'Modd osgoi' marwolaethau pedwar dyn ifanc yng Ngwynedd - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod pedwar dyn ifanc o Sir Amwythig wedi boddi mewn cerbyd a oedd wedi troi drosodd tra roedden nhw ar wyliau yng ngogledd Cymru.
Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Hugo Morris, 18, a Wilf Fitchett, 17 ger pentref Garreg - rhwng Penrhyndeudraeth a Beddgelert - ar 21 Tachwedd 2023.
Ar ôl gadael y ffordd roedd y cerbyd wedi troi ar ei do mewn ffos a oedd llawn dŵr, gan adael y pedwar yn sownd yn y car Ford Fiesta.
Daeth y crwner Kate Robertson i'r casgliad fod y pedwar wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.
Fe ddywedodd hefyd y bydd marwolaethau yn parhau i ddigwydd "pan fo gyrwyr newydd, ifanc yn cael caniatâd i gario teithwyr".
Ychwanegodd y bydd hi'n ysgrifennu at yr Adran Trafnidiaeth a'r DVLA i godi pryderon am bobl ifanc yn cario teithwyr yn syth ar ôl pasio eu prawf gyrru.
Dim digon o rybudd o'r troad
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon gan ymchwilwyr gwrthdrawiadau ei bod yn debyg fod Hugo Morris - a oedd yn gyrru'r cerbyd ar y pryd - wedi mynd i'r gornel yn gyrru’n gyflymach na’r hyn oedd yn ddiogel.
Roedden nhw o'r farn fod y gwrthdrawiad yn un "allai fod wedi ei osgoi".
Ond dywedodd y crwner nad oedd arwyddion digonol ar y ffordd i rybuddio am y troad.
Clywodd y gwrandawiad fod rhagor o arwyddion wedi'u gosod ers y digwyddiad.
Ond mae ffens a gafodd ei ddifrodi mewn gwrthdrawiad blaenorol sy'n dal heb gael ei ailosod ger y safle, a hynny am ei fod ar dir sydd ddim yn berchen i'r cyngor.
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
Ar 19 Tachwedd 2023 roedd y pedwar o Sir Amwythig wedi bod yn ymweld ag Eryri, gyda'r bwriad o dreulio’r noson yn gwersylla.
Ond yn dilyn y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd am tua 11:43 yn ôl data ar ffôn symudol Hugo, nid oedd modd gweld y car yn y ffos o'r ffordd fawr.
Clywodd y cwest bod gweithwyr o adran ailgylchu Cyngor Gwynedd wedi gweld y cerbyd yn y ffos tra'n teithio gerllaw deuddydd yn ddiweddarach.
Roedd archwiliadau post-mortem wedi datgelu nad oedd gan yr un o'r dynion ifanc unrhyw anafiadau mewnol nac allanol, a bod y pedwar wedi marw o ganlyniad i foddi.
Dywedodd Philip Jones, archwiliwr fforensig i Heddlu Gogledd Cymru, nad oedd methiannau mecanyddol gyda'r cerbyd ond fod y teiars ôl ond wedi eu chwyddo i hanner y pwysau y dylen nhw fod.
Clywodd y cwest hefyd gan Ian Thompson, ymchwilydd fforensig gwrthdrawiadau gyda Heddlu'r Gogledd, ei bod yn ymddangos fod y cerbyd wedi tan-gymryd (understeer) y gornel.
Roedd o'r farn fod y gyrrwr wedi cymryd y gornel honno ar gyflymder oedd yn "rhy gyflym".
Awgrymodd fod Hugo Morris - a oedd wedi pasio ei brawf gyrru chwe mis cyn y digwyddiad - yn teithio ar gyflymder o tua 38mya ar y pryd.
Er mai 60mya yw’r terfyn cyflymder, yn ei farn o, 26mya oedd y "cyflymder cyfforddus" i yrru'r gornel honno.
Doedd dim awgrym fod Mr Morris yn defnyddio ei ffôn symudol ar y pryd.
