Gwahardd dau aelod o staff o ysgol lle bu'r pedoffeil Neil Foden yn bennaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dau aelod o staff wedi cael eu gwahardd o'r ysgol lle'r oedd y pedoffeil Neil Foden yn bennaeth.
Ysgrifennodd llywodraethwyr Ysgol Friars at rieni ddydd Mercher yn cadarnhau bod y gwaharddiadau wedi'u gwneud yn sgil gwybodaeth ddaeth i sylw Adran Addysg Cyngor Gwynedd.
Dydy natur y gwaharddiadau ddim wedi’i nodi, ond mae’r llythyr yn pwysleisio “nad oes unrhyw gyhuddiad o drosedd” ac nad ydy’r mater yn “destun ymchwiliad ehangach".
Tydi’r wybodaeth ddaeth i sylw'r swyddogion addysg ddim yn hysbys.
Mae datganiad ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Friars yn datgan bod gwaharddiad o’r gwaith yn “weithred niwtral”, er mwyn caniatáu i ymchwiliadau gael eu cynnal “yn briodol a thrwyadl”.
Maen nhw’n nodi mai’r corff llywodraethol sy’n gyfrifol am y broses, yn unol â threfniadau arferol yr ysgol, a chefnogaeth gan ymchwilydd annibynnol.
Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac wedi bod yn bennaeth strategol yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Cafodd ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf ar ôl cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Dywedodd Brian Jones, cadeirydd y llywodraethwyr yn ei lythyr at rieni: “Rydym yn deall fod sefyllfa o’r fath yn gallu peri pryder i ddisgyblion a chymuned yr ysgol, yn enwedig o ystyried y cyfnod heriol diweddar."
Mae’n dweud fod addysg a lles y disgyblion yn “parhau i fod yn flaenoriaeth”.
Wrth ddiolch i’r athrawon a’r staff cynorthwyol am eu hymroddiad i’w gwaith, cadarnhaodd fod "gwersi a gweithgareddau’r ysgol yn parhau".
Dywed Cyngor Gwynedd mewn datganiad: “Mae Corff Llywodraethol yr ysgol ac Adran Addysg y Cyngor yn cydweithio i sicrhau capasiti digonol fel bo’r ysgol yn gallu gweithredu’n effeithiol.
"Bydd unrhyw wybodaeth am faterion staffio yn cael eu rhannu gyda chymuned yr ysgol yn ôl yr arfer.
“Rydym yn ymwybodol ac yn deall fod y 14 mis diwethaf wedi bod yn ddigynsail o heriol i holl ddisgyblion a staff Ysgol Friars.
"Mae swyddogion o’r Adran Addysg wedi bod yn cydweithio gyda staff dysgu, staff cefnogol a llywodraethwyr i adfer a sefydlogi’r sefyllfa er budd holl ddisgyblion yr ysgol.
"Mae cefnogaeth – sy’n cynnwys trefniadau bugeiliol a chwnsela – yn parhau i fod ar gael i’r bobl ifanc a’r staff.”
Mae Newyddion S4C wedi gweld copi o lythyr gafodd ei anfon at staff ddydd Mercher lle mae Brian Jones, cadeirydd y llywodraethwyr yn dweud bod Lynne Hardcastle wedi ei phenodi i arwain yr ysgol tan y Nadolig.
Mae disgwyl iddi ddechrau gweithio'n llawn amser yn yr ysgol ddydd Llun nesaf.
Mae rôl pennaeth parhaol wedi cael ei hysbysebu tair gwaith.
Yn gynharach yn y mis fe ddywedodd Cyngor Gwynedd fod recriwtio wedi bod yn “heriol”, ac felly fod penderfyniad wedi ei wneud i recriwtio pennaeth dros dro.
Yr wythnos diwethaf, daeth cadarnhad bod Margaret Davies wedi’i phenodi’n bennaeth dros dro, ac mae disgwyl iddi ymuno ag Ysgol Friars ar secondiad am bedwar tymor o Pasg 2025 tan ddiwedd tymor yr haf 2026.
Ar hyn o bryd mae Margaret Davies yn bennaeth ysgol arbennig St Christopher yn Wrecsam.
David Healy, dirprwy bennaeth yr ysgol o dan Neil Foden, yw’r pennaeth dros dro ers Medi 2023.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024