Cannoedd mewn gwasanaeth er cof am y pêl-droediwr Joey Jones

Arch Joey Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth cyhoeddus ei gynnal yn y Cae Ras yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi mynychu gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu bywyd cyn-amddiffynnwr Cymru, Lerpwl a Wrecsam, Joey Jones.

Cafodd ei eni yn Llandudno ar 4 Mawrth 1955, a bu farw yn 70 oed ym mis Gorffennaf eleni.

Fe enillodd 72 o gapiau dros ei wlad gan sgorio un gôl, ac mae'n cael ei ystyried fel un o'r cefnwyr chwith gorau yn hanes y gêm yng Nghymru.

Cafodd y gwasanaeth cyhoeddus ei gynnal yn y Cae Ras yn Wrecsam ddydd Mercher, lle y treuliodd dri chyfnod fel chwaraewr.

Bu'n chwarae i Lerpwl, Chelsea a Huddersfield Town hefyd.

Darllenodd ei ffrind agos, y cyn-bêl-droediwr Mickey Thomas, deyrnged iddo - gan ddisgrifio Jones fel "person anhygoel".

"Ni fydd byth yn marw yn fy llygaid i," meddai.

Mickey Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mickey Thomas yn ei deyrnged ei fod wedi bod yn ffrindiau gyda Joey Jones ers 56 mlynedd

Cafodd arch Joey Jones ei chario i'r stadiwm am 12:30 ddydd Mercher gydag Ian Rush, cyn-ymosodwr Cymru, yn un o'r rhai oedd yn gwneud hynny.

Cafodd y gân 'Wrexham is the Name' ei chwarae ar ddechrau'r gwasanaeth, ac fe ganodd y dorf o deulu, ffrindiau a chefnogwyr yr anthem genedlaethol.

Clywodd y gwasanaeth fod gan Jones ddau gariad mawr – pêl-droed a'i deulu - a bod "teulu'n golygu popeth iddo".

Dywedodd Mickey Thomas yn ei deyrnged ei fod wedi bod yn ffrindiau gyda Jones ers 56 mlynedd.

Esboniodd bod Joey Jones wedi chwarae gyda mawrion y gamp, ond eu bod hwythau yn "lwcus o fod wedi cael chwarae efo fo".

Y dorf yn y gwasanaeth
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y gwesteion roedd y cyn-bêl-droedwyr Kenny Dalglish, Ian Rush, Brian Flynn, Kevin Ratcliffe, Barry Horne ac Andy Morrell

Er iddo chwarae i glybiau fel Lerpwl a Chelsea, dywedodd Thomas mai Wrecsam oedd cartref Jones, gan ddweud ei fod yn "mynd i gael cerflun - rhywbeth y mae'n ei haeddu'n fawr".

Cafodd y gân 'Oh Joey Joey' gan y band lleol, The Declan Swans, ei chwarae i'r dorf hefyd.

Cafwyd munud o gymeradwyaeth a daeth y gwasanaeth i ben gydag arch Jones yn cael ei chario allan i 'You'll Never Walk Alone', gan Gerry and the Pacemakers.

Banner: 'Oh Joey Joey! Mr Wrexham'

Ymhlith y gwesteion roedd y cyn-bêl-droedwyr Kenny Dalglish, Ian Rush, Brian Flynn, Kevin Ratcliffe, Barry Horne ac Andy Morrell.

Cafodd Jones gyfnod disglair o dair blynedd gyda Lerpwl yn yr 1970au - gan ennill yr Adran Gyntaf, Cwpan Ewrop ddwywaith, Cwpan UEFA a Super Cup Ewrop.

Ef oedd y Cymro cyntaf i godi Cwpan Ewrop.

Fe wnaeth Jones ymddeol o bêl-droed ym 1992 yn 37 oed, ar ôl ei drydydd cyfnod gyda Wrecsam.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.