Ychwanegodd Mr Thompson, tra nad oedd unrhyw broblem amlwg gyda'r cerbyd - ac er bod dail ar y ffordd - fod gweithredoedd Hugo Morris yn "arwyddocaol" a bod y gwrthdrawiad yn un a "allai fod wedi ei osgoi".
Dywedodd swyddogion o Gyngor Gwynedd fod camau wedi eu cymryd ers y gwrthdrawiad i rybuddio gyrwyr am y gornel, ond gwrthodwyd awgrym fod y gornel yn un 90 gradd ac y dylai mesurau ychwanegol wedi bod mewn lle ynghynt.
Clywodd y cwest nad oedd yn cael ei ystyried gan swyddogion fel ffordd hynod beryglus cyn y digwyddiad.
Yn ôl Andrew Gregson, uwch beiriannydd traffig yr awdurdod, nid oedd y cyngor yn ymwybodol bod sawl gwrthdrawiad blaenorol wedi digwydd yn y cyffiniau, sef beth oedd cymdogion yn ei honni.
'Hunllef gwaethaf unrhyw riant'
Cafodd teyrngedau i'r pedwar bachgen eu darllen yn y cwest, gan gynnwys gan fam Harvey, Crystal Owen, a dywedodd “nad oedd geiriau i esbonio pa mor brydferth yr oedd o, na’r cariad annisgrifiadwy oedd gennym tuag ato”.
“Fis Tachwedd diwethaf, daeth hunllef gwaethaf unrhyw riant yn wir ac rydym bellach yn byw yn realiti gwaethaf unrhyw rieni.
“Nid yn unig y collon ni Harvey yn y ffordd fwyaf trasig, a’r sioc a'r trawma, rhaid i ni wynebu oes o alaru y bywyd y dylai fod yn ei fyw, yr amser y dylem ei gael gydag o a'r atgofion y dylem fod yn eu creu.
“Mae'r llawenydd wedi mynd o'n bywydau ac mae yna wagle na ellir byth ei lenwi.”
Cyfeiriodd mam Wilf Fitchett, Heather Sanderson, at ei mab a oedd yn caru’r awyr agored a gwyliau i Gymru.
“Roedd yn blentyn galluog a wnaeth yn dda yn ei arholiadau TGAU a oedd yn mwynhau astudio am ei Lefel A.
“Ro'n i mor falch ohono, roedd mor garedig â gyda synnwyr digrifwch hyfryd. Roedd ganddo lawer o ffrindiau a chariad hyfryd.”
Dywedodd fod ymchwiliad yr heddlu wedi bod yn un “trylwyr”, gan hefyd ddiolch i bobl gogledd Cymru am “agor eu calonnau i ni”.
“Rydym eisiau diolch i’r gwasanaethau brys, timau achub mynydd a staff Ysbyty Gwynedd am edrych ar ôl Wilf a’i ffrindiau tan oedd modd i’w teuluoedd fod gyda nhw.
“Hoffem ddiolch Heddlu Gogledd Cymru am eu proffesiynoldeb a thosturi - maen nhw wedi helpu ni i ymdopi.”
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023
Dywedodd mam Jevon, Melanie Hirst, ei fod yn "fab cariadus" a oedd "hapusaf pan oedd gartref gyda'i deulu".
"Roedd yn caru ymweld â'i daid yn Harlech."
Dywedodd rieni Hugo, Dominic a Sarah Morris: “Ni all unrhyw eiriau fynegi ein colled.
“Mae ein byd wedi chwalu... a byddwn i gyd yn methu gweld yr oll y byddai wedi mynd yn ei flaen i gyflawni."
Mae Crystal Owen, mam Harvey, yn ymgyrchu i newid y gyfraith ar gyfer gyrwyr ifanc.
Mae hi eisiau gweld "trwydded raddedig", fyddai'n golygu na fyddai modd i yrwyr dan 25 oed gario teithwyr yn syth ar ôl pasio eu prawf.
Wrth siarad y tu allan i lys y crwner, dywedodd: "Roedd fy mab yn gallu mynd yng nghefn car oedd yn cael ei yrru gan yrrwr ifanc, dibrofiad ar ffordd wledig anghyfarwydd.
"Cafodd ei fethu gan system trwydded yrru hen ffasiwn."