fod llawer o bobl leol yn cydweithio.
"Y blaenoriaethau Cymreig yw'r rheswm fod hyn wedi dechrau."
Hwb i'r economi
Mae'r llwybr ar hyd arfordir Cymru yn ymestyn am bellter o 870 o filltiroedd.
Mae rhyw £1m yn cael ei wario ar y llwybr yn flynyddol o ran costau cynnal a chadw a hyrwyddo'r llwybr i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol.
Nododd adroddiad gan gwmni Beaufort ac Ysgol Fusnes Caerdydd yn 2016 bod Llwybr Arfordir Cymru wedi rhoi hwb o £84m i economi Cymru yn 2014 ac wedi cefnogi 1,000 o swyddi.
Dangosodd arolwg rhwng 2019-22 bod 62% o'r bobl a holwyd, oedd yn defnyddio'r llwybr, yn dod o Gymru.
Roedd 66% yn nodi mai'r golygfeydd oedd yn eu denu i'r llwybr, gydag iechyd a hamdden yn ail (56%).
Yn ôl Nia Rhys Jones, cyd-gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn, mae'r llwybr yn "elfen unigryw o'r cynnig i ymwelwyr sydd yn dod i'r wlad".
Mae hi'n dweud bod y llwybr o gwmpas Ynys Môn nid yn unig yn "boblogaidd gydag ymwelwyr ond hefyd preswylwyr".
Nid pawb sydd o blaid
Ond nid pawb sydd yn cefnogi'r cynllun i gael cerddwyr ar eu tir.
Fe geisiodd Lyn Jenkins o Barc Fferm Ynys Aberteifi atal y cynllun trwy ddulliau cyfreithiol, ond mae'r llwybr yn croesi rhan o'i dir ar gyrion Gwbert yng Ngheredigion, er ei fod yn codi tâl mynediad i Barc Fferm Ynys Aberteifi.
"Fe ddaethon nhw â'r llwybr trwy ganol Parc Fferm Ynys Aberteifi pan gallen nhw fod wedi mynd rownd yr hewl, o ryw hanner milltir, a ddim dod mewn o gwbl," meddai.
"Ni wedi gwario cannoedd o filoedd o bunnau i sefydlu'r busnes.
"Mae'r cyngor yn gadael pobl mewn pen pellaf sydd ddim wedi ffensio a dim yswiriant na toilets. Maen nhw'n gadael nhw mewn gyda chŵn."
Elwa busnesau lleol
Un busnes sydd yn elwa o'r cerddwyr ar lwybr yr arfordir ydy Gwesty Glanfa Teifi ger traeth Poppit yn Llandudoch.
Ar hyn o bryd mae miliynau o bunnau yn cael eu gwario ar y gwesty i ehangu'r llety sydd ar gael. Fe fydd y nifer o ystafelloedd gwely yn cynyddu o 14 i 30 yn y pendraw.
"Yn yr haf ni'n gweld sawl un yn cerdded lan o'r traeth mewn parau a grwpiau mawr o 30 neu 40 yn dod mewn i gael rhywbeth i yfed neu i fwyta," meddai Llyr Evans, rheolwr a chyfarwyddwr y busnes.
"Mae'r llwybr yn rhywbeth sydd yn tynnu pobl draw atom ni."
Mae'n dweud fod y penderfyniad i ehangu'r gwesty yn ymwneud yn rhannol gyda'r disgwyliad y bydd mwy o bobl yn defnyddio'r llwybr yn y dyfodol.
Mae bwyty a chegin eisoes wedi'u cwblhau, gyda mwy o ystafelloedd gwely ar eu ffordd.
"Mae'n rhywbeth ni wedi edrych arno fel cwmni yn y blynyddoedd i ddod," ychwanegodd Mr Evans.
"Dyna pam ni'n hala arian ar y gwesty fel ni'n gwneud nawr."
Er buddiant elusennau
Mae eraill wedi defnyddio Llwybr Arfordir Cymru fel ffordd o godi arian.
Fe gerddodd y ffisiotherapydd Catrin Davies o Gaerfyrddin yr 870 o filltiroedd y llynedd, er mwyn codi £6,000 i elusen ym Mecsico.
"Roeddwn i allan ym Mecsico, yn gwirfoddoli i elusen Therapies Unite ym mis Mawrth 2020, ac roedd rhaid mynd adref oherwydd y pandemig," meddai
Dywedodd ei bod hi yn teimlo euogrwydd am nad oedd hi yn gallu gwirfoddoli, ac felly fe benderfynodd gerdded Llwybr Arfordir Cymru fel ffordd o godi arian.
"Ro'n i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, ac roeddwn i yn meddwl bydde fe'n rhoi teimlad o ryddid ar ôl y cyfnod clo.
"Dwi wedi gweld pob traeth yng Nghymru ac mae hynny wedi rhoi lot o falchder i fi! Doedd e ddim yn rhwydd.
"Roedd rhannau o'r llwybr yng Ngheredigion lan a lawr, ac roeddwn i yn cario pac 15 cilogram ar y fy nghefn. Roedd e'n sialens ond ro'n i yn teimlo mor falch fy mod i wedi ei gwblhau fe."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Mai 2017