Teyrngedau i gyn-seren Wrecsam a Lerpwl, Joey Jones

Joey JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Joey Jones 72 o weithiau i Gymru rhwng 1975 a 1986

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-amddiffynnwr Wrecsam, Lerpwl a Chymru, Joey Jones wedi marw yn 70 oed.

Fe enillodd 72 o gapiau dros ei wlad gan sgorio un gôl, ac mae'n cael ei ystyried fel un o'r cefnwyr chwith gorau yn hanes y gêm yng Nghymru.

Jones oedd y Cymro cyntaf i chwarae mewn tîm enillodd Gwpan Ewrop - Cynghrair y Pencampwyr heddiw - a hynny i Lerpwl wrth iddyn nhw guro Borussia Mönchengladbach yn y rownd derfynol yn 1977.

Joey Jones yn chwarae i LerpwlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Jones dair blynedd lwyddiannus iawn gyda Lerpwl yn y 1970au

Wedi ei fagu yn Llandudno, fe ddechreuodd Jones ei yrfa broffesiynol gyda Wrecsam - gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 17 oed.

Fe enillodd Gwpan Cymru gyda'r Dreigiau yn 1975, ac roedd yn rhan o'r tîm gyrhaeddodd rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr yn 1974 - a hynny am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Cafodd ei arwyddo gan Lerpwl yn 1975-76 am ffi o £110,000.

Erbyn y tymor canlynol roedd wedi sefydlu ei hun fel rhan bwysig o'r tîm ddaeth yn agos at ennill trebl yn 1977.

Enillodd Jones yr Adran Gyntaf a Chwpan Ewrop yn 1977, ac aeth Lerpwl ymlaen i gadw eu gafael ar Gwpan Ewrop yn 1978 hefyd ar ôl trechu Club Brugge o Wlad Belg yn y rownd derfynol.

Joey Jones yn dathlu gyda chwaraewyr LerpwlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joey Jones oedd y Cymro cyntaf i chwarae mewn tîm enillodd Gwpan Ewrop

Dychwelyd i Wrecsam wnaeth Jones wedi tri thymor ar Lannau Mersi, ac fe orffennodd ei yrfa ar y Cae Ras hefyd yn dilyn cyfnodau gyda Chelsea a Huddersfield Town yng nghanol yr 80au.

Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn 1975 mewn gêm yn erbyn Awstria, a'r olaf - rhif 72 - mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Canada yn 1986.

Fe wnaeth ymddeol o'r gamp yn 1992 yn 37 oed.

Aeth ymlaen i hyfforddi gyda thimau ieuenctid ac ail dîm Wrecsam, cyn cael ei benodi yn rheolwr dros dro ar y clwb am gyfnod yn 2001.

Joey Jones (chwith, ail res) yn dathlu ar ôl i Wrecsam drechu Arsenal yng Nghwpan FA LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joey Jones (chwith, ail res) ar y fainc yn ystod buddugoliaeth hanesyddol Wrecsam yn erbyn Arsenal yn 1992

Dywedodd Clwb Pêl-droed Wrecsam mewn datganiad eu bod wedi "digalonni'n llwyr" ar ôl clywed am y farwolaeth.

Mae'r clwb wedi cyhoeddi cynlluniau i gomisiynu cerflun o Jones i'w osod ar y sgwâr y tu allan i stadiwm y Cae Ras er cof amdano.

Dywedodd Mickey Thomas, hen ffrind a hefyd cyn-chwaraewr i dimau Cymru, Wrecsam a Chelsea, mewn teyrnged: "Rwyf wedi colli fy ffrind gorau ac fy enaid hoff cytûn, Syr Joey, bydd ein hatgofion yn parhau am byth.

"Mae fy nghalon i'n torri heddiw. Caru chdi Syr Joey, cysga'n dawel. Rwy'n cydymdeimlo â Janice a gweddill y teulu."

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Noel Mooney ei bod hi'n "ddrwg iawn gan bawb sy'n rhan o bêl-droed Cymru i glywed y newyddion am Joey Jones", gan ychwanegu: "Cwsg mewn hedd Joey."