Cefnogaeth i bobl â chyflwr Parkinson's yn 'loteri'

  • Cyhoeddwyd
Antony Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Antony Evans wybod fod ganddo Parkinson's saith mlynedd yn ôl, yn 42 oed

Mae elusen sy'n cynrychioli'r bobl sy'n byw gyda'r cyflwr niwrolegol Parkinson's wedi beirniadu diffyg gofal arbenigol yng Nghymru.

Yn ôl Parkinson's UK Cymru, "loteri" yw'r gofal yng Nghymru i'r rheiny sy'n byw gyda'r cyflwr sy'n tyfu gyflymaf yn y byd.

Maen nhw'n dweud bod rhyw 7,600 yn byw â'r clefyd trwy'r wlad, a 23 o nyrsys llawn amser sydd ar gael i gynnig gofal arbenigol iddyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

Mae'r cyflwr Parkinson's yn amharu ar allu'r ymennydd i greu'r cemegyn dopamin, ac mae hynny'n lleihau gallu'r corff i reoli symudiad.

Does dim meddyginiaeth ar hyn o bryd all gynnig gwellhad llwyr.

Un sy'n byw gyda'r cyflwr yw'r cyn-chwaraewr rygbi, a thad i ddau, Antony Evans. Cafodd ddiagnosis yn 42 oed.

Mae'n dweud bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o'r cyflwr, hyd yn oed ymysg meddygon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim meddyginiaeth ar gael ar hyn o bryd fel bod claf yn gwella'n llwyr o'r cyflwr Parkinson's

Darganfyddwyd ei gyflwr saith mlynedd yn ôl, pan roedd yn paratoi am lawdriniaeth ar ei gefn oedd ddim yn gysylltiedig â Parkinson's.

"Methodd physios a doctoriaid eraill y cyflwr oherwydd fy oedran," meddai. "Mae angen i ddoctoriaid wybod am hyn - gall pobl dan 40 gael Parkinson's.

"Ges i ymarferion i'w gwneud fel [cymeriad y ffilm] Karate Kid - [y dechneg] 'wax on, wax off'. Roedd gyda fi ffenestri glân iawn, ond doedd dim pwrpas iddyn nhw.

"Doedd neb wedi ystyried Parkinson's am fy mod i'n 42 oed."

'Colli hyder'

Yn y 1990au hwyr a degawd cynta'r ganrif yma, roedd Antony'n chwarae yn yr ail reng i dîm enwog Caerffili a sicrhaodd ddyrchafiad am ddeg tymor yn olynol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae byw gyda'r cyflwr yn anodd i'r cyn-chwaraewr rygbi oedd yn arfer bod yn athletwr cryf a chorfforol

Roedd yn rhan o'r garfan a sicrhaodd fuddugoliaeth enwog yn Ffrainc - gêm Ewropeaidd a enillodd Caerffili o 31 pwynt i 20 yn Racing Club de France ym 1998.

Chwaraeodd yn erbyn rhai o gewri'r gem mewn gemau Ewropeaidd eraill yn erbyn Pau, Brive a Perpignan.

Ond mae cyflwr Parkinson's wedi gwneud bywyd yn anodd i un fu'n athletwr cryf a chorfforol.

"Roeddwn i dros 18 stôn - fi nawr yn 13 stôn. Mae hwnna'n cymryd dy hyder bant. Mae'n cymryd dy gryfder corfforol.

"Ti'n colli bach o hyder, a'r teimlad ti gallu amddiffyn dy deulu."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Antony a phawb arall sy'n gysylltiedig â Phoenix 681 FC yw y bydd y tîm yn codi ymwybyddiaeth ynghylch clefyd Parkinson's

Mae'n dweud ar rai boreau bod y cyflwr yn gwneud tasgau syml fel brwsio dannedd yn anodd. Ac mae'n dweud bod diffyg datblygiad o ran dealltwriaeth a thriniaethau Parkinson's.

"Mae Parkinson's yn rheoli fi ar hyn o bryd. Os yw'r meddyginiaeth ddim yn gweithio, fi ffili gwneud lot. Mae hynny'n anodd iawn i ddelio â fe.

"Mae'r meddyginiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio i drin Parkinson's nawr yr un peth â'r 1950s.

"Ar hyn o bryd, mae tipyn o sylw i gyflyrau niwrolegol fel MND, dementia a Alzheimer's. Ond Parkinson's yw'r un sy'n tyfu gyflymaf drwy'r byd. Does dim yr un buzz gan y cyfryngau a gwahanol sefydliadau amdano fe."

Disgrifiad o’r llun,

Antony Evans yn y gôl wrth i'r tîm ymarfer nos Lun diwethaf - nos Galan Gaeaf

Mewn ymdrech i wella ymwybyddiaeth am y cyflwr, mae Antony ac eraill wedi ail-frandio tîm pêl-droed yng Nghaerdydd i'r rheiny sy'n byw gyda'r cyflwr.

Bob nos Lun, mae Phoenix 681 FC yn cwrdd i ymarfer. Mae'r chwaraewyr oll yn byw gyda, neu wedi eu heffeithio gan Parkinson's.

Sbardun y rhif 681 yn yr enw yw mai dyna rif y cemegyn dopamin, sydd yn brin yn rheiny sydd yn byw gyda Parkinson's.

Mae dau bwrpas i'r tîm, gydag arbenigwyr yn argymell ymarfer corff i helpu rheoli symptomau. Mae hefyd yn gyfle i'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr, neu'n cefnogi rhywun â Parkinson's, i drafod a chefnogi eraill mewn sefyllfa debyg.

Maen nhw hefyd yn gobeithio bydd y tîm yn cynyddu ymwybyddiaeth am y cyflwr.

Treialon meddygol

Ar hyn o bryd, mae Antony yn teithio i Nottingham yn rheolaidd am wythnos ar y tro i fod yn rhan o dreialon meddygol.

Mae Parkinson's yn gyflwr sy'n gwaethygu gydag amser, ac mae Antony'n gobeithio bydd triniaethau'n gwella yn y dyfodol.

"Dwi'n trio stopio fy hun rhag meddwl am y dyfodol. I fod yn onest, dwi ddim yn credu bydd unrhyw beth i helpu fi cyn i fi popo mas o stage door left.

"Os alla'i wneud rhywbeth o ran profi triniaeth allai helpu eraill yn y dyfodol, dyna sy'n cadw fi i fynd - i helpu trio ff'indio triniaeth lwyddiannus at y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig