Parkinson's: Ymchwil arloesol gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe allai ymchwil yng Nghymru sy'n ceisio "gwrando" ar sgyrsiau rhwng celloedd yr ymennydd gael effaith "fyd-eang" ar ddealltwriaeth o'r cyflwr Parkinson's, yn ôl arbenigwyr.
Parkinson's yw'r ail gyflwr niwroddirywiol mwyaf cyffredin ar ôl Alzheimer's.
Ond ma' 'na ansicrwydd ynglŷn â beth sy'n achosi'r afiechyd oherwydd bod difrod sylweddol i gelloedd yr ymennydd yn aml yn digwydd cyn bo rhywun yn dangos symptomau.
Mae tîm o Brifysgol Caerdydd yn defnyddio technegau arloesol sy'n cynnwys gyrru celloedd "nôl mewn amser" i geisio deall beth yn union sy'n digwydd yn ystod y camau cynnar.
Mae'r elusen Parkinson's UK wedi cyfrannu dros £320,000 tuag at yr ymchwil.
Y gobaith yw y bydd yr ymchwil yn arwain at driniaethau newydd.
"Ry'n ni'n meddwl bod siwrne Parkinson's yn un hir," esbonia Dr Dayne Beccano-Kelly sy'n arwain yr ymchwil.
"Ry'n ni'n gweld symptomau yn aml mewn pobl hŷn ar gyfartaled tua 65 mlwydd oed, ond ni'n gwybod bod rhai celloedd yr ymennydd sy'n bwysig ar gyfer meddwl a symudiad yn stopio gweithio llawer cyn hynny."
"Yn aml ni'n gweld colled o 60-80% erbyn bod rhywun yn dod i'r clinig. Ac ry'n ni'n gwybod nad yw hynny'n digwydd dros nos.
"Y gobaith yw cynnig triniaethau yn gynt a gwella safon bywyd rhywun. Felly ry'n ni'n chwilio am fodel sy'n caniatáu i ni edrych a dilyn y cyflwr dros gyfnod o amser."
Mae'r ymchwilwyr yn gwneud hyn drwy ddefnyddio nifer o dechnegau arloesol.
I ddechrau ma' samplau o gelloedd y croen yn cael eu casglu o bobl sydd â Parkinson's ynghyd ag unigolion heb y cyflwr a'r rheiny yn cael eu hanfon i'r tîm.
Mae'r ymchwilwyr yng Nghaerdydd wedyn yn "troi cloc y celloedd yn ôl" neu yn eu "gyrru'n ôl mewn amser" fel eu bod nhw'n dychwelyd i fod yn gelloedd bonyn (stem cells), hynny yw celloedd yn eu cyflwr cynharaf.
Mae gan y celloedd yma'r potensial i ddatblygu i fod yn unrhyw gell arall.
Yna mae'r gwyddonwyr yn defnyddio amryw o dechnegau i annog y celloedd yma i ddatblygu i fod yn niwronau sef celloedd yr ymennydd.
Mae'r tîm wedyn yn defnyddio cyfarpar arbennig i "wrando ar y cyfathrebu" sy'n digwydd rhwng y celloedd hyn dros gyfnod o amser.
"Ry'n ni'n ceisio gwrando ar y negeseuon rhwng y niwronau - rhywbeth tebyg i ysbiwyr yn ceisio gwrando ar sgwrs rhwng unigolion," medd Dr Beccano-Kelly.
"Y cyfathrebu trydanol yma yw'r cod ar gyfer yr hyn sy'n gwneud ni i feddwl a symud - felly ma' gallu clywed hyn yn digwydd yn holl bwysig."
Drwy nodi gwahaniaethau syn digwydd dros amser mewn celloedd gafodd eu rhoi gan gleifion â Parkinson's o gymharu ag unigolion heb y cyflwr mae'r tîm yn gobeithio y gallan nhw ddeall yn well y ffactorau amrywiol allai gyfrannu at ddatblygiad y cyflwr.
Ymhlith y rhain yw anallu celloedd penodol i gael gwared ar wastraff all, yn y pendraw, arwain ar farwolaeth y gell.
"Ma'na lawer o bethau yn gallu effeithio ar waith niwronau. Meddyliwch amdano fe fel peiriant car yn torri lawr ar y ffordd i rywle," medd Dr Beccano-Kelly.
