Ydy pobl yn teimlo'n fwy Cymreig erbyn hyn oherwydd Brexit?
- Cyhoeddwyd
Dros wyth mlynedd ers refferendwm Brexit - a bron i bum mlynedd ers i ni adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol - mae sgil-effaith y penderfyniad yn dal i gael ei drafod.
Ac mae hyn yn cynnwys cwestiynau sylfaenol am bwy ydyn ni, gydag arolwg diweddar yn awgrymu bod mwy o bobl bellach yn ystyried eu hunain yn Gymreig yn unig.
Nid yn unig hynny, ond mae 'na bolareiddio amlwg wedi digwydd, gyda phobl sy'n teimlo'n Gymreig bellach yn fwy adain chwith - tra bod y rheiny sy'n fwy Prydeinig neu Seisnig wedi mynd i'r cyfeiriad arall.
Beth mae'r data yn ei ddangos felly, a pham bod hyn yn digwydd? BBC Cymru Fyw fu'n holi'r Athro Richard Wyn Jones am y canfyddiadau.
Y Brexit ffactor?
Ar ôl pob etholiad Cymreig ers 1999, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi bod yn casglu gwybodaeth drwy Astudiaeth Etholiad Cymru, sy'n egluro penderfyniadau pleidleisio pobl.
Drwy'r holiadur o 2,500 o bobl, mae modd adeiladu darlun soffistigedig o'r etholaeth Gymreig - gan gynnwys cwestiynau ynglŷn â'u hunaniaeth sydd wedi cael eu holi ers 1979.
Ond ers 2016 mae'n ymddangos bod newid sylweddol wedi digwydd.
"Mae hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru yn gymhleth iawn," meddai'r Athro Richard Wyn Jones.
"Ond beth sydd wedi digwydd ers Brexit ydy bod 'na symudiad eithaf trawiadol wedi bod.
"Mae hunaniaeth Gymreig yn cryfhau. Mae'n ymddangos mai rhan o hyn ydy effaith Brexit.
"Mae 'na garfan o'r rheiny gafodd eu siomi yn deud 'reit, os dwi'n gorfod dewis rhwng fy Ewropeaeth, fy Mhrydeindod, a fy Nghymreictod, dwi am ddewis 'Cymreig'."
Ychwanegodd fod yr un peth yn wir am bobl oedd yn arfer ystyried eu hunain yn Brydeinig a Saesnig, ond a bleidleisiodd hefyd i Aros.
"Ddaru nifer o'r rheiny stopio teimlo'n Saesnig," meddai.
"Felly mae'n ymddangos fod pleidlais Brexit wedi gwneud i lot o bobl gwestiynu eu hunaniaeth mewn ffyrdd eitha' sylfaenol, yn enwedig y bobl oedd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a gafodd eu siomi."
Yn 2016, 'Prydeinig a Chymreig' oedd y grŵp mwyaf poblogaidd pan oedd hi'n dod at sut oedd pobl Cymru'n diffinio eu hunain.
Ond erbyn 2024, mae 31% o bobl yn disgrifio'u hunain fel 'Cymreig yn unig', tra bod y grŵp 'Prydeinig a Chymreig' wedi gostwng i 22%.
Ai Brexit yw'r prif esboniad felly pam fod maint y grwpiau wedi newid?
"Y peth arall sy'n mynd ymlaen ydy oed," meddai'r Athro Jones.
"Mae pobl iau yn llai tebygol o fod yn Brydeinig eu hunaniaeth."
Polareiddio gwleidyddol 'wir wedi fy nharo'
Mae newid trawiadol arall wedi digwydd dros yr wyth mlynedd ddiwethaf hefyd.
Roedd arbenigwyr gwleidyddol eisoes wedi nodi bod rhywfaint o berthynas rhwng hunaniaeth genedlaethol a daliadau gwleidyddol pobl.
"Felly os ydach chi'n teimlo'n Gymreig, ond nid yn Brydeiniwr, 'dach chi'n tueddu i fod yn fwy adain chwith o ran gwerthoedd economaidd, ac yn fwy rhyddfrydol o ran gwerthoedd cymdeithasol, na phobl sy'n pwysleisio, er enghraifft, eu Prydeindod," meddai'r Athro Jones.
Beth sydd wedi digwydd ers 2016, fodd bynnag, yw bod y gwahaniaethau hyn wedi tyfu'n sylweddol.
Roedd yr holl grwpiau hunaniaeth genedlaethol yn arfer bod yn agosach at y tir canol gwleidyddol - ond fel y mae'r graff isod yn ei ddangos, mae sawl grŵp bellach wedi symud tipyn mwy i'r chwith neu'r dde.
"'Dan ni'n gweld polareiddio, ac mae'r pegynnu yna wedi bod yn gyflym iawn dros yr wyth mlynedd ddiwethaf," meddai'r Athro Jones.
"Mae'r ffaith fod pethau yn symud mor gyflym mewn cyfnod cymharol fyr, wir wedi fy nharo i.
"Erbyn rŵan mae'r clwstwr yna [o 2016] wedi chwalu.
"Mae'r rhai sy'n Gymreig yn unig wedi mynd yn sylweddol fwy rhyddfrydol ac adain chwith.
"Mae'r bobl gafodd eu geni yng Nghymru, ond sy'n ymwrthod â hunaniaeth genedlaethol Gymreig, wedi mynd yn adain dde iawn ac yn fwy ceidwadol hefyd."
A ydy un wedi arwain at y llall felly - ai safbwyntiau gwleidyddol sydd wedi arwain at newid hunaniaeth i rai?
"I rai ohonan ni, mae hunaniaeth genedlaethol yn fater syml iawn, ac mae'n anodd iawn dychmygu sut y gallen i deimlo unrhyw beth arall," meddai'r Athro Jones.
"Beth sy'n ddiddorol yn y cyd-destun Cymreig ydy bod cymaint o bobl efo hunaniaeth ddeuol.
"Felly pan mae gen ti opsiynau, falle bod ti'n mynd am yr hunaniaeth genedlaethol sy'n cytgordio efo'r gwerthoedd sydd yn gysylltiedig efo hynna."
'Hunaniaeth genedlaethol yn ail i fod yn rhiant'
Mae'r data felly'n awgrymu bod mwy o begynnu gwleidyddol yn digwydd yng Nghymru, a bod cyswllt cryfach bellach rhwng hunaniaeth a daliadau gwleidyddol pobl.
Ydyn ni'n debygol felly o weld pleidiau'n rhoi mwy o bwyslais ar hunaniaeth Gymreig neu Brydeinig, wrth agosáu at etholiadau Senedd 2026?
"Mae Llafur wedi bod yn llwyddiannus mewn etholiadau diweddar yng Nghymru yn chwarae'r gêm hunaniaeth genedlaethol," meddai'r Athro Jones, gan gyfeirio at y pwyslais ar Gymreictod gan Mark Drakeford a'i ragflaenwyr.
"Ydyn nhw'n gallu parhau i wneud ydy'r cwestiwn."
Ond nid yw wedi gweld llawer o dystiolaeth hyd yma bod pleidiau fwy asgell dde yn rhoi mwy o ymdrech i arddel eu Prydeindod.
"Mae Reform mewn sefyllfa ddiddorol, a 'dan ni'n gwybod llai am eu pleidleiswyr nhw," meddai.
"Mae'n ddiddorol eu bod nhw'n dweud ar hyn o bryd nad ydyn nhw'n gwrthwynebu datganoli, ac yn trio rhoi rhyw fath o wedd Cymraeg [ar bethau]."
Mae gan arweinydd newydd y Ceidwadwyr hefyd benderfyniadau i'w gwneud am drywydd ei blaid, meddai.
"Mae'n amlwg bod Darren Millar yn trio cau lawr y syniad yma eu bod nhw am fod yn blaid gwrth-ddatganoledig.
"Bydd o'n ddiddorol gweld i ba raddau maen nhw'n cael eu rhyddhau, oherwydd y newidiadau yn Llundain, i roi gwedd fwy Cymreig ar y blaid yng Nghymru.
"Neu ydyn nhw'n adlewyrchu lle mae eu haelodau presennol nhw, a sticio at werthoedd fwy unoliaethol, galed?"
I'r rheiny sy'n cwestiynu faint o bwyslais y dylid ei roi i hunaniaeth genedlaethol yn y bôn, mae gan yr Athro Richard Wyn Jones un ffaith arall i gloi.
"Mi fysa rhai pobl yn d'eud bod hunaniaeth genedlaethol ddim mor bwysig â hynny yn y pen draw, rhywbeth jyst ar gyfer diwrnod rygbi, neu beth bynnag," meddai.
"Ond pan 'dan ni'n gofyn [yn yr arolwg] i bobl am eu hunaniaethau nhw, a beth sy'n cyfrif iddyn nhw, maen nhw'n gallu dewis unrhyw beth.
"Ac mae hunaniaeth genedlaethol yn dod yn ail yn unig i 'bod yn rhiant'.
"Mae pob dim arall - dy ryw, dy rywioldeb, pa ddosbarth ti'n teimlo ti'n perthyn iddo, pa enwad wyt ti, pa grefydd - mae'r rheiny i gyd yn llai pwysig, yn ôl ein data ni, na hunaniaeth genedlaethol."
Gallwch wrando ar Richard Wyn Jones a Vaughan Roderick yn trafod canfyddiadau Astudiaeth Etholiad Cymru ar hunaniaeth genedlaethol ar bennod diweddar eu podlediad, Gwleidydda, ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020