Tîm pêl-droed yn ymladd Parkinson's ar y llwyfan rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gymru ddechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd, mae grŵp o bêl-droedwyr eraill o Gymru yn gobeithio codi cwpan ar lefel ryngwladol y penwythnos hwn.
Mae clwb pêl-droed Phoenix 681 o Gaerdydd yn paratoi i gystadlu yn Norwy yn erbyn timau ar draws Ewrop, mewn twrnament ar gyfer pobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson's.
Mae Parkinson's yn amharu ar allu'r ymennydd i gynhyrchu'r cemegyn dopamin, sy’n arwain at leihau gallu’r corff i reoli symudiad.
Ar hyn o bryd, nid oes meddyginiaeth sy’n gallu cynnig gwellhad llwyr i’r cyflwr.
Mae pob chwaraewr yn nhîm Phoenix 681 naill ai'n byw gyda'r cyflwr neu wedi’u heffeithio ganddo.
Yn ôl Antony Evans, un o sylfaenwyr y tîm sydd wedi byw gyda’r cyflwr ers 10 mlynedd, mae’r clwb bellach yn llawer mwy na thîm pêl-droed yn unig.
“Collais lawer o hyder pan gefais fy niagnosis, ond mae bod yn rhan o’r tîm hwn wedi bod yn hynod bwysig,” meddai ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.
Mae dau bwrpas i’r tîm - mae arbenigwyr yn argymell ymarfer corff i helpu rheoli symptomau Parkinson, ac mae hefyd yn gyfle i’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr, neu’n cefnogi rhywun â Parkinson, i drafod a chefnogi eraill mewn sefyllfa debyg.
“Dyw e ddim jest yn fframwaith sydd yn helpu gyda manteision corfforol - mae’n helpu gyda llawer o bethau eraill hefyd," meddai Antony.
"Dwi o'r Cymoedd yn wreiddiol - ardal lle chi ddim yn siarad am eich emosiynau.
"Ond roeddwn i’n edrych ar negeseuon yn mynd nôl a 'mlaen rhwng y bois yn sgwrsio am bethau personol ynglŷn â’r cyflwr, ac roedd yn neis gweld nhw’n rhannu tips a chwestiynau, ac yn bod yn gefnogol iawn.”
Dyma’r eildro i Phoenix 681 gystadlu yn y twrnament, ar ôl iddyn nhw gyrraedd y ffeinal yn Copenhagen ddwy flynedd yn ôl.
Mae’r twrnament wedi’i rannu’n ddwy gystadleuaeth – pêl-droed rhedeg a phêl-droed cerdded, ac mae gan Phoenix 681 dîm yn y ddau gategori.
Bydd 10 o dimau o ar draws Ewrop yn cystadlu yn Nhwrnament Ray Kennedy yn nhref Moss, Norwy eleni, gan gynnwys timau o Sweden, Denmarc, Lloegr a Gwlad y Basg.
Dyma’r 13eg tro i’r twrnament gael ei gynnal, ac fe gafodd ei greu a’i enwi ar ôl y cyn-seren Abertawe, Lerpwl ac Arsenal, Ray Kennedy - oedd yn byw gyda’r cyflwr am flynyddoedd.
Mae Antony yn gobeithio y bydd y tîm yn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr, sy’n effeithio ar oddeutu 153,000 o bobl yn y DU.
“Mae pawb yn gofyn o ble ddaeth yr enw - ond os ydych chi’n edrych ar y geiriadur cemeg, 681 yw rhif cemegol dopamin, a dyna yw’r cemegyn nad yw’n cael ei gynhyrchu mewn ymennydd person sydd â Parkinson’s.
"O’n i’n 41 oed pan ges i fy niagnosis, ond doedd llawer o ddoctoriaid heb ystyried y cyflwr oherwydd fy oed.
"Mae'r tîm efo broad range o bobl - yr hynaf yw 76 a'r ifancaf yw 39.
“Wnaethon ni gychwyn gyda saith neu wyth o bobl, jyst cyn Covid, ond erbyn hyn, mae gennym ni 27 o aelodau.
"Mae'n chwerw-felys oherwydd ein bod ni wedi tyfu cymaint - mae’n golygu bod mwy a mwy o bobl yn delio â’r cyflwr, ond rydyn ni yma i drio normaleiddio a chefnogi nhw.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd26 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Mai 2023