Pennal: Seren Hollywood yn helpu ailagor tafarn gymunedol

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 3, Matthew Rhys, Dywedodd Matthew Rhys ei fod yn cofio ymweld â'r pentref pan oedd yn blentyn
  • Cyhoeddwyd

Mae'r seren Hollywood Matthew Rhys yn dweud ei fod wedi "neidio ar y cyfle" i helpu achub tafarn ym Mhennal, Gwynedd.

Roedd yr actor yng nghanol dathliadau ailagor tafarn Glan yr Afon ddydd Sadwrn wedi ymgyrch gymunedol i'w phrynu.

Cafodd Matthew Rhys ei eni yng Nghaerdydd, ond gyda'i dad yn hanu o'r ardal yn wreiddiol, mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf gyda'r pentref.

Mae’n cofio treulio’r haf a Phasg yn yr ardal ac mae'r dafarn yn agos at ei galon.

Mi fu’n rhan allweddol o’r ymgyrch i achub y dafarn, gan helpu’r pwyllgor lleol i godi arian drwy gyfranddaliadau.

Ar ôl codi dros £400,000, y gymuned leol bellach yw perchnogion newydd tafarn Glan yr Afon.

'Achlysur anhygoel'

Disgrifiad,

Matthew Rhys: "Mae'n achlysur anhygoel"

Mae’r actor enwog, ynghyd ag aelodau Menter y Glan, yn gobeithio y bydd yr adeilad yn troi yn hwb cymunedol, yn ogystal â thafarn.

Dywedodd Rhys: "Mae'n achlysur anhygoel achos mae gennai atgofion melys o fod yma'n fachgen bach.

"Blwyddyn yn ôl odd bygythiad iawn ar y lle, nid ond ar yr adeilad ond i'r gymuned, ac i fod yn hollol onest o'n i yn poeni achos odd yr arian odd angen i nhw godi yn aruthrol.

"Felly mae'n wyrth be ma' nhw wedi cyflawni, ac i'r cenedlaethau i ddod a fel bydd e'n gwasanaethu'r gymuned mae'n anhygoel.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meirion Hughes bydd y dafarn yn ail-fuddsoddi unrhyw elw yn y gymuned

Roedd yna bryder y llynedd y byddai'r dafarn yn cau am byth ar ôl i'r cyn-berchnogion fethu â dod o hyd i brynwr.

Dywedodd Meirion Hughes, cadeirydd y pwyllgor tu ôl i'r ymgyrch fod 79% o'r arian a godwyd wedi dod wrth bobl tu allan i'r ardal.

"Dyna lle mae Matthew Rhys wedi helpu ni, i rannu'r stori ar draws y byd" meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r arian da ni'n neud yn mynd nôl i'r gymuned... Os da ni'n neud profit byddwn ni'n neud yn siŵr bod e'n mynd yn ôl mewn i bethau eraill sy'n digwydd yn y gymuned.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laura Griffiths ei bod yn mwynhau gweithio yn y dafarn a'i fod yn bwysig i'r gymuned leol

Yn y dyfodol mae Menter y Glan yn gobeithio gallu agor siop a chaffi ar y safle hefyd.

Dywedodd Laura Griffiths sy'n gweithio yn y dafarn: "Ma'n lyfli gweithio yma, ma'r pobl sy'n byw ym Mhennal yn fendigedig, ma' pawb yn welcoming, ac mae'n lyfli dod i gwaith a chreu rhywbeth sy'n mynd i helpu pobl ym Mhennal."

Pynciau cysylltiedig