"Fe allai cyfuniad o wahanol bethe arwain at hynny a ma' deall beth sydd wedi digwydd a pryd yn help i ni wybod sut mae ymyrryd."
'Creu amodau'
Yn ôl Dr Sion Jones, meddyg ymgynghorol gofal yr henoed yn Ysbyty Gwynedd, fe allai'r ymchwil wneud cyfraniad sylweddol i gyflwr sy'n effeithio ar nifer cynyddol o bobl.
"Mae Parkinson's yn effeithio ar tua 145,000 o bobl ym Mhrydain a tua 7,500 o bobl yng Nghymru.
"Er bod 'na driniaethau allwn ni gynnig i geisio lleddfu'r symptomau, yn anffodus ar hyn o bryd does yna ddim triniaeth sy'n gallu atal y prosesau niwroddirywiol sy'n achosi'r cyflwr - ac wrth gwrs dyna'r ddelfryd.
"Mae'n bosib gall unigolyn efo Parkinson's fod yn datblygu cyflwr heb yn wybod iddyn nhw am flynyddoedd os nad degawdau cyn dod i glinig fel fy un i.
"Os allwn ni greu amodau mewn labordy lle allwn ni astudio beth sy'n digwydd i'r celloedd yn y cyfnod hynny ,ma hynny'n wych."
Mae'r Parkinson's UK Cymru yn deud fod yr elusen yn "falch iawn" o fod yn cefnogi'r ymchwil.
Dywedodd Gareth Hughes, llefarydd ar ran yr elusen: "Mae'n destun balchder i ni hefyd fod yr ymchwil yma yn digwydd yng Nghymru.
"Mae 'na lot o bobl yng Nghymru sydd â Parkinson's neu yn y gymuned Parkinson's yn cefnogi gwaith ymchwil fel hyn.
"Mae'r gwyddonwyr yn gwneud gwaith arbennig ond ma nhw'n dibynnu ar bobl a'r cyflwr i rannu eu profiadau."
Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn cryfhau enw da Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn benodol sydd eisoes yn gartref i un o'r canolfannau ymchwil pwysicaf yn y byd i gyflyrau fel Parkinson's, Alzheimer's a Huntingdon's.
Stori Eirwen
Cafodd Eirwen Malin, 72, sy'n byw yng Ngwenfô ger Caerdydd wybod bod ganddi Parkinson's naw mlynedd yn ôl.
Fe fuodd hi nôl a 'mlaen i'r meddyg teulu sawl gwaith gan ei bod yn teimlo'n rhyfedd ac yn cael rhywfaint o anhawster yn cerdded.
Yn y pen draw fe gafodd weld niwrolegydd.
"O'n i jyst mewn gyda fe am bum munud a wedodd e'n syth: Parkinson's."
Felly sut mae'r cyflwr yn effeithio ar ei bywyd bob dydd erbyn hyn?
"Mae'n gallu amrywio o ddydd i ddydd ac ambell waith o'r bore i'r nos."
"Mae rhai pobl â 'tremor'... does dim lot gyda fi yn ystod y dydd.
"Ond pan wy'n mynd i'r gwely ma' nghoes yn crynu a dwi'n methu cysgu a ma' diffyg cwsg yn cael mwy o effaith na'r 'tremor'.
"Ma' pobl eraill yn gallu bod yn hynod o stiff. Ma'na amrywiaeth o bethau sy'n dod at ei gilydd sy'n gwneud hwn yn gyflwr eitha' gwael yn y pen draw."
'Cynnig gobaith'
Ond ma' Eirwen yn bendant fod ymarfer corff a cadw'n weithgar yn caniatáu iddi reoli'r symptomau cymaint â bo modd.
"Ma' routine yn bwysig ac yn helpu lot.... dwi'n gwneud pethau sy'n 'neud i fi deimlo mod i'n cyflawni pethau gwerth chweil.
"Rwy 'di cwrdd â llawer o bobl â Parkinson's a'r rhai sy'n cadw'n brysur gan amlaf sydd mewn gwell cyflwr."
Er nad yw Eirwen yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn y gwaith ymchwil hwn mae'n cadw golwg manwl ar y datblygiadau diweddara sydd, meddai, yn cynnig gobaith ar gyfer y dyfodol.
"Os y'ch chi'n eistedd nôl a dweud 'dwi'n sâl nawr' yna mi fyddwch chi'n sâl. Dyna'r argraff rwy'n ei gael."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019