Sut mae siarad Cymraeg yn effeithio ar eich safbwyntiau gwleidyddol?

- Cyhoeddwyd
Wrth ddadansoddi gwleidyddiaeth unigolion mae sawl ffactor sydd angen ei ystyried. Oedran, rhyw, incwm, lefel o addysg, crefydd; maent i gyd yn elfennau pwysig sy'n gallu dylanwadu ar ddaliadau gwleidyddol person.
Rhywbeth arall sy'n gallu dylanwadu ar wleidyddiaeth rhywun yng Nghymru yw'r gallu i siarad Cymraeg neu beidio.
Mae Dr Jac Larner yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi ymchwilio i sut y mae gallu rhywun i siarad Cymraeg neu beidio'n gysylltiedig â'u daliadau gwleidyddol.
'Siaradwyr Cymraeg yn fwy asgell chwith'
Gyda Chymru'n dueddol o ffafrio pleidiau gwleidyddol o'r canol-chwith a'r chwith dros y ganrif diwethaf, mae Dr Larner yn dweud bod hyn yn arbennig o wir yng nghyd-destun Cymry Cymraeg.
"Mae gennym dros 30 mlynedd o dystiolaeth arolwg ar raddfa fawr sy'n dangos bod siaradwyr Cymraeg, ar gyfartaledd, yn fwy asgell chwith yn economaidd na'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg," meddai Dr Larner.
"Mae hyn yn wir os ydym yn mesur ideoleg yn ôl hunanleoli (bod nhw'n datgan ble maen nhw'n gweld eu hunain yn wleidyddol), neu drwy ddefnyddio cyfuniad o agweddau ar yr economi ac ailddosbarthu cyfoeth.
"Rydyn ni'n meddwl mai cymdeithasoli (socialisation) gwleidyddol cynnar, y broses o ddysgu gwerthoedd a normau gan eich teulu a'ch cyfoedion, yw'r esboniad am hyn."

Dywed Dr Larner fod daliadau asgell chwith yn aml yn cael ei basio lawr o genhedlaeth i genhedlaeth, a bod cael siaradwyr Cymraeg yn y teulu'n gallu dylanwadu rhywun i ddatblygu daliadau asgell chwith.
"Mae siaradwyr Cymraeg yn debygol iawn o uniaethu fel Cymry, ac mae hunaniaeth Gymreig yn cyd-fynd â bwndel o agweddau, gwerthoedd, straeon a chwedlau sy'n gwthio pobl i'r cyfeiriad yma.
"Allwn ddweud yn eitha' hyderus bod hyn yn cael ei basio i lawr drwy deuluoedd oherwydd mae gennym ni hyd yn oed dystiolaeth bod y rhai sydd ag o leiaf un nain neu taid sy'n siarad Cymraeg yn fwy asgell chwith ar gyfartaledd, hyd yn oed os nad yw'r person yn siarad Cymraeg ei hun.
"Wrth gwrs mae llawer o amrywiaeth gwleidyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg ac yn sicr nid iaith sy'n penderfynu eich gwleidyddiaeth, ond ar gyfartaledd, dyma'r prif batrymau."

Os oes aelod o'r teulu sy'n siarad Cymraeg mae'n cynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu daliadau asgell chwith, yn ôl Dr Jac Larner
Yn fwy rhyddfrydol wedi Brexit
Ydy siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn fwy rhyddfrydol na'r di-Gymraeg ar faterion cymdeithasol?
"Mae'n astudiaethau ni yn awgrymu bod hyn yn wir", dywed Dr Larner.
"Ond, mae tystiolaeth hefyd sy'n awgrymu bod siaradwyr Cymraeg wedi troi'n fwy rhyddfrydol ar faterion cymdeithasol ers y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.
"Eto, mae'n debyg bod hyn oherwydd bod pobl yn 'dysgu' neu'n addasu eu gwerthoedd yn sgil yr 'elites' gwleidyddol dros y cyfnod hwn."

Yn 2016, roedd bron i 30% o bobl Cymru'n disgrifio'u hunain fel 'Prydeinig a Chymreig' - bellach, 'Cymreig yn unig' yw'r grŵp mwyaf poblogaidd
Y cwestiwn o annibyniaeth
"O ran hunaniaeth genedlaethol, mae'r cysylltiad yn gryf iawn", meddai Dr Larner.
"Yn gyffredinol, mae Cymry Cymraeg yn teimlo llawer mwy Cymreig a llawer llai Prydeinig. Mae siaradwyr Cymraeg chwe gwaith mwy tebygol o gefnogi Plaid Cymru na Chymry ddi-Gymraeg."
Felly beth yw'r canran o Gymry-Cymraeg sydd eisiau annibyniaeth i Gymru o'i gymharu â phobl sydd ddim yn siarad yr iaith?
"Yn Astudiaeth Etholiad Cymru 2024, gan ddefnyddio cwestiwn ffurf refferendwm, byddai 56% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn pleidleisio dros annibyniaeth i Gymru o gymharu â 17% o'r di-Gymraeg."
Agwedd at y Frenhiniaeth
Ac yng nghyd-destun y frenhiniaeth dywed Dr Larner bod gwahaniaeth clir ym marn y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg.
"Yn Astudiaeth Etholiad Cymru 2021 gofynnwyd i ymatebwyr a fyddai'n well ganddynt barhau efo'r frenhiniaeth neu gael pennaeth i'r wladwriaeth sydd wedi ei ethol.
"Roedd 54% o siaradwyr Cymraeg yn cefnogi pennaeth gwladwriaeth etholedig, o gymharu â 30% o'r di-Gymraeg."
Felly, mae'n debyg wrth ystyried y ffactorau a all ddylanwadu ar ddaliadau gwleidyddol unigolyn, mae'r gallu i siarad Cymraeg yn elfen bendant i'w hystyried.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